13 Gorffennaf 2020

 

Yn anffodus, mae cyfyngiadau Covid-19 wedi tarfu ar Sioe Frenhinol Cymru eleni drwy atal miloedd o ymwelwyr o bob cwr o’r byd rhag ymweld, ynghyd â channoedd o arddangoswyr a da byw o’r radd flaenaf sydd oll yn helpu i wneud y digwyddiad blynyddol hwn yn un o’r uchafbwyntiau ar y calendr amaethyddol rhyngwladol. 

Er gwaethaf y siom enfawr o beidio dod ynghyd yn Llanfair-ym-Muallt yn hwyrach fis yma, bydd y sioe hon, un o’r fwyaf ei maint a’r mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, yn digwydd beth bynnag, er ei bod ar-lein y tro yma! Er na fydd y staff yn gallu estyn croeso cynnes ar stondin Cyswllt Ffermio eleni, mae Dewi Hughes, rheolwr datblygu technegol gyda Menter a  Busnes, sy’n gweithio gyda Lantra Cymru i ddarparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn dweud bod gan y gwasanaeth gynnig rhithwir cynhwysfawr i bob ffermwr a choedwigwr yng Nghymru sy’n fodlon ymuno ar-lein.

Bydd Sioe Frenhinol Cymru eleni (Gorffennaf 20 – 23) yn cynnwys rhaglen orlawn o weithgareddau ar-lein wedi eu cynllunio gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (RWAS) a nifer o’i rhanddeiliaid eithriadol o ffyddlon, sy’n cynnwys Cyswllt Ffermio. Gan weithio ar y cyd, maen nhw’n benderfynol o barhau’r traddodiad hirsefydlog o arddangos y ‘gorau o’r goreuon’ ymhob maes o’r diwydiant.

Mae Cyswllt Ffermio wedi llunio rhaglen thematig ar gyfer pedwar diwrnod y sioe, sy’n cynnwys cyfres o weminarau byw, sesiynau holi ac ateb, cyflwyniad gyda’r nos o ddigwyddiad ‘Yn Fyw o’r Fferm’ yn Sir Benfro, a llawer iawn mwy.

“Rydym wedi cynllunio wythnos orlawn ar gyfer y Sioe Frenhinol ‘rithwir’ gyntaf erioed, gyda rhaglen amrywiol a fydd, yn ein barn ni, â rhywbeth i’w gynnig i bawb, o’r rheiny sydd megis cychwyn ar eu taith broffesiynol, i fusnesau mwy sefydledig a datblygedig,” meddai Mr Hughes.

Bydd pob un o’r pedwar diwrnod yn cychwyn am 10am gyda gweminar a sesiwn holi ac ateb am sector penodol sy’n para hanner awr, gan roi cipolwg ar dueddiadau a grymoedd y farchnad ar hyn o bryd. Bydd gweithgareddau wedi eu cynllunio hefyd ar gyfer pob slot amser cinio, ac eto yn fuan gyda’r nos, gydag amrywiaeth o bynciau a siaradwyr.

“Rydym eisiau i bawb gynllunio ymlaen llaw ac archebu lle gynted ag y bo modd, felly ewch i wefan Cyswllt Ffermio gynted ag y gallwch i weld ein rhaglen ddyddiol fanwl ar gyfer ‘Sioe Frenhinol Cymru Rithwir’, yn ogystal ag arweiniad ar sut i gofrestru ar y rhaglen a mynd ati i wylio’r gweithgareddau a ddewiswch,” meddai Mr Hughes, a ychwanegodd y bydd unrhyw unigolion cymwys sydd heb gofrestru’n barod gyda Cyswllt Ffermio yn gallu gwneud hynny dros y ffôn, drwy ffonio Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Bydd Dydd Llun (20 Gorffennaf) yn canolbwyntio ar foch a dofednod. Bydd gweminar bore Llun wedi ei gyflwyno gan arbenigwr o Kantar UK, sef cwmni data, gwybodaeth ac ymgynghori blaenllaw a fydd yn darparu’r wybodaeth annibynnol ddiweddaraf am amrywiaeth o bynciau sy’n berthnasol i bob cynhyrchydd moch a dofednod.

Am 12.30pm, cewch eich ysbrydoli gan y cwpwl mentrus Kyle Holford a Lauren Smith sy’n magu eu brîd arbennig eu hunain o foch ‘Du Cymreig’ y coetir sy’n bwydo ar borfa ar fferm Forest Coalpit Farm ym Mannau Brycheiniog. Roedd rhaid i’r ddau ffermwr yma edrych ar ffyrdd newydd o weithio gyda’r hyn oedd ganddyn nhw’n barod pan ddaeth eu gwerthiannau arferol i’w sail cwsmeriaid bwyty arobryn i ben oherwydd Covid-19. Doedden nhw ddim yn hir yn addasu i’r newidiadau a ddaeth i’w rhan! Cyn hir roeddent wedi canfod marchnad newydd drwy werthu a darparu blychau cig moch yn uniongyrchol i’r cwsmeriaid. Gallwch glywed sut maen nhw wedi llwyddo i ddiogelu dyfodol eu busnes yn ystod eu cyflwyniad, a fydd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb byw.

Bydd y milfeddyg a’r arbenigwr moch uchel ei barch Bob Stevenson yn cynnal gweminar gyda’r nos ar iechyd a hwsmonaeth moch. Bydd hefyd yn pwysleisio gwerth opsiynau hyfforddi Cyswllt Ffermio ym maes iechyd a lles anifeiliaid.

Bydd Dydd Mawrth (21 Gorffennaf) yn troi’r sbotolau ar y sector cig coch. Bydd Hybu Cig Cymru yn cychwyn rhaglen dydd Mawrth gyda gweminar am yr hyn y gall ffermwyr ei ddisgwyl wrth i’r diwydiant cig coch baratoi ar gyfer heriau a chyfleoedd dyfodol y tu allan i’r UE ac ymdopi gydag ôl-effeithiau’r pandemig.

Bydd cyflwyniad amser cinio ar ‘Ychwanegion elfennau hybrin mewn ŵyn sy’n tyfu’, gan y milfeddyg fferm Victoria Fisher (Farm First Vets), a fydd hefyd yn rhoi canlyniadau prosiect safle ffocws diweddar gan Cyswllt Ffermio ar yr un pwnc.

Yn ystod y slot gyda’r nos, bydd yr academydd a’r ffermwr adnabyddus Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor yn esbonio sut mae’r sector amgylcheddol yn esblygu’n gyflym, a pham fod arferion da sy’n hawdd eu cyflawni nid yn unig yn well i’r amgylchedd ond hefyd yn arwain at fusnesau mwy proffidiol.

Mae Dydd Mercher (22 Gorffennaf) i ffermwyr llaeth. Bydd y cyflwynydd gwadd Patty Clayton, prif ddadansoddwr i AHDB Dairy, yn arwain y gweminar bore, gan roi trosolwg o’r farchnad laeth bresennol a chipolwg ar natur newidiol y sector laeth yn ddiweddar o ganlyniad i’r pandemig.

Bydd rhaglen datblygu personol flaenllaw Cyswllt Ffermio, yr Academi Amaeth, yn mynd ar yr awyr ar gyfer slot amser cinio dydd Mercher. Bydd grŵp o gyn-fyfyrwyr y rhaglen yn cynnal gweminar i siarad am eu profiad yn yr Academi Amaeth a’i dylanwad ar eu bywydau. Ymunwch â’r gweithgaredd hwn i ofyn eich cwestiynau i’r panel ac i glywed sut mae’r rhaglen unigryw hon o ymweliadau mentora, hyfforddi ac astudio’n effeithio ar ddyheadau personol, gyrfaol a busnes a mwy. 

Un o uchafbwyntiau’r wythnos fydd y digwyddiad ar y nos Fercher ‘Yn Fyw o’r Fferm’ o Fferm Mountjoy yn Nhrefgarn, Sir Benfro.

Bydd Dewi Hughes yn hwyluso’r digwyddiad rhyngweithiol ‘o bell’ hwn o fferm William Hannah, gan roi taith rithwir i’r cyfranogwyr o amgylch y fferm tir glas 186-hectar hon, sydd â buches o 360 o wartheg godro Fresian Seland Newydd a 200 o loeau.
“Beth am ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad ‘byw’ hwn ar y fferm, pan fydd panel gwadd o arbenigwyr llaeth adnabyddus yn trafod amrywiaeth fawr o bynciau.

“Cewch ganfod sut mae defnyddio technoleg genomig yn gwella cynhyrchiad llaeth ar fferm Mountjoy a sut mae defnyddio meillion yn helpu i ostwng faint o nitrogen a ddefnyddir – rhywbeth sydd o ddiddordeb i lawer o bobl wrth i’r diwydiant wynebu’r newidiadau sydd ar y gweill yn y rheoliadau NVZ,” meddai Mr Hughes a ychwanegodd y bydd cyfle i ofyn cwestiynau’n fyw yn ystod y digwyddiad.

Mae Dydd Iau (23 Gorffennaf) i goedwigwyr a garddwriaethwyr. Ar ddiwrnod olaf y sioe ‘rithwir’ bydd Iwan Parry, cadeirydd Sefydliad Siartredig y Coedwigwyr, yn cychwyn y diwrnod gyda gweminar a fydd yn rhoi’r diweddaraf am farchnad y sector coedwigaeth ynghyd â throsolwg o’r patrymau cyflenwi, y galw a’r prisiau am bren yng Nghymru.

Yn y slot amser cinio bydd Chris Creed o ADAS yn cynnal gweminar i helpu darpar-arddwriaethwyr i ystyried eu hopsiynau cynyddol ar gyfer cynhyrchu mwy o incwm. 

Cliciwch yma i weld rhaglen Sioe Frenhinol ‘rithwir’ Cyswllt Ffermio a fydd yn dangos y dyddiadau, amseroedd, pynciau a siaradwyr i chi ynghyd ag arweiniad ar sut i gofrestru eich presenoldeb ar-lein. Cliciwch yma i weld yr amserlen.

Bydd yr holl weminarau wedi eu recordio a’u llwytho ar y wefan i’r rheiny sy’n colli unrhyw rai o weithgareddau’r wythnos.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o