03 Mehefin 2025
Eisiau adeiladu busnes llaeth mwy cynaliadwy a phroffidiol? Mae Cyswllt Ffermio yn gwahodd ffermwyr i gyfres o ddigwyddiadau ar y fferm – ‘Pweru Eich Dyfodol gyda thechnoleg ac ynni adnewyddadwy – Beth yw’r Gwir Elw ar Fuddsoddiad?’
Bydd y digwyddiadau hyn yn digwydd mewn tri lleoliad ledled Cymru, gan fynd i’r afael â thirwedd esblygol ynni a thechnoleg mewn ffermio llaeth. Bydd yr arbenigwyr Conor Hogan o Teagasc Moorepark, a Jonathan Sandercock o NFU Energy, yn rhannu atebion ymarferol ac enghreifftiau o wir elw ar fuddsoddiad i’ch helpu i lywio’r dyfodol.
Beth fydd yn cael ei gynnwys?
Dod o Hyd i’r Gwir Elw ar Fuddsoddiad mewn Technoleg: Mae’r sectorau technolegau llaeth a Deallusrwydd Artiffisial yn gweld cynnydd cyflym, gan gyflwyno llu o opsiynau. Ond pa osodiadau penodol fydd yn gwneud y mwyaf o elw i’ch uned laeth? Yn seiliedig ar waith ymchwil a wnaed yn Iwerddon yn ddiweddar, bydd Conor yn rhannu gwybodaeth werthfawr. Bydd hefyd yn archwilio sut gall technoleg wella ffrwythlondeb, hybu cynhyrchiant, gwella iechyd anifeiliaid a mynd i’r afael â phroblemau metabolaidd, ochr yn ochr â gwella effeithlonrwydd llafur.
Dadansoddi’r Defnydd o Ynni a Chyfleoedd Adnewyddadwy: Wrth wynebu her fawr y costau ynni cynyddol, byddwn yn archwilio ffyrdd o leihau’r defnydd o ynni, a’i gost, ar eich fferm. Bydd NFU Energy yn cyflwyno canfyddiadau allweddol o brosiect a gynhaliwyd yn ddiweddar gan raglen Farming Connect yn dadansoddi’r defnydd o ynni ar ffermydd Cymru. Bydd yna hefyd drafodaeth ar wahanol atebion a manteision technolegau ynni adnewyddadwy.
Drwy fynd i un o’r digwyddiadau hyn, bydd ffermwyr yn dysgu sut i wella elw a chynaliadwyedd drwy fuddsoddi yn y dechnoleg a’r opsiynau ynni adnewyddadwy cywir.
Manylion y Digwyddiadau:
17 Mehefin 2025, 11:00 – 14:00, Marian Mawr, Dinbych LL18 6HT
18 Mehefin 2025, 11:00 – 14:00, Pen-parc, Llanerfyl SY21 0EL
19 Mehefin 2025, 11:00 – 14:00, Fferm Pant, Tregaron SY25 6UQ
I archebu eich lle yn y digwyddiadau hyn, neu am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyswllt Ffermio