dylan and hanna wefan
Mae’r ffermwr ifanc Dylan Hughes a’i wraig Hanna, y ddau’n 29 oed, yn ffermio 64 erw o dir sy’n gyfuniad o dir ar rent a thir sy’n eiddo iddynt gerllaw Treffynnon yn Sir y Fflint. Dros y blynyddoedd diwethaf, eu prif fenter ar y fferm fu prynu lloeau croesfrid  i’w gwerthu fel gwartheg stôr 12 mis.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r cwpwl sydd â thri mab ifanc iau na chwech oed, wedi sefydlu menter peirianneg amaethyddol lwyddiannus sy’n trwsio peiriannau i ffermydd yn y rhanbarth. Mae’r fenter deulu hon wedi ehangu’n gyflym ac maent yn cyflogi Gethin (22), brawd iau Dylan, i helpu gyda’r cynnydd yn y galw.

Mae Dylan yn awyddus i sicrhau bod y fenter ffermio’n symud ar yr un cyflymder â’r busnes peirianneg, felly gwnaeth gais am gefnogaeth cynllunio busnes drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, sydd i’w gael gyda chymhorthdal o hyd at 80% i fusnesau cymwys. Mae Cyswllt Ffermio wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Gwyddai Dylan fod angen iddo ehangu’r fenter wartheg er mwyn sicrhau’r incwm a’r elw gorau o’r ardal y mae’n ei ffermio. Roedd wedi cadw buchod sugno ar y tir hyd fisoedd cynnar 2015 ond am fod y tir oedd ar gael ar gyfer pori’n gyfyngedig gwyddai na fyddai’n ddewis ymarferol i ail-sefydlu buches sugno.

Gofynnodd Dylan i Graham Leaver o AgriPlan Cymru, un o’r naw cwmni ymgynghori arbenigol sydd wedi eu cymeradwyo i ddarparu’r Gwasanaeth Cynghori ar ran Cyswllt Ffermio, wneud dadansoddiad manwl o bob agwedd o’r busnes.

“Mae cyngor Graham wedi bod yn hynod o werthfawr a, diolch i’w gynllun busnes sydd wedi rhoi camau gweithredu clir i ni eu cymryd, gwnaethom gais cynllunio llwyddiannus i godi ail sied wartheg. 

“O ganlyniad i’r cais yma rydym wedi gallu ehangu’r fenter lloeau sydd gennym ar hyn o bryd sy’n prynu lloeau’n bedair wythnos oed, ac yn eu gwerthu fel gwartheg stôr 12 mis,” meddai Dylan.

Mae gan Dylan ddwy sied wartheg sy’n mesur oddeutu 1,350 o droedfeddi sgwâr yr un, ac mae’r ddwy’n cadw 50 o wartheg dros y gaeaf. Yn y gwanwyn, mae’r gwartheg sy’n chwe mis oed ac yn hŷn yn cael eu troi allan i bori ac yn aros tu allan nes bo’r tywydd yn mynd yn rhy ddrwg neu’r glaswelltir yn rhy wlyb.

Ar ôl pwyso a mesur y buddsoddiad cyfalaf yn erbyn yr ad-daliad a ddisgwylir, cynghorodd Graham fod Dylan yn gwneud cais cynllunio arall am drydydd adeilad da byw oherwydd teimlai y byddai hynny’n cynyddu elw’r busnes yn sylweddol.

“Y gobaith yw y bydd y cam datblygu nesaf yn golygu ei fod yn adeiladu sied newydd sy’n llai o faint a fydd yn ei alluogi i wahanu’r lloi iddi wrth y stoc hŷn. Bydd awyru a llif awyr yn allweddol yn yr adeilad newydd, ac yn ychwanegol at gynnal safonau uchel o ran iechyd a lles yr anifeiliaid, credaf y bydd Dylan yn gweld mwy o dyfiant eto o ganlyniad i hyn,” meddai Graham.

Unwaith y bydd y drydedd sied wedi ei hadeiladu, bydd nifer y lloeau a brynnir ac a werthir yn cynyddu o 100 neu fwy bob blwyddyn, ac er na ddisgwylir i fantais ariannol llawn yr ehangiad yma ddod yn amlwg tan haf 2018, mae hwn yn brosiect tymor hir a ddylai ddod ag elw rhagorol am y buddsoddiad,” ychwanegodd.

Mae Dylan yn frwdfrydig iawn ynghylch y gwasanaethau trosglwyddo gwybodaeth a chefnogaeth a ddarperir drwy Cyswllt Ffermio.

“Diolch i’r hyfforddiant sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio, rydym wedi gallu cynyddu’r set sgiliau o fewn y busnes mewn nifer o feysydd.

“Rydym hefyd yn gweld manteision samplo pridd a phrofi silwair a gafwyd yn gynharach eleni a thrwy gynyddu lefelau gwrtaith, rydym yn disgwyl gweld glaswelltir o safon uwch a mwy toreithiog.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint