Mae fferm bîff organig yn crynhoi 0.4kg y pen yn ychwanegol o gynnydd pwysau byw dyddiol o wartheg blwydd ar laswellt ers sefydlu system bori cylchdro.

Roedd y gwartheg ar Fferm Penrhiw, ger Llandysul, Ceredigion, yn cael eu stocio yn sefydlog, ond roedd Phil Cowcher a’i rieni, Tom ac Eva, yn awyddus iawn i gael gwell perfformiad o laswellt; byddai hyn yn eu galluogi i gynyddu eu cyfradd stocio a lleihau eu gofynion o ran dwysfwyd yn y fenter.

Fel Safle Ffocws Cyswllt Ffermio, fe wnaethant gychwyn ar brosiect i weld faint o bwysau ychwanegol y gellid ei gael i bob hectar o’r fferm o sefydlu system padogau gyda ffensys trydan a symud y gwartheg i borfa ffres bob un neu ddau ddiwrnod.

Buddsoddodd y teulu Cowcher £3,827 mewn seilwaith, gan gynnwys y ffensys trydan, system ddŵr a thrydanwr ac maent yn cael cyngor ar reoli gan James Daniel, o Precision Grazing.

Ar gyfartaledd mae’r padogau yn 0.75 hectar ar lwyfan pori 13.96ha.

Y dyddiad troi allan ar gyfer gwartheg a aned yng ngwanwyn 2016 ar gyfartaledd oedd 24 Mawrth, gyda grŵp o 20 wedi eu troi allan yn gynharach, ar 8 Mawrth. Roedd y gwartheg yn 388kg ar gyfartaledd wrth eu troi allan.

Yn y pythefnos cyntaf, symudwyd y grŵp i badog ffres bob dydd oherwydd ei bod yn wlyb iawn ond ers hynny maent wedi eu symud bob dau ddiwrnod.

Bedwar mis i’r treial ac mae’r gwartheg Stabiliser a Simmental croes wedi tyfu 1kg y dydd ar gyfartaledd mewn cymhariaeth â’r cyfartaledd hanesyddol ar y fferm, sef 0.6kg y dydd dan y system stocio sefydlog flaenorol; mae hyn yn cyfateb i gyfanswm o gynnydd pwysau ychwanegol o 2,592kg dros y cyfnod.

Cyfrifodd Phil Cowcher, ar y pris bîff organig presennol, bod y cynnydd pwysau byw ychwanegol yn werth £6,161. “Mae hyn yn golygu bod ein costau sefydlu gwreiddiol wedi cael eu talu 1.6 gwaith yn barod,” dywedodd.

Mae pori cylchdro wedi gadael iddo stocio’r llwyfan pori ar 4.08 o wartheg i’r hectar, neu 1,909.8kgLW/ha.

“Dan y system stocio sefydlog dim ond 2.1 o wartheg yr hectar y gallen ni eu cadw,” dywedodd Mr Cowcher.

Mae’r teulu wedi bod yn ffermio yn organig ers 2001, gan ffermio 200ha o dir sy’n eiddo iddynt, ar rent ac yn cael ei rannu.

Maent wedi bod yn cynyddu nifer y gwartheg, gan fynd â 70 o fuchod a heffrod Stabiliser yn bennaf at y tarw eleni mewn cymhariaeth â 60 y llynedd. Mae diadell o 950 o famogiaid ac ŵyn benyw Highlander yn cael hyrddod Highlander a Primera.

Ar sail canlyniadau’r treial Cyswllt Ffermio, maent yn awr yn cynllunio i gyflwyno pori cylchdro ar draws y fferm, i wartheg a defaid, a chynyddu eu cyfradd stocio.

“Mae pori cylchdro yn gofyn am fwy o reoli ac ychydig mwy o waith i osod y ffensys ond gallwch gymharu hyn â’r fantais anferth o ran perfformiad y gwartheg a’r glaswellt. Mae’n rhoi llawer mwy o reolaeth ar y glaswellt ac mae’n gwella ei ansawdd a’r defnydd ohono,” dywedodd Mr Cowcher.

Roedd y gwartheg wedi dysgu ymhen wythnos sut roedd y system ffens drydan yn gweithio. “Mae’r gwartheg yn llawer tawelach gan eu bod yn cysylltu pobl â chael eu symud i borfa ffres,’’ dywedodd Mr Cowcher.

“Mewn blynyddoedd blaenorol, mae rhai o’r gwartheg blwydd wedi bod yn anodd eu symud ond erbyn hyn maent yn ymddwyn fel gwartheg llaeth.”

“Mae’n rhoi llawer mwy o bleser hefyd pan fydd gwartheg yn tyfu’n dda ac yn edrych yn iach.”

Mae’n mesur y glaswellt yn wythnosol ac yn anfon y mesuriadau at Mr Daniel sy’n cynllunio maint y padogau a hyd y cylchdro. Mae taldra’r glaswellt pan ddaw’r gwartheg iddo, y tyfiant a ragwelir yn y glaswellt a’r gorchudd cyfartalog ar y system yn cael eu hystyried yn y cyfrifiad.   

Un ffactor a all gyfyngu ar bori cylchdro yw darparu dŵr i bob padog, ond dywed Mr Cowcher bod hyn wedi cael ei oresgyn yn rhwydd trwy redeg pibell ddŵr gyda nifer o hydrantau Kiwitech ar wyneb y caeau. Yna gall cafn llusgo symudol gael ei symud a’i gysylltu â’r ffitiadau cyflym yma.

Mae’r heffrod magu yn y grŵp, a gyrhaeddodd y pwysau targed i fynd at y tarw, sef 400kg, yn rhwydd yn 15 mis, yn awr, ar ôl cyfloi, yn dilyn tu ôl i’r gwartheg sy’n cael eu pesgi mewn system ‘arweinydd-dilynydd’, lle mae’r ddau grŵp yn cael eu symud yn ddyddiol. Trwy ddefnyddio’r dull hwn mae’r gwartheg sy’n cael eu pesgi yn cael bwyta fel y maent yn dymuno i’w galluogi i gael isafswm fel targed o 1.2kg o gynnydd mewn pwysau dyddiol dros y ddau fis nesaf.  

Gwerthir gwartheg i ABP yn 18-19 mis yn 300kg o bwysau ar y bach.

Yn ystod y gaeaf cyntaf mae’r gwartheg a’r lloeau dan do, gyda’r lloeau yn cael eu cychwyn ar ddogn trwy giatiau gwahanu, cyn eu diddyfnu. Mae dogn gaeaf y lloeau yn cynnwys meillion coch, barlys a silwair pys wedi eu tyfu gartref a 1.5kg y pen y dydd o geirch wedi eu rholio a dyfwyd gartref.

“Yn ystod blynyddoedd blaenorol, roedd y rhan fwyaf o’r gwartheg yn cael dwysfwyd i’w pesgi, ond eleni byddwn yn pesgi rhagor o wartheg ar laswellt yn unig,” dywedodd Mr Cowcher.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o