Ymunwch â Cyswllt Ffermio yn eu sioeau teithiol yn ymwneud â ‘Creu bywoliaeth ar ddeng erw’ er mwyn darganfod mwy am sut all garddwriaeth gynorthwyo pobl i greu busnesau cynaliadwy ar ardaloedd bychan o dir.
Yn ogystal â systemau hydroponeg bychain sy’n cynhyrchu cnydau megis perlysiau arbenigol, mefus cynnar neu hwyr a dail salad, bydd y tri digwyddiad hefyd yn canolbwyntio ar dyfu madarch, blodau bwytadwy, mwyar arbenigol a llysiau uchel eu gwerth. Gall tyfwyr a ffermwyr sy’n ystyried cyfleoedd tyfu cymunedol ddysgu mwy am sefydlu perllannau a gwinllannoedd, a bydd y digwyddiadau hefyd yn edrych ar alw a thueddiadau’r farchnad a modelau cadwyn cyflenwi posib.
Cynhelir y digwyddiadau ar ffurf gweithdai rhyngweithiol er mwyn hwyluso’r broses o rannu syniadau a bydd nifer o westeion arbenigol yn trafod pynciau megis cyfleoedd presennol yn y sector garddwriaeth a phrofiadau personol o ddatblygu mentrau garddwriaethol.
Creu bywoliaeth ar ddeng erw
Dyddiad – Llun, 05/12/16
Amser – 19:30 - 21:30
Lleoliad – Llanina Arms, Llanarth, Ceredigion, SA47 0NP
Dyddiad – Tuesday, 06/12/16
Amser – 19:30 - 21:30
Lleoliad – Gwesty a Chlwb Golff St Mary’s Hill, St Mary's Hill, Pencoed, CF35 5EA
Dyddiad – Thursday, 08/12/16
Amser – 19:30 - 21:30
Lleoliad – The Oriel Country Hotel & Spa, Upper Denbigh, Road, St Asaph, Denbighshire, LL17 OLW
Am fwy o fanylion, neu i archebu lle ar gyfer unrhyw un o’r digwyddiadau, cysylltwch â Carys Thomas ar 01970 631402 neu e-bostiwch carys.thomas@menterabusnes.co.uk