14 Mai 2019
Mae’r ferch fferm, Elin Haf Williams, sy’n byw ar fferm bîff a defaid cymysg ei theulu yn Llanwrin, ger Machynlleth, wedi cael ei phenodi’n swyddog datblygu ar ran Cyswllt Ffermio ar gyfer ardal De Sir Drefaldwyn.
Mae Elin yn treulio llawer o’i hamser hamdden yn cynnig help llaw ar y fferm lle mae’n ymwneud â phob agwedd o’r busnes, sy’n cadw diadell o famogiaid mynydd Cymreig yn bennaf, ynghyd â buches sugno.
Ar ôl mynychu Ysgol Bro Ddyfi, aeth Elin ymlaen i astudio daearyddiaeth gydag elfennau o amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn fuan wedi iddi raddio, cafodd ei phenodi i swydd gyda CFfI Cymru yn eu prif swyddfa yn Llanelwedd, lle bu’n gweithio fel swyddog gweithrediadau ar gyfer materion gwledig a gwaith ieuenctid. Gan ei bod yn awyddus i ehangu ei gorwelion, ymunodd â Chyfoeth Naturiol Cymru ar ôl 14 mis i weithio ar brosiect byr yn hyrwyddo arfer dda o ran lleihau llygredd amaethyddol ar ffermydd llaeth.
Mae gan Elin gylch eang o gysylltiadau yn Llanwrin a’r ardal gyfagos, ac mae’n aelod brwd o CFfI Bro Ddyfi. Mae hi’n aelod o bwyllgor materion gwledig y grŵp ar hyn o bryd, ac mae’n mwynhau pob agwedd o elfen gymdeithasol y clwb, gan gystadlu’n rheolaidd a chymryd rhan yn y rali a gweithgareddau eraill ym meysydd cerddoriaeth, theatr a siarad cyhoeddus.
Mae’n ffyddiog y bydd ei chefndir amaethyddol o fudd wrth iddi gynorthwyo busnesau fferm a choedwigaeth yn ei hardal leol i fanteisio ar yr holl gefnogaeth sydd ar gael drwy raglen Cyswllt Ffermio.
“Rydw i’n edrych ymlaen at fy swydd newydd gyda Cyswllt Ffermio ac yn gobeithio y byddaf yn gallu helpu gydag unrhyw broblemau neu bryderon sydd gan y ffermwyr, drwy eu cyfeirio at y pecyn gwasanaethau sy’n bodloni eu gofynion ar gyfer sgiliau personol a busnes, gan eu galluogi i berfformio hyd eithaf eu gallu.
“Mae cymaint o gefnogaeth, cyngor a hyfforddiant ar gael yn ymwneud ag ystod eang o bynciau, yn amrywio o wella ansawdd pridd a rheoli’r borfa i faterion iechyd anifeiliaid, ac o gynllunio busnes ac ariannol i brosiectau meincnodi.”
Mae Elin yn bwriadu mynychu marchnad da byw Y Trallwng yn rheolaidd ac mae'n gobeithio y bydd ffermwyr yn dod at i gyflwyno'u hunain. Bydd hi hefyd yn rheoli nifer o grwpiau trafod yn ymwneud â bîff, defaid a llaeth a fydd yn rhoi cyfle i aelodau edrych ar syniadau newydd a chwrdd â ffermwyr eraill gyda’r un meddylfryd.
Gallwch gysylltu ag Elin ar 07508 867212 neu elin.haf.williams@menterabusnes.co.uk.