Bydd defnyddio genomeg er mwyn bridio’r heffrod gorau yn cynyddu gwerth genetig anifeiliaid cyfnewid ar fferm laeth yng Nghymru ac yn lleihau nifer yr anifeiliaid gyda gwerth genetig îs sy’n dod i’r fuches.

Ar fferm Marian Mawr, un o Ffermydd Arddangos Cyswllt Ffermio ger Rhyl, cymerwyd samplau meinwe gan heffrod gan ddefnyddio gwasanaeth olrhain genynnau NMR, sef GeneTracker.

Cafodd canlyniadau’r prosiect Cyswllt Ffermio eu datgelu yn ystod diwrnod agored ar y fferm, ac roeddent yn dangos Mynegai Proffidioldeb Oes (Profitable Lifetime Index PLI) positif ar gyfer pob anifail ond un.

Mae cynnal profion genomeg ar heffrod yn defnyddio’r un egwyddor â chynnal profion gemomeg ar deirw ifanc. Trwy gymryd sampl DNA gan heffer ifanc, mae’n bosib cael arwydd o rinweddau geneteg yn syth, yn hytrach na gorfod aros i’r anifail ddechrau dod â lloi a dechrau godro. Gellir wedyn dethol anifeiliaid penodol er mwyn cynhyrchu anifeiliaid cyfnewid gan ddibynnu ar ofynion bridio ffermydd unigol.

Ar fferm Marian Mawr, mae’r teulu Morris yn godro buches o 400 o wartheg Holstein gyda 100 o heffrod cyfnewid yn cael eu magu’n flynyddol. Mae’r llaeth yn cael ei gyflenwi i gwmni Muller Wiseman.

Dywedodd Laurence Loxam o gwmni NMR wrth y ffermwyr yn ystod y diwrnod agored ei bod yn anfantais economaidd i fagu o anifail gyda Mynegai Proffidioldeb Oes (PLI) negyddol, hyd yn oed mewn buches sy’n tyfu. “Os byddwch yn ei chadw yn y fuches, croeswch gydag anifail bîff, ond peidiwch â’i defnyddio i fagu anifeiliaid cyfnewid,” meddai.

Mae cyfradd cywirdeb profion genomeg yn 70% o’i gymharu â rhwng 30-35% o ddefnyddio ffigyrau cyfartalog y dad a’r fam. “Mae genomeg yn rhoi gwybodaeth i ni na fyddai siawns i ni fod yn gwybod yn y gorffennol,” eglurodd Mr Loxam.

Byddai ffigyrau cyfartalog y dad a’r fam ar un o’r anifeiliaid a brofwyd ar fferm Marian Mawr wedi sgorio 109kg ar gyfer kg llaeth ond wrth ddefnyddio genomeg, mae’r ffigwr hwn yn newid i -20kg. “Os oes gan y fferm gytundeb llaeth hylifol, yna mae’r ffigyrau hyn yn dangos na fyddai’n syniad da i’w chadw yn y fuches, ond yr ochr arall o hynny yw’r ffaith ei bod yn cael sgôr uchel ar gyfer braster menyn a phrotein, felly byddai ei llaeth yn addas ar gyfer cytundeb gweithgynhyrchu,” meddai Mr Loxam.

Dywedodd bod nifer cynyddol o ffermwyr yn defnyddio genomeg er mwyn gwella eu buchesi. “Os oes gennych ganran o anifeiliaid gyda PLI negyddol, pam fyddech chi’n eu cadw yn y fuches os nad ydynt am wneud elw?’’

Ond ni fydd genomeg yn unig yn ddigon i sicrhau gwelliannau os nad yw rheolaeth y fuches yn ddigonol. “Os oes gan anifail PLI da ond nad yw’r ffermwr yn ei defnyddio i loia nes y bydd hi’n 30 mis oes, bydd hynny’n cael effaith negyddol ar ei pherfformiad,” meddai Mr Loxam.

Dywedodd Andy Dodd, Swyddog Technegol AHDB Llaeth, bod ffermwyr yn adnabod gwerth PLI fel adnodd er mwyn llywio cyfeiriad eu buchesi at y dyfodol gan fod y manteision yn adeiladu dros genedlaethau.

“Gellir magu buches i weddu i system, boed hynny ar fferm seiliedig ar laswellt ar gytundeb cydrannau llaeth neu’n un gyda system llaeth hylifol mewnbwn uchel.” meddai Mr Dodd, a fu’n siarad yn ystod diwrnod agored Marian Mawr.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y