rhiannon davies 0
Rhiannon Davies yw swyddog datblygu newydd Cyswllt Ffermio ar gyfer De Ceredigion.

Magwyd Rhiannon ar y fferm bîff a defaid deuluol yn Nhalgarreg, lle mae’n cynorthwyo ei rhieni a’i brawd i reoli diadell o 850 o famogiaid croes Cymreig a Beulah a 50 o wartheg sugno Belgian Blue croes a Limousin croes. Maent hefyd yn rhedeg menter cig llo sy’n pesgi oddeutu 100 o deirw Holstein Friesian y flwyddyn.

Graddiodd Rhiannon gyda gradd dosbarth cyntaf mewn rheolaeth busnes o Brifysgol De Cymru, a oedd yn cynnwys blwyddyn o brofiad gwaith yn gweithio gyda phrosiect mentergarwch Llywodraeth Cymru, Syniadau Mawr Cymru. Y swydd gyntaf iddi dderbyn ar ôl graddio oedd swyddog marchnata digidol ar ran Cyswllt Ffermio.

Mae Rhiannon yn gadeirydd CFfI Caerwedros ar hyn o bryd, ac mae eisoes wedi teithio i’r Ffindir a Norwy fel rhan o raglen gyfnewid y mudiad, a bydd yn teithio i’r Alban yn fuan. Yn ogystal ag estyn help llaw ar y fferm deuluol a’i rôl newydd gyda Cyswllt Ffermio, mae’n chwaraewr rygbi brwd, yn chwarae ar ran Clwb Rygbi merched Llambed.

Mae Rhiannon yn ffyddiog y bydd ei chefndir ym maes rheolaeth busnes a’i gwybodaeth am gymunedau gwledig yng Ngheredigion yn ei galluogi i wneud gwahaniaeth i ffermwyr a choedwigwyr yn ei hardal.

“Rydw i eisiau sicrhau eu bod yn ymwybodol faint o gefnogaeth sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio.

“Mae cymaint o wasanaethau a phrosiectau ar gael a phob un wedi’u llunio i helpu i drawsnewid effeithlonrwydd a chynhyrchiant busnesau yn y ffordd fwyaf effeithiol a phroffidiol posib, a fydd, yn ei dro, yn arwain y diwydiant yng Nghymru yn ei flaen.”

Bydd Rhiannon hefyd yn rheoli nifer o grwpiau trafod yn ymwneud â phynciau penodol, a fydd yn darparu cyfleoedd i ffermwyr archwilio syniadau newydd a chwrdd â ffermwyr eraill.

Er mwyn cysylltu â Rhiannon ac i ddarganfod mwy ynglŷn â sut all Cyswllt Ffermio fod o fantais i chi a’ch busnes, ewch i www.wales.gov/farmingconnect neu ffoniwch Rhiannon ar 07896 837 725.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites