6 Ebrill 2020

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi creu cynllun darparu digidol er mwyn cadw mewn cysylltiad â’r diwydiant a chynnig yr holl gymorth sy’n bosibl yn ystod y pandemig coronafeirws. Gan fod holl wasanaethau wyneb i wyneb Cyswllt Ffermio wedi eu gohirio am y tro, bydd opsiynau megis webinarau, flogiau, podlediadau a fideo gynadledda yn ogystal â negeseuon e-bost, galwadau ffôn a negeseuon testun yn dod yn bwysicach fyth wrth i’r diwydiant wynebu’r argyfwng gyda’i gilydd.  

Dywed Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, fod staff Cyswllt Ffermio, ymgynghorwyr arbenigol a darparwyr hyfforddiant yn dod o hyd i ffyrdd newydd i gefnogi’r diwydiant ac i estyn llaw rithwir yn ystod y cyfnod anodd a phryderus hwn.

Dywed Mrs Williams fod nifer o fusnesau eisoes yn gwneud defnydd eang o dechnoleg, felly bydd defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Google Hangout, Microsoft Teams, Zoom a WhatsApp yn dod yn fwy a mwy aferol ar gyfer nifer o unigolion cymwys sydd eisiau derbyn gwasanaethau, atgyfnerthu eu sgiliau a rhwydweithio o bell.  

“I unrhyw un sy’n anghyfarwydd a’r dulliau hyn, gallwn hefyd ddefnyddio dulliau mwy traddodiadol, ond rydym ni eisiau eich sicrhau ein bod yn bwriadu parhau i gynnig cymaint o gefnogaeth, gwasanaethau a hyfforddiant â phosibl wrth edrych tua’r dyfodol, felly bydd negeseuon e-bost, ffôn, negeseuon testun a deunydd drwy’r post hefyd yn chwarae rhan.

“Os oes angen unrhyw gymorth gyda TGCh, mae gennym ni dîm cymeradwy o diwtoriaid arbenigol a fyddai’n gallu eich cynorthwyo gydag ymholiadau cyffredinol dros y ffôn a’ch helpu i baratoi ar gyfer ffyrdd newydd o weithio gyda ni.”

Mae holl wasanaethau wyneb i wyneb Cyswllt Ffermio wedi eu gohirio am y tro o ganlyniad i reoliadau’r llywodraeth i ‘aros adref ac osgoi unrhyw deithio nad yw’n angenrheidiol’, ond mae Mrs Williams yn dweud bod tîm Cyswllt Ffermio o 18 swyddog datblygu rhanbarthol ar gael ar ben arall y ffôn neu e-bost a’u bod eisiau clywed gennych chi os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon. 

“Gallwch dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut yr ydym yn bwriadu darparu ein hystod eang o wasanaethau cefnogi a throsglwyddo gwybodaeth, prosiectau arbennig a digwyddiadau a chymorthfeydd digidol ac ar-lein drwy edrych ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Cyswllt Ffermio’n rheolaidd. Ond yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn eich annog i gadw mewn cysylltiad gyda’ch swyddog datblygu.

“Bydd y tîm hwn, sydd bellach i gyd yn gweithio o adref, yn gallu eich cyfeirio at y wybodaeth sydd arnoch ei angen os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon penodol,” meddai Mrs Williams. 
“Mae pob swyddog datblygu eisoes yn ymchwilio i’r dulliau mwyaf priodol i gadw mewn cysylltiad gyda’r ffermwyr, garddwyr a choedwigwyr yn eu hardaloedd, sy’n gwneud gwaith mor arwrol er mwyn parhau i gynhyrchu’r bwyd, y cynnyrch a’r deunyddiau angenrheidiol yn ystod yr argyfwng byd-eang hwn.”

Bydd rhaglen gymorthfeydd un i un Cyswllt Ffermio ar gyfer y gwanwyn yn trafod pynciau gan gynnwys rheoli staff, cynllunio busnes, olyniaeth, adolygiadau ynni, cynllunio, marchnata ac arallgyfeirio, a byddant yn cael eu cynnal naill ai’n ddigidol neu dros yn ffôn, gyda’r cyntaf wedi’i drefnu ar gyfer 8 Ebrill. Cliciwch yma am restr o’r pynciau a’r dyddiadau ynghyd â chyfarwyddiadau ynglŷn â sut i archebu eich slot ar-lein neu dros y ffôn.

“Ar yr amod eich bod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio - ac os nad ydych chi neu aelodau o’ch teulu eisoes wedi cofrestru, mae’r broses yn syml a gallwch wneud hynny ar-lein neu dros y ffôn - gallwn drefnu ymgynghoriad wedi’i ariannu’n llawn drwy’r cymorthfeydd digidol priodol sydd eisoes wedi’u cynllunio.   Os nad yw eich ymholiad o fewn cwmpas ein cymorthfeydd, byddwn yn trefnu trafodaeth gydag un o’n hymgynghorwyr technegol cymeradwy.

“Mae hyn yn golygu y dylem allu canfod yr atebion sydd arnoch eu hangen yn sydyn dros y ffôn neu’n ddigidol, ac os ydych chi’n teimlo bod angen cefnogaeth bellach arnoch, gallwch ystyried ymgeisio ar gyfer Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, sydd wedi’i ariannu hyd at 80% ar gyfer ceisiadau unigol ac wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer grwpiau o dri neu fwy.”

“Rydym ni’n gwybod nad oes modd parhau i wneud popeth fel ag o’r blaen, ond fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i’ch cynorthwyo, i gadw ysbryd ac i’ch helpu i barhau i weithio a gwella eich sgiliau mewn modd effeithlon a diogel.” 

Yn gynharach yr wythnos hon, lansiodd The Farming Community Network adnodd ‘FarmWell Wales’, gyda chymorth Llywodraeth Cymru,  sy’n cynnig ffynhonnell o adnoddau am ddim sy’n cynnwys canllawiau defnyddiol a hawdd eu dilyn, cyngor a chysylltiadau i’ch cadw chi a’ch busnes yn gryf drwy’r cyfnod heriol hwn a’ch cynorthwyo i gynllunio’n bositif ar gyfer y dyfodol. Mae manylion am y fenter newydd i’w gweld ar wefan farmwell.wales / farmwell.cymru, ynghyd â chyfeirlyfr copi caled a anfonwyd drwy’r post i oddeutu 16,500 o fusnesau fferm ar draws Cymru. 

Bydd Cyswllt Ffermio yn parhau i e-bostio neu bostio taflenni’n nodi’r hyn sydd ar y gweill a’r bwletinau technegol bob deufis i bob busnes sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Yn ogystal, byddwn yn anfon diweddariadau drwy’r sianeli cyfathrebu arferol, y wasg a’r cyfryngau ynglŷn â phrosiectau, mentora, trefniadau sgiliau a hyfforddiant a’r holl wasanaethau eraill sy’n cael eu hadolygu wrth i’r sefydliad geisio canfod ffyrdd i gymryd lle gweithgareddau wyneb i wyneb. 

Am fanylion cyswllt swyddogion datblygu Cyswllt Ffermio a map sy’n dangos yr ardaloedd lle maent yn gweithio, cliciwch yma. Fel arall, ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.  

Cliciwch yma am ganllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r coronafeirws

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o