Mae trawsnewid o ddefnyddio system draddodiadol o dorri silwair deirgwaith i dorri’n amlach wedi gwella ansawdd porthiant ar fferm coleg yn Sir Gâr.

Mae Gelli Aur, un o Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio, a chartref Digwyddiad Dom a Phridd Brenhinol Cymru 2017, yn treialu system o dorri sawl gwaith a hefyd yn archwilio’r gwahaniaeth costau rhwng cynaeafu gan ddefnyddio peiriant torri manwl gywir a wagen borthiant.

jamie mccoy and dave davies with silage samples landscape 2
Er nad yw canlyniadau llawn yr arbrawf Cyswllt Ffermio ar gael nes i’r porthiant gael ei fwydo i’r fuches yn ystod y gaeaf, mae’r ffigyrau ansawdd silwair a ranwyd gyda ffermwyr yn ystod y Digwyddiad Dom a Phridd yn galonogol iawn, yn ôl yr Ymgynghorydd Silwair annibynnol, Dave Davies, Silage Solutions, sy’n cynorthwyo gyda’r prosiect.

Roedd dadansoddiad o’r samplau a gymerwyd o silwair a dorrwyd ar y 4ydd o Fai – gan ddefnyddio’r ddwy system mewn gwahanol gaeau a’u rhoi mewn clampiau ar wahân – yn dangos protein crai o dros 18% a ME o dros 11%.  “Dyma’r math o silwair y dylai ffermwyr llaeth fod yn ei gynhyrchu,” meddai Dr Davies.

Mae lefelau ME uchel yn cael effaith cadarnhaol ar iechyd y rwmen. “Gan fod yr ansawdd gymaint gwell, mae angen mwy o silwair a llai o ddwysfwyd yn y diet, ac mae hyn yn gwella gweithgaredd y rwmen gan fod silwair yn haws i’w dreulio,” meddai Dr Davies.

“Dylai pob ffermwr fod yn anelu at wella ansawdd y silwair a gynhyrchir. Os oes modd i chi gynyddu faint o borthiant yr ydych yn ei roi, byddwch yn gweld llai o broblemau iechyd. Ni fydd ffermwyr byth yn ystyried costau ychwanegol unrhyw broblemau iechyd yn y fuches wrth wneud silwair o ansawdd salach.”

Trwy dorri’n amlach, mae gwerth yr egni yn y glaswellt yn cynyddu, ychwanegodd Dr Davies. “Ni fyddwn byth yn pori gwartheg yn y caeau yr ydym yn eu torri fel silwair, felly pam ei bod hi’n dderbyniol i fwydo’r glaswellt iddynt ar ffurf silwair?”

Er ei bod yn gallu bod yn heriol i ffermwyr mewn ardaloedd gwlypach yng Nghymru i dorri ynghynt, gall fod yn fanteisiol mewn ardaloedd sy’n cael llawer o law gan fod cnydau’n ysgafnach, ac felly’n sychu ynghynt.

Mae contractwyr sy’n defnyddio peiriant torri manwl gywir yn codi ffi ar sail fesul erw fel arfer, tra bod torri gyda wagen borthiant yn costio fesul awr.

Dywedodd Jamie McCoy, Swyddog Technegol Llaeth (De Cymru), nad yw’r astudiaeth Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn bwriadu profi bod un modd o gynaeafu’n well na’i gilydd. “Mae’n ymwneud ag archwilio effeithlonrwydd costau system torri sawl gwaith yn gyffredinol. Mae lle i’r ddau ar fferm, gan ddibynnu ar system y fferm ei hun.”

Cafodd ymwelwyr â stondin Cyswllt Ffermio yn ystod y Digwyddiad Dom a Phridd hefyd gyfle i ddysgu sut mae Ffermwr Arddangos Cyswllt Ffermio yn ceisio gwella tir glas a lleihau mewnbynnau gwrtaith trwy dargedu mewnbynnau maeth.

Mae cwmni Agrii SoilQuest yn defnyddio sganio gyda thechnoleg dargludo trydan ar Fferm Plas, Ynys Môn, er mwyn canfod gwahaniaethau mewn pridd a rheoli caeau’n seiliedig ar yr amrywiadau hynny.

ben burgess and jamie mccoy
Dywedodd Ben Burgess o gwmni Agrii SoilQuest, bod defnyddio’r arddull hwn yn golygu nad oes rhaid i ffermwyr bellach gymryd agwedd mor gyffredinol tuag at wella cynnyrch glaswellt.

Roedd gweithgareddau Cyswllt Ffermio yn ystod y Digwyddiad Dom a Phridd hefyd yn cynnwys cyflwyniad ar gynnal strwythur da i’r pridd, gan yr arbenigwr glaswellt annibynnol, Chris Duller.

Gall ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio dderbyn cymorth ariannol ar gyfer Cynlluniau Rheoli Maeth trwy’r Gwasanaeth Cynghori. Caiff hwn ei ariannu hyd at 80% ar sail unigolyn, neu gellir ei ariannu’n llawn ar gyfer tri busnes neu fwy sy’n derbyn cyngor fel grŵp.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites