4 Mai 2018
Mae’r ail o gyfres o gyfarfodydd sy’n anelu at drechu llygredd dŵr wedi cael ei gynnal gan Cyswllt Ffermio yn Llanelwy, ar gyfer ffermwyr sy’n ffermio ger yr afon Gele.
Mae 28 o gyrff dŵr yng Nghymru wedi cael eu henwi gan CNC fel ardaloedd nad ydynt yn bodloni’r safonau gofynnol. Mae’r cyfarfodydd hyn yn rhan o ymgyrch cenedlaethol ehangach sydd wedi’i anelu at annog ymrwymiad gan y diwydiant i waredu llygredd er mwyn dangos safonau uchel ac enw da ffermio yng Nghymru.
Mae ansawdd dŵr y Gele, yn enwedig lefelau bacteria sy’n dod o dda byw ar ffermydd, yn gallu effeithio ar ansawdd Dŵr Ymdrochi’r CE ar draeth y Rhyl. Er mwyn sicrhau bod y dyfroedd ymdrochi ar hyd arfordir gogledd Cymru yn lân ac yn ddiogel, mae’n gyfrifoldeb ar bawb i fynd i’r afael â pheryglon llygredd amaethyddol ac i sicrhau bod adnoddau fferm yn cael eu defnyddio’n effeithlon, a fydd yn hybu cynhyrchiant busnesau fferm ac yn diogelu’r amgylchedd ar yr un pryd.
“Roedd y wybodaeth a roddwyd yn ystod y digwyddiadau’n werthfawr iawn, ac roeddem ni’n hapus iawn gyda nifer y ffermwyr a oedd yn bresennol,” meddai Einir Williams, Rheolwr Rhanbarthol Cyswllt Ffermio. “Mae’n dangos bod ffermwyr yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r mater a’u bod wedi ymrwymo i wella ansawdd dŵr ar gyfer pawb.”
Yn ystod y digwyddiad, bu Keith Owen, ADAS, yn rhoi cyngor ac arweiniad i ffermwyr yn ymwneud â thrin a storio silwair a slyri, effaith dŵr glaw a throsolwg o ddeddfwriaeth bresennol a materion at y dyfodol.
“Un o brif negeseuon Keith yn ei gyflwyniad oedd bod gwelliannau bychain, sy’n aml yn gymharol rad, yn gallu arwain at fuddion sylweddol yn economaidd ac yn amgylcheddol.” eglurodd Einir.
“Er enghraifft, mae cafnau a pheipiau glaw sydd wedi torri’n cael eu diystyru neu eu hanwybyddu’n aml ar ffermydd, ond byddai peipiau glaw wedi torri ar sied nodweddiadol 100m x 60m yn gallu arwain at 180 metr ciwbig o ddŵr glaw yn cyrraedd eich storfa slyri, sy’n gyfwerth ag 11 taith ychwanegol gyda thancer 2000 galwyn i waredu beth oedd yn ddŵr glaw glân.”
Cafodd mynychwyr gyfle i ddysgu am y ffyrdd y gall Cyswllt Ffermio gefnogi ffermwyr Cymru i wneud newidiadau cadarnhaol. Gall Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio ddarparu cyllid 80% ar gyfer cyngor arbenigol, annibynnol, cyfrinachol wedi’i deilwra ynglŷn â chynllunio rheoli maetholion, rheoli a storio slyri a thail buarth ac isadeiledd fferm. Gall busnesau cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio hefyd gael mynediad at gyllid 100% (hyd at uchafswm o €1500) fel rhan o grŵp o 3 neu fwy.
“Ein bwriad yw ffurfio grŵp Agrisgôp yn yr ardal er mwyn darparu cefnogaeth i ffermwyr yn ymwneud â chyflwyno dulliau newydd o ddiogelu a gwella ansawdd dŵr a chyflwyno manteision ychwanegol i fusnesau fferm,” meddai Einir. Dylai unrhyw fusnesau sy’n dymuno dysgu mwy am Agrisgôp neu ymuno â’r grŵp Agrisgôp gysylltu gyda Cyswllt Ffermio.
Un o’r gwasanaethau ychwanegol a gynigir gan Cyswllt Ffermio yw’r Cymorthfeydd Cynllunio. Mae’r cymorthfeydd yma’n galluogi ffermwyr i drafod eu hymholiadau gydag arbenigwr cynllunio am hyd at awr, a hynny am ddim. Mae hyn yn gyfle delfrydol i drafod materion cynllunio sy’n benodol i’ch fferm a sicrhau eich bod yn derbyn digon o wybodaeth ac wedi paratoi’n ddigonol cyn mynd at eich awdurdod cynllunio lleol.
Mae cefnogaeth arall gan Cyswllt Ffermio yn cynnwys; gwasanaeth mentora un i un, lle gall ffermwyr dderbyn hyd at 22.5 awr o fentora gan ffermwr profiadol arall sydd wedi mynd i’r afael â materion ac wedi cyflwyno atebion newydd ar eu ffermydd; y gwasanaeth cefnogi Cynllun Rheoli Cynaliadwy, sy’n rhoi cefnogaeth i ffermwyr ar gyfer ymgeisio am gymorth ariannol am amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn gwella rheolaeth o’n hadnoddau naturiol; ac EIP Wales, sy’n darparu cymorth ariannol i grwpiau sydd â syniadau arloesol ynglŷn â sut i drechu llygredd amaethyddol.
Am ragor o fanylion ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn, cliciwch yma neu cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.