Mae caeau llawn dŵr dros wythnosau neu fisoedd ar y tro wedi arwain at niwed i strwythur y pridd, ymlediad chwyn a photsio i nifer o fusnesau fferm a choedwigaeth.

Mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar ffermydd ledled Cymru, lle bydd arbenigwyr pridd a glaswelltir gwadd yn trafod effaith caeau llawn dŵr ac yn daparu atebion yn ymwneud â chywiro’r draeniad, cywasgiad, a materion rheoli maethynnau a chwyn sy’n achosi problemau i nifer o fusnesau o ran lleihad mewn cynnyrch ac ansawdd glaswellt, sy’n effeithio’n uniongyrchol ar gynhyrchiant y tir.

Bydd atebion ar gyfer mynd i’r afael ag ardaloedd gwlyb neu newydd eu draenio sy’n tan-berfformio, yn cael eu harwain gan Charlie Morgan a Chris Duller, y ddau ohonynt yn arbenigwyr pridd a glaswelltir adnabyddus.

Dywedodd Dewi Hughes, Rheolwr Datblygiad Technegol Cyswllt Ffermio bod canfyddiadau’r samplu pridd diweddar a gynhaliwyd gan dîm o swyddogion datblygu Cyswllt Ffermio yn ddiweddar wedi darparu data defnyddiol  sydd wedi sicrhau bod nifer o’r ffermwyr a fynychodd y clinigau pridd diweddar eisoes yn mynd i’r afael âr broblem yn y ffyrdd mwyaf effeithiol yn nhermau cost ac amser.

Am ddyddiadau a lleoliadau yn eich hardal chi, gweler yr wybodaeth isod:


Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026 Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn
Mae profion genomig yn datgloi potensial llawn buches groesfrid yng Nghymru
26 Chwefror 2026 Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n
Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes