Gall sicrhau bod mamogiaid yn y cyflwr gorau posib trwy gydol y flwyddyn a’u bwydo mewn modd effeithlon er mwyn cynnal perfformiad gael effaith sylweddol ar broffidioldeb a chynhyrchiant. Gall gwneud y defnydd gorau o borthiant helpu i leihau costau a chynnig system cynhyrchu effeithlon ar gyfer mentrau defaid.

Cynnal Sgôr Cyflwr Corff targed trwy gydol y flwyddyn yw un o’r prif ffactorau sy’n galluogi’r ddiadell o famogiaid i berfformio hyd eithaf eu potensial. Gall bwydo mamogiaid yn briodol ar adegau penodol helpu i gywiro Sgôr Cyflwr Corff a dylanwadu ar berfformiad. Yn ystod digwyddiad Safle Arloesedd Cyswllt Ffermio ar Safle Innovis, Mynydd Gorddu, Bont Goch, Aberystwyth, amlinellodd Trevor Cook, milfeddyg ac ymgynghorydd cynhyrchu defaid pryd y dylid teilwra’r bwydo i fodloni gofynion cynhyrchiant y famog.

img 1486

“Mae sgôr cyflwr y famog yn cael effaith enfawr ar ei chynhyrchiant. Mae chwe wythnos cyn cenhedlu’n amser da i godi Sgôr Cyflwr Corff mamogiaid ysgafn, ac yna 10 diwrnod cyn hyrdda bydd ei bwydo’n dda’n cael effaith syfrdanol ar y gyfradd ofylu. Sicrhewch nad yw’r cyflwr yn cael ei golli yn ystod y 35 diwrnod cyn ŵyna gan y bydd hynny’n dylanwadu ar faint o ŵyn byw fyddan nhw’n eu cynhyrchu, yn ogystal â chynhyrchiant colostrwm a llaeth.”

Mae’r cyfnod sganio’n gyfle da i sgorio cyflwr y mamogiaid gan eu bod yn cael eu trafod beth bynnag ac mae’n eich galluogi i wahanu anifeiliaid teneuach er mwyn gwella eu sgôr cyflwr corff.

“Mae sganio’n adeg  wych i ychwanegu at eu cyflwr,” ychwanegodd Mr Cook. “Mae codi un sgôr cyflwr yn gofyn am 30kg DM ac yn costio 30c, felly mae’r cyfanswm yn 10c/kg DM. Mae achub mamogiaid ysgafn felly’n ffordd broffidiol iawn o ddefnyddio porthiant.”

Pan fo mamog yn cyrraedd brig y cyfnod llaetha ymhen tair i bedair wythnos ar ôl ŵyna, bydd angen llawer o fwyd arni, ac os bydd posib gwneud y defnydd gorau o borthiant yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn cael effaith ar gostau cynhyrchiant.

“Gall mamog fwyta hyd at 5%o’i phwysau pan mae’n cyrraedd brig y cyfnod llaetha, ond mae hynny’n rhywbeth y gallwch ei amseru a chynllunio ar ei gyfer. Glaswellt i’w bori yw’r ffynhonnell bwyd rhataf ac mae dysgu i’w ddefnyddio’n iawn yn ffordd gadarnhaol o gynyddu proffidioldeb.”

Ar fferm Mynydd Gorddu, cynhyrchiant effeithlon oddi ar laswellt yw nod prif ddiadell cnewyllyn Innovis o 1,200 mamog a 400 oen benyw sy’n cael eu gaeafu ac yn ŵyna tu allan ar system yn seiliedig ar borthiant. Mae’r defaid ar system pori cylchdro am fis cyn hyrdda er mwyn cyrraedd sgôr cyflwr corff rhwng 3-3.5 cyn cael eu stocio gyda’i gilydd am fis yn ystod hyrdda. O ddiwedd mis Rhagfyr mae’r mamogiaid a’r ŵyn benyw yn cael eu rhannu’n dri grŵp ac yn pori 30 i 35 erw o swêj mewn stribedi. Ar ôl sganio, mae mamogiaid sy’n cario ŵyn unigol yn cael eu symud i ardaloedd o laswellt byffer gyda silwair nes yr wythnos cyn ŵyna, ac mae mamogiaid sy’n cario ŵyn lluosog yn cael eu trosglwyddo i bori cylchdro ar borfeydd o ansawdd uchel gyda gorchudd targed o 1,600-1,800kg DM/Ha, gyda blociau Protein Diet Anniraddadwy (UDP) yn cael eu hychwanegu.

img 1471

“Rydym yn sgorio cyflwr corff yn rheolaidd ac yn symud defaid rhwng grwpiau os oes angen. Gwyddomdrwy wneud hynny y byddwn yn sicrhau eu bod yn mynd i’r caeau ŵyna gyda sgôr cyflwr corff o -3.5 ac mae’n gwaith ni ar ben,” meddai Prif Weithredwr Innovis, Dewi Jones.
Wythnos cyn ŵyna, mae’r mamogiaid yn cael eu stocio gyda’i gilydd ar gyfradd o 10

 fesul erw gyda 1,800kg DM/ha. Mae’r mamogiaid yn ŵyna eu hunain cyn cael eu symud yn ôl i’r cylchdro pori gyda’u hŵyn ar ôl pedair wythnos ar borfeydd o 8cm-12cm ( (2,200kg i 2,700kg DM/ha). Ar ôl diddyfnu cyn pen 12 wythnos mae’r mamogiaid yn cael eu gosod mewn grwpiau mawr i glirio lleiniau i baratoi ar gyfer cynhyrchiant yr hydref.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y