04 Mehefin 2025
Mae Cyswllt Ffermio bellach yn cynnig gweithdy hyfforddi iechyd a lles anifeiliaid newydd, wedi'i ariannu'n llawn ac wedi'i achredu gan Lantra o'r enw 'Y Famog Denau – Ymchwilio a Rheoli'. Bydd yr hyfforddiant gwerthfawr hwn, sy'n canolbwyntio ar faterion allweddol iechyd a lles anifeiliaid, yn cael ei gyflwyno gan bractisau milfeddygol lleol cymeradwy ledled Cymru.
Mae'r gweithdai hyn wedi'u cynllunio i arfogi cyfranogwyr â sgiliau hanfodol mewn rheolaeth ac iechyd defaid.
Bydd mynychu'r gweithdy yn rhoi gwell dealltwriaeth i'r mynychwyr o wahanol achosion o gyflwr gwael mewn mamogiaid a sut mae'n effeithio ar eu hiechyd, eu ffrwythlondeb, eu cynhyrchiant a'u lles. Byddwch chi'n dysgu sut i Sgorio Cyflwr Corff mamogiaid yn effeithiol, gyda chanllawiau ar sut i fynd i'r afael â phroblemau gyda chyflwr mamogiaid a rhesymau pam ei bod hi'n bwysig sgorio cyflwr corff yn rheolaidd.
Bydd ffocws allweddol ar y pump 'clefyd Rhewfryn' a'u mesurau ataliol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i fonitro cyflwr cyrff y ddiadell gan ddefnyddio paramedrau mesuradwy, gan wybod pryd mae angen ymyrraeth.
Bydd cyfle i edrych ar bwysigrwydd bioddiogelwch llym, gan fanylu ar fesurau hanfodol i atal cyflwyno clefydau rhewfryn, neu glefydau a pharasitiaid eraill i ddiadelloedd iach.
Mae'r gweithdy hyfforddi yn ymdrin â'r nifer o achosion o gyflwr gwael mewn mamogiaid. Byddwch yn dysgu strategaethau effeithiol ar gyfer cywiro problemau presennol ac atal rhai newydd, ac yn ennill y gallu i nodi ffactorau risg cysylltiedig o fewn eich diadell.
'Rwy'n ystyried bod cynnal sgôr cyflwr corff priodol ar gyfer mamogiaid yn ffactor sylfaenol ar gyfer cael mamogiaid cynhyrchiol ac iach o fewn diadell. Bydd y gweithdy newydd hwn sy'n edrych ar achosion mamogiaid tenau yn caniatáu inni ymhelaethu ar y pwnc hwn gyda'n cleientiaid fferm, gan nodi strategaethau ar gyfer rheoli ac atal yn y dyfodol.' cytunodd Gareth Mulligan, Milfeddygon Afon
Bydd presenoldeb mewn gweithdai yn cael ei gofnodi ar gofnod DPP 'Storfa Sgiliau' y mynychwr ynghyd â 'thystysgrif presenoldeb' Gwobrau Lantra.
Mae'r gweithdai hyfforddi wedi'u hariannu'n llawn ond i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwnnw, rhaid i bob mynychwr gofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP).
Am ddyddiadau a manylion gweithdai sydd ar ddod, ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol i gael gwybod mwy.