3 Ebrill 2019

 

Parasitiaid mewnol yw un o’r afiechydon mwyaf cyffredin a phwysicaf y mae’n rhaid i ffermwyr da byw ymdrin â nhw yn ddyddiol. Bydd y Prosiect Rheoli Parasitiaid yn monitro’r baich o barasitiaid ar 10 fferm ar draws Cymru a byddant yn rhoi adroddiad am y canfyddiadau yn gyson i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ffermwyr am y cynnydd a’r camau a gymerwyd i reoli a monitro parasitiaid.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar barasitiaid mewnol y stumog (llyngyr) a defnyddir cyfrif wyau ysgarthol cyson i fonitro’r baich o lyngyr mewn defaid a gwartheg.  Yn ogystal â rhoi adroddiad am y baich a geir trwy’r tymor, bydd y prosiect hefyd yn rhoi adroddiad am unrhyw newidiadau i reoli llyngyr ar ffermydd fel amseru a dewis triniaethau.

Bydd y prosiect yn cael ei reoli gan Techion sydd â phrofiad eang o reoli parasitiaid a bydd pob fferm yn cael defnyddio’r llwyfan FECPAKG2 sy’n dechnoleg sy’n caniatáu cyfrif wyau ysgarthol ar y fferm trwy gyflwyno delwedd sampl digidol ar-lein i’w ddadansoddi ac mae’r canlyniadau yn cael eu hanfon yn ôl trwy e-bost. Gan fod y system yn casglu’r wybodaeth am yr anifail a’r cyfrif wyau ar-lein, mae ar gael yn rhwydd i roi adroddiadau i’r gymuned amaethyddol ehangach. Gall y canlyniadau gael eu copïo yn awtomatig i filfeddyg y fferm i helpu i roi rhagor o gyngor ac i gyd-fynd â chynlluniau iechyd buches a diadell y fferm.

Bydd pob un o’r ffermydd yn cael cyngor penodol ac argymhellion gan y cynlluniau SCOPS a COWS. Pan fydd yn bosibl bydd pob fferm yn profi am wrthedd i’r driniaeth / effeithlonrwydd a bydd hyn yn galluogi'r ffermydd sy’n rhan o’r cynllun i reoli sefyllfaoedd lle mae gwrthedd yn bresennol.

Gwelwyd adroddiadau niferus bod gwrthedd i driniaeth llyngyr a ddefnyddir i ddefaid yn gyffredin erbyn hyn. Dangosodd canfyddiadau prosiect WAARD HCC yn 2015 bod gan 60% o’r ffermydd yn yr astudiaeth wrthedd ar ryw lefel i’r tri o’r prif grwpiau o driniaethau llyngyr (1BZ, 2LV, 3ML). (gweler yr adroddiad llawn yma).

“Llyngyr yw’r ail beth i gael mwyaf o ddylanwad ar berfformiad ŵyn (ar ôl maeth) ac felly dylid ystyried y gwrthedd eang hwn fel un o’r sialensiau iechyd pwysicaf sy’n wynebu’r diwydiant” dywedodd Eurion Thomas o Techion. “Nid yw’r stori mewn gwartheg mor glir gan fod llai o waith wedi ei wneud ar ffermydd gwartheg, ond mae triniaeth gyffredinol i’r gwartheg i gyd yn dal yn arfer cyffredin ac yn rhywbeth y mae angen i ni ei leihau i atal datblygiad gwrthedd i’r triniaethau llyngyr i wartheg a dibyniaeth ar driniaethau meddyginiaethol”

Er gwaethaf llwyddiant yn codi ymwybyddiaeth, gwelwyd diffyg o ran newidiadau gwirioneddol ar ffermydd gyda’r mwyafrif o ffermwyr ddim yn monitro cyfrif wyau a’r rhan fwyaf ddim yn gwybod eu statws o ran gwrthedd i driniaeth llyngyr. Bydd y prosiect yn gweld a fydd defnyddio technoleg i wneud profi wyau ysgarthol yn fwy hygyrch a haws yn helpu i newid y duedd.

“Helpu ffermwyr i wella perfformiad stoc trwy reoli’r baich parasitiaid yn well a gwrthedd yw un o brif amcanion y prosiect hwn” dywedodd Gwion Parry o Cyswllt Ffermio. “Ar yr un pryd, mae angen i ni ystyried symud y diwydiant oddi wrth driniaethau cyffredinol cyson ar gyfer llyngyr. Mae ffermwyr wedi dangos y ffordd yn y cynnydd anhygoel wrth leihau’r defnydd o wrthfiotigau ac rydym yn gobeithio, trwy’r prosiect hwn, y gallwn roi rhagor o wybodaeth ac offer i ffermwyr i weithredu’r un egwyddorion o ran anthelmintigau (triniaethau llyngyr).” 

Bydd y prosiect yn rhedeg am gyfnod o 6 mis i gychwyn rhwng Mawrth 2019 a Medi 2019.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites