owain pugh 2
1 Mawrth 2018

 

Penodwyd Owain Pugh (29) yn swyddog datblygu Cyswllt Ffermio i Ogledd Sir Drefaldwyn. Mae Owain yn cymryd yr awennau gan y swyddog cefnogi amaethyddol lleol adnabyddus Gwenan Ellis, sydd wedi symud i swydd newydd gyda Menter a Busnes.

Magwyd Owain ar fferm fynydd y teulu yn Ninas Mawddwy, lle mae’n cyfuno ei waith i Cyswllt Ffermio gyda’i waith yn helpu ei dad a’i ddau frawd i reoli diadell o famogiaid Mynydd Cymreig yn bennaf. Mae Cyswllt Ffermio wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Ar ôl cwblhau diploma cenedlaethol mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon, aeth Owain i Brifysgol Aberystwyth, a graddiodd gyda BSc mewn amaethyddiaeth. Yna bu’n helpu adref ac yn gweithio i gontractiwr lleol nes iddo ymuno â Cyswllt Ffermio.

Mae Owain, sy’n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Dinas Mawddwy, yn dweud bod hyn wedi rhoi rhwydwaith gwych iddo o ffrindiau a chysylltiadau sydd â meddylfryd tebyg iddo. Mae cyfuniad ei gefndir ffermio a’i astudiaethau academaidd wedi rhoi diddordeb arbennig iddo mewn hwsmonaeth ac iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli glaswelltir.

Mae Owain yn mynd i Farchnad y Trallwng yn rheolaidd ac mae’n awyddus i gyfarfod ffermwyr a choedwigwyr yn ei ardal i’w hannog i gymryd rhan yn rhwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio, ei raglen digwyddiadau a’i wasanaethau cymorth.

“Mae Gwenan wedi adeiladu rhwydwaith eang o deuluoedd ffermio gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio dros gyfnod hir o amser, felly fy nod yw adeiladu ar hynny, gan gyrraedd cymaint o ffermwyr â phosib i sicrhau bod yr un lefel o wasanaeth a chefnogaeth yn parhau.

“Rwyf eisiau sicrhau bod busnesau fferm yn manteisio ar y prosiectau niferus y mae ein rhwydwaith arddangos yn eu cynnal, Mae’r rhain yn amrywio o drin cloffni mewn defaid i dreialu meillion arbenigol i ganfod a allent ffynnu fel cnwd porthiant yn hinsawdd Cymru.

“Rwyf hefyd yn awyddus i annog mwy o ffermwyr i feincnodi, oherwydd mae’r dull defnyddiol yma o gymharu’n helpu llawer o ffermwyr yng Nghymru yn barod i weddnewid cynhyrchiant ac effeithiolrwydd busnesau.

Mae Owain yn rheoli pum grŵp trafod ar bynciau arbennig ym meysydd ffermio llaeth, defaid a dofednod.

“Gall Cyswllt Ffermio ddarparu cefnogaeth mewn nifer o wahanol ddisgyblaethau, ac rwy’n mwynhau’r rôl o gyfeirio ffermwyr a choedwigwyr at y pecyn o wasanaethau a phrosiectau a fydd yn helpu i sicrhau bod eu busnesau’n perfformio ar eu gorau,” meddai Owain.

I gysylltu ag Owain, a chanfod sut y gallwch chi a’ch busnes elwa o ymwneud â Chyswllt Ffermio, cliciwch yma neu ffoniwch Owain ar 07904 457316.


Cwesitwn ac ateb

Nodweddion hanfodol ar gyfer y swydd? Mae’n bwysig bod â gwybodaeth dda o’r gwaith a bod yn gymeriad hawdd dod ymlaen ag o. Rwy’n mwynhau ffermio, felly gobeithio y gallaf drosglwyddo fy mrwdfrydedd i bobl eraill, ac yn sicr dyma pam mae fy nghefndir yn helpu.

Uchafbwynt eich swydd/yr hyn a garwch fwyaf am eich swydd? Rwy’n cael pleser mawr o helpu ffermwr i ganfod atebion i broblemau neu heriau. Mae gan Cyswllt Ffermio ran bwysig i’w chwarae – gallwn ddangos i ffermwyr sut beth yw llwyddiant, ac mae’n wych gweld ffermwyr yn defnyddio’r wybodaeth y maent wedi’i dysgu.

Os byddai cyfle i chi gyfnewid eich swydd gyda swydd unrhyw un arall am ddiwrnod, pwy fyddai hynny a pham? Byddwn wrth fy modd yn chwarae safle mewnwr i Gymru mewn gêm ryngwladol, ond byddai unrhyw chwaraewr rygbi brwd o Gymru’n dweud hynny! A byddai’n dda cyfnewid swydd am ddiwrnod gyda rhywun sy’n dechrau gweithio ychydig yn hwyrach na fi yn y bore! Dydy’r rhan fwyaf o ffermwyr ddim yn cael aros yn eu gwelyau yn y bore – mae’n rhaid bod yn barod i ymateb ddydd a nos os ydych yn cadw da byw!

Y cyngor gorau a gawsoch erioed – a gan bwy? Am fy mod wedi fy magu ar fferm, dw i’n meddwl bod gweld fy nain a thaid a’m rhieni’n gweithio’n galed wedi dangos i mi eich bod yn ‘medi’r hyn a heuwch’. Os byddwch yn gwneud eich gorau ac yn canolbwyntio ar eich tasg, rydych yn fwy tebygol o lwyddo mewn bywyd!

Beth sy’n gwneud i chi chwerthin? Mae llawer o bethau’n gwneud i mi chwerthin, gormod i’w henwi. Dw i’n meddwl bod cael agwedd optimistaidd ac edrych ar yr ochr orau’n gwneud i bopeth edrych yn well. Yn sicr, dw i’n rhywun sy’n gweld y positif ym mhopeth – ac mae hyn yn helpu pan ydych yn ffermwr sy’n wynebu ansicrwydd Brexit!

Y peth a achosodd y cywilydd mwyaf i chi? Efallai bod darllenwyr rheolaidd y golofn yn cofio un o’m cydweithwyr Cyswllt Ffermio’n dweud mai’r cywilydd mwyaf a deimlodd erioed oedd pan gafodd ei achub gan yr RNLI. Roeddem oll yn fyfyrwyr ar y pryd ac roeddem wedi prynu cwch cyflym braidd yn amheus ac fe aeth yn sych o betrol yn agos at y lan a chasglodd criw o dwristiaid pryderus ar y prom yn Aberystwyth i’n gwylio. Oedd, roeddwn i ar y cwch hwnnw! Fi oedd yr un a glymodd y rhaff at fy mwrdd syrffio i geisio symud y cwch! Ni symudodd fodfedd - mae RNLI yn elusen wych!

Pa dri pheth fyddech chi’n mynd â nhw gyda chi i ynys ddiffaith? O ystyried y pwynt diwethaf, hoffwn fynd â llyfr DIY ar drwsio cychod! Rwy’n mwynhau teimlo’n gysurus felly byddai cadair dorheulo’n syniad da, ac yn olaf hoffwn gymryd gitâr. Byddai gen i amser i ddysgu sut i’w chwarae!

Diddordebau heblaw ffermio? Gwylio rygbi a phêl-droed. Roeddwn yn arfer bod yn chwaraewr brwdfrydig iawn hefyd, ond mae gen i lai o amser erbyn hyn fel ffermwr, ac mae’n anodd cymryd amser o’r gwaith pan fyddwch wedi anafu.

Yr hyn rydych yn fwyaf balch ohono? Mae’n debyg bod hynny’n rhywbeth sy’n gysylltiedig â rygbi - enillais wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn i Glwb Rygbi Dolgellau rai blynyddoedd yn ôl – roedd hynny’n wefr fawr i mi o gofio mod i’n ifanc ac, fel y rhan fwyaf o bobl ifanc uchelgeisiol, rydych yn meddwl bod unrhyw beth yn bosibl ac rydych yn meddwl bod gennych siawns chwarae i Gymru!

Beth yw dyfodol ffermio? Dydyn ni erioed wedi gweithio mewn hinsawdd economaidd fwy ansicr a du, ond dydy hynny ddim yn golygu y dylem aros i weld beth sy’n digwydd. Gallai paratoi amdano fod yn allweddol i sicrhau dyfodol cynaliadwy a phroffidiol i bob ffermwr felly byddwn yn annog pob busnes i fanteisio ar yr holl gefnogaeth a chyngor sydd ar gael.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites