8 Ionawr 2021

 

Dadansoddi’r porthiant yw’r man cychwyn er mwyn rheoli maeth mamogiaid yn llwyddiannus cyn iddynt ŵyna, meddai’r ymgynghorydd defaid Lesley Stubbings.

Bydd lefel maeth y porthiant yn dweud wrthych faint o atchwanegiadau y mae ar eich diadell ei angen yn yr wythnosau olaf cyn iddynt ŵyna, meddai Ms Stubbings wrth ffermwyr mewn gweminar ddiweddar gan Cyswllt Ffermio.

Gall lefelau protein ac egni mewn porthiant amrywio’n aruthrol, ond drwy gael dadansoddiad manwl o’r cynnwys, gall penderfyniadau gael eu gwneud ynglŷn â sut i’w ddefnyddio a pha fath o atchwanegiad i’w fwydo.

“Mae ansawdd porthiant yn effeithio ar faint o faeth y mae mamog yn ei gael ym mhob cegaid y mae’n ei fwyta, os nad oes gennych ddadansoddiad, allwch chi ddim gweithio hyn allan,” eglurodd Ms Stubbings.

Gall Cyswllt Ffermio gynnig cyngor un-i-un gydag arbenigwr drwy’r Gwasanaeth Cynghori i drafod anghenion maeth eich buches/diadell er mwyn ei chael i berfformio ar ei gorau. Gall y Gwasanaeth Cynghori brofi’r holl borthiant a gynhyrchwyd ar y fferm, gwneud dadansoddiad manwl a chynhyrchu dognau ar gyfer gwahanol fathau o stoc ar y fferm i sicrhau bod y maethynnau cywir yn cael eu darparu ar gyfer y famog gyfeb neu’r fuwch sy’n llaetha.

Neu, os ydych chi eisoes wedi samplo eich porthiant, caiff cymorthfeydd awr o hyd eu cynnal yn ddigidol naill ai dros y ffôn neu drwy fideo-gynhadledd. Gall arbenigwyr edrych ar y dadansoddiad o’ch porthiant i drafod swm a sylwedd dognau neu ddarparu manylion dewisiadau porthi eraill. 

Argymhellodd Ms Stubbings y dylech fod yn asesu’r porthiant â llaw hefyd. Bydd ‘prawf gwasgu’ yn rhyddhau lleithder os yw’r deunydd sych (DM) yn y silwair yn is na 35%.

Defnyddiwch fesurydd pH neu bapur litmws i gael y statws pH ac asesu miniogrwydd y ffibr – bydd mamogiaid yn bwyta llai os yw’r ffibr yn hirach oherwydd eu bod yn gorfod gweithio’n galetach; mae prawf ‘arogli’ yn bwysig hefyd.

“Bydd y pethau hyn i gyd yn effeithio ar faint o silwair gaiff ei fwyta,” meddai Ms Stubbings.

Mynnodd nad oedd “dim gwirionedd” yn y sôn na all mamog sy’n drwm o ŵyn fwyta lefelau uchel o borthiant ar ddiwedd ei beichiogrwydd.

Pan fo mamog angen prosesu mwy o fwyd, mae cyfradd all-lif y rwmen bedair gwaith yn gyflymach ar ddiwedd eu beichiogrwydd nag ydyw hanner ffordd drwodd.

“Y ddamcaniaeth yw bod y rwmen yn cael ei wasgu wrth i’r ŵyn ddatblygu ond mae’n afresymol credu na all anifail y bwriadwyd iddi gynhyrchu ŵyn fwyta digon i gynnal hi ei hun a’i hŵyn - wedi’r cyfan ni all defaid gynhyrchu dwysfwydydd,” meddai Ms Stubbings.

Rhoddodd arweiniad ar ddarparu atchwanegiadau i famog 70kg sy’n cario dau oen o ganol ei beichiogrwydd ymlaen yn ôl gwerthoedd maeth tri phorthiant o ansawdd gwahanol.

Ar werth treuliadwyedd (D) o 70, 11.2% ME, 52% DM a 13% o brotein crai, bwydwch 200g/mamog/dydd o beledi 34% protein; mae hyn yn tybio bod 2.5kg o borthiant yn cael ei fwyta yn ddyddiol.

Gyda silwair gwlypach ar werth D o 68, 10.9ME, 23% DM a phrotein crai o 13%, bwydwch 350g/mamog/dydd o beledi 35% protein. Os gwelwch, o fonitro’r lefelau bwyta porthiant, fod y mamogiaid yn bwyta llai na 2.5kg yr un bob dydd, cynyddwch yr atchwanegiadau i 450g/dydd o flawd neu gyfansawdd 21% gan fod egni eplesadwy yn is mewn silwair o’r ansawdd hwn. 

“Ond edrychwch ar y dadansoddiad a rhoi ystyriaeth i bopeth,” cynghorodd Ms Stubbings.

Gyda silwair o ansawdd is gyda gwerth D o 58, 9.3% ME, 51% DM a phrotein crai o 11%, bydd gofyn ei gydbwyso â phorthiant cyfansawdd 18% o ansawdd uchel ar raddfa o 750g/mamog/dydd. Ond yn y sefyllfa hon argymhellodd Ms Stubbings fwydo mewn ffordd fwy ‘gwastad’. “Bwydwch ar lefel uwch i ddechrau a chaniatáu i’r mamogiaid golli ychydig o’u cyflwr tuag at y diwedd,” meddai hi.

Mae’n bwysig monitro’r lefelau bwyta porthiant – pwyswch rhai byrnau a chyfrifo faint sy’n cael eu bwyta.

Wrth asesu ansawdd porthiant cyfansawdd, edrychwch ar y cynhwysion ar y label, sy’n ymddangos yn eu trefn, gyda’r prif gynhwysyn ar y dechrau. 

Er na chaiff y canrannau byth eu dangos, gall safle triogl ar y label roi cliw, eglura Ms Stubbings. “Caiff triogl fel arfer ei gynnwys ar 5-7% felly bydd unrhyw gynhwysion a restrir uwch ei ben ar lefel uwch na 7%.’’

Os oes hadau blodau haul a chnewyll palmwydd mewn porthiant, dylent yn ddelfrydol fod ar y gwaelod gan mai ychydig o werth maent yn ei roi i’r porthiant.

Os ydych yn rhoi’r porthiant mewn rheseli cylch, sicrhewch fod yno ddigon o le i bob mamog allu bwyta – ond ddim gormod oherwydd bydd yn arwain at borthiant yn cael ei adael ar ôl.

“Os yw o gwmpas am ddyddiau ac yn eplesu, fe allech gael problemau â listeria,” rhybuddiodd Ms Stubbings.

Os ydych yn symud o gnydau gwraidd i borthiant, darparwch ychydig o borthiant am rai dyddiau cyn newid yn llwyr fel ‘clustog’ i roi amser i’r microbau yn rwmen y famog addasu i’r diet newydd.

Mae gan dorthau, bwcedi a blociau mwynau eu lle mewn system ddefaid, meddai Ms Stubbings, ond dylai ffermwyr gofio, am bob uned o egni a phrotein, eu bod yn ffordd ddrud o ddarparu’r rhain.

Cyn mynd i lawr y ffordd hon, mae’n cynghori ffermwyr i ystyried yn gyntaf a ydynt yn defnyddio eu porthiant cystal ag y gallent drwy gynhyrchu silwair o ansawdd uwch. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint