8 Mehefin 2022

 

Mae Tom Pemberton, ffermwr ifanc o Swydd Gaerhirfryn, yn seren ar y cyfryngau cymdeithasol! Efallai eich bod chi eisoes wedi'i weld ar waith fel cyflwynydd ar sioe boblogaidd BBC Three 'The Fast and Farmerish', neu mae’n bosib eich bod wedi darllen ei lyfr poblogaidd 'Make Hay While the Sun Shines', a gyhoeddwyd yn ddiweddar.   

Mae Tom, a enillodd Wobr Ffermio Prydain am Arloeswr Digidol y Flwyddyn yn 2018, yn un o'r prif siaradwyr yn nigwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru 2022 Cyswllt Ffermio, a gynhelir ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd rhwng 10am a 5pm ddydd Mercher, 15 Mehefin. 

Darganfyddwch sut y gallai'r ffermwr ifanc brwdfrydig hwn – a oedd yn meddwl byddai 'llond llaw' o bobl yn gwylio ei fideo YouTube cyntaf erioed ar sut i ddefnyddio peiriant gwerthu llaeth newydd y fferm – wedi'i droi'n ddylanwadwr gwledig blaenllaw gyda mwy na 40,000 o ddilynwyr cyfryngau cymdeithasol.  

Bydd llu o siaradwyr ysbrydoledig sy'n berthnasol i ffermwyr, coedwigwyr, cynhyrchwyr bwyd a phawb sy'n gweithio yn y diwydiannau tir yng Nghymru yn ymuno â Tom. Bydd y rhaglen amrywiol o bynciau siaradwyr yn amrywio o ffermio adfywiol i stociau carbon, ac o gynllunio busnes i fentrau twristiaeth.  

"Mae hwn yn gyfle unigryw i bawb sy'n ymwneud â'r diwydiannau tir gael eu hysbrydoli gan rai o'r technolegau dyfeisgar, datblygiadau newydd mentrau arallgyfeirio llwyddiannus yn y byd sydd ohoni sy'n trawsnewid y ffordd y mae ein diwydiant yn gweithredu," meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gyda Menter a Busnes (sydd, ochr yn ochr â Lantra Cymru, yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig).

Mae'r digwyddiad eisoes wedi cofrestru ystod eang o arddangoswyr masnach a busnes, gan gynnwys cwmnïau gwasanaethau a chwmnïau cyflenwi, a fydd yn ysbrydoli ymwelwyr ac yn darparu'r cymorth i helpu i droi syniadau'n realiti. Disgwylir hefyd iddo ddenu cannoedd o ffermwyr, tirfeddianwyr a phobl fusnes wledig sy'n awyddus i ychwanegu gwerth at eu busnes a nodi ffyrdd o gynyddu neu nodi ffrydiau incwm newydd.  

"Dewch i gwrdd â'r unigolion a'r sefydliadau a all eich helpu drwy gymorthfeydd 'rhagflas' un-i-un gyda chynghorwyr cymeradwy Cyswllt Ffermio, ac ymuno â chyflwyniadau gan arbenigwyr technegol, academyddion blaenllaw, arbenigwyr a ffermwyr a fydd yn rhannu eu gwybodaeth bersonol am bynciau gan gynnwys rheoli tir, coetiroedd a busnes; prosiectau arallgyfeirio, marchnata, cyfryngau cymdeithasol, cynllunio gwledig a llawer mwy, " meddai Mrs Williams.  

Gyda chynifer o ffermwyr bellach yn arallgyfeirio i dwristiaeth, bydd dysgu sut i greu, tynnu lluniau a hyrwyddo 'mannau arbennig a chofiadwy' yn sicrhau bod eich menter yn rhagori ar y rhelyw. Mae Tim Hughes o 'Behind the Lens Media' yn ffotograffydd a fideograffydd proffesiynol yn Sir Benfro. Gan ddefnyddio ffotograffiaeth llonydd, fideograffeg a thechnoleg drôn, yn ogystal â delweddau 3D a 360, bydd cyflwyniad Tim yn eich helpu i greu lluniau a fideos cymhellol, diddorol a thrawiadol sy'n darparu offer hyrwyddo gwych.  

Bydd y dylunydd mewnol Gwerfyl Owain Harding, o 'Dylunio dy Dŷ', yn dweud wrthych sut i greu'r ffactor 'waw' mewn bythynnod, pebyll, cytiau, cabanau pren ac, wrth gwrs, eich cartref neu’ch swyddfa eich hun.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadd De Morgannwg a'r Neuadd Fwyd ar faes y sioe. Os nad yw amseriadau'n gwrthdaro, dewiswch o fwy nag 20 seminar dan arweiniad unigolion sydd wedi cael yr hyder i archwilio syniadau newydd, y weledigaeth i'w trawsnewid yn realiti a'r craffter busnes a’r cymorth i weithredu ffyrdd mwy effeithlon ac arloesol o weithio neu sefydlu mentrau amrywiol llwyddiannus.  

Gall mynychwyr alw heibio ar unrhyw adeg yn ystod y dydd. Fodd bynnag, fe'ch cynghorir yn gryf i ymweld â gwefan Cyswllt Ffermio cyn gynted â phosibl, i gofrestru eich bwriad i fynychu ac i weld yr amserlen fanwl – fel y gallwch archebu ymlaen llaw hyd yn oed os ydych yn cynllunio ymweliad byr yn unig, ac na fyddwch yn colli'r siaradwyr yr ydych am eu clywed fwyaf. 

"Mae hwn yn gyfle unigryw i bawb sy'n ymwneud â'n diwydiant glywed yn uniongyrchol gan arloeswyr amaethyddol, dyfeiswyr, gweithgynhyrchwyr, darparwyr gwasanaethau a chynhyrchwyr yfory, o Gymru a thu hwnt," meddai Mrs Williams. 

Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ac i gael gwybodaeth am yr holl siaradwyr ac arddangoswyr, ynghyd ag amserlen fanwl a fydd yn eich galluogi i gynllunio eich diwrnod ymlaen llaw a pheidio â cholli unrhyw ran o'r rhaglen.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o
Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024
10 Mawrth 2024 Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol
17 o gyrsiau newydd wedi’u hychwanegu at raglen hyfforddiant Cyswllt Ffermio
03 Ebrill 2024 Mae 17 cynnig newydd bellach ar gael drwy raglen