natalie chappelle

Magwyd Natalie ar fferm yn Sir Frycheiniog sydd wedi bod yn ei theulu ers tair cenhedlaeth, ac mae’n dal i gynorthwyo gyda’r ddiadell sy’n cynnwys defaid Texel croes yn bennaf ynghyd â nifer fechan o wartheg stôr bîff a wedi’u magu gan ddefnyddio geneteg cyfandirol.

Ar ôl graddio mewn menter gwledig a rheolaeth tir ym Mhrifysgol Harper Adams a dwy daith i Seland Newydd lle bu’n cyfuno profiad gwaith amaethyddol gyda theithio, dychwelodd adref i weithio i gwmni sy’n arbenigo mewn elfenau hybrin mwynol a maeth bolws, ynghyd â chyflawni ei dyletswyddau fferm ar y penwythnosau.

Bellach, mae’r fam ifanc, Natalie a’i gwr yn ffermio fferm 100 erw ger Glasbury lle maent yn adeiladu diadell o ddefaid Berrichon pedigri sy’n  ‘galed, yn wyna’n rhwydd, ac yn hawdd i ofalu amdanynt’, ac maent yn gobeithio eu defnyddio ar gyfer rhaglen fagu cyfansawdd a’u dangos yn ystod yr haf.

“Rydw i eisiau annog ffermwyr a choedwigwyr yn fy ardal i ddefnyddio’r ystod eang o wasanaethau, digwyddiadau a hyfforddiant sydd ar gael iddynt trwy Cyswllt Ffermio. 

"Mae cymaint ar gael ar eu cyfer, gan amrywio o samplu pridd i ‘Mesur i Reoli’, rhaglen feincndi Cyswllt Ffermio, a phopeth wedi’i lunio i’w cynorthwyo i  gyflawni eu potensial fel busnesau llwyddiannus a hyfyw,” meddai Natalie.

Bydd Natalie yn ymwneud â rhwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio, ac mae’n dweud fod y rhwydwaith yn gyfle gwych i ffermwyr ddysgu dulliau newydd o weithio a gweld arferion gorau drostynt eu hunain.

“Byddaf hefyd yn gweithio gyda nifer o grwpiau trafod yn dilyn pynciau penodol, a fydd yn darparu fforwm perffaith i ffermwyr allu archwilio syniadau newydd a chwrdd â ffermwyr eraill,” meddai Natalie.

Er mwyn cysylltu â Natalie ac i ddarganfod mwy ynglyn a sut all Cyswllt Ffermio fod o fantais i chi a’ch busnes, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu ffoniwch Natalie ar 07985 379 928.

 

Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y