17 Chwefror 2020

 

Ydych chi’n ffermwr neu’n goedwigwr sy’n dymuno ychwanegu gwerth at eich busnes a gwireddu eich breuddwydion i sefydlu menter dwristiaeth? 

Bydd rhai o berchnogion busnesau fferm mwyaf llwyddiannus Cymru, sydd eisoes yn manteisio ar ein diwydiant twristiaeth llwyddiannus, yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad yn ystod cyfres o seminarau Cyswllt Ffermio yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd pob un o’r digwyddiadau dwy awr o hyd yn cynnwys pobl fusnes arbenigol ym maes ffermio a fydd yn rhannu eu cyngor ar gyfer sefydlu neu ehangu menter arallgyfeirio lwyddiannus ar y fferm. Bydd arbenigwyr gwledig a marchnata, ynghyd â rhai o fentoriaid arbenigol Cyswllt Ffermio, sy’n gallu darparu mentora un i un wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer prosiectau arallgyfeirio, hefyd yn bresennol.

Un o’r siaradwyr yng Nghanolbarth Cymru yw’r ffermwr Llion Pughe, cyd-sylfaenydd cwmni ‘Y Gorau o Gymru’, asiantaeth sy’n gosod llety gwyliau pedair a phum seren, a ddechreuodd ar y fferm deuluol yng nghegin y ffermdy ger Machynlleth yn 2009. Gyda gradd meistr mewn mentergarwch, mae’r dyn busnes ifanc a’i bartner busnes, a ddechreuodd drwy osod 33 llety gwyliau’n unig, bellach wedi ymuno gyda chwmni gosod llety gwyliau ar-lein. Mae’r cwmni’n gosod mwy na 400 eiddo, gan amrywio o unedau glampio unigryw i fflatiau dinesig, ac o ffermdai traddodiadol i fythynnod arfordirol. Mae Llion yn credu y gallai’r diwydiant twristiaeth agor y drws i fwy o elw ar gyfer nifer o fusnesau gwledig yng Nghymru

“Gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn ysbrydoli’r rhai sy’n mynychu ac yn rhoi’r hyder a’r weledigaeth iddynt allu manteisio ar yr adnoddau gwych sydd o’n cwmpas yng Nghymru.

“Rydym ni’n byw mewn gwlad gymharol fach, sy’n golygu nad yw’r ymwelwyr byth yn bell o’r amrywiaeth eang o fynyddoedd anhygoel, cefn gwlad prydferth sy’n ymestyn dros filltiroedd lawer, cestyll hanesyddol ac arfordir cwbl wefreiddiol sy’n cynnwys nifer o gyrchfannau glan môr, yn ogystal â childraethau pysgota heb eu cyffwrdd.

“Mae angen i ni ganfod cyfleoedd y gallwn eu cynnig i gerddwyr, beicwyr, artistiaid, marchogion, y rhai sydd â diddordeb mewn pysgota a bywyd gwyllt ac adar, carafanwyr a gwersyllwyr, a’r rhai sy’n mwynhau bwyd a diod - mae’r apêl yn ddiddiwedd i unigolion yn ogystal â theuluoedd, a gallwn droi’r atyniadau hyn yn ffrydiau incwm,” meddai Llion.  

Cynhelir seminarau twristiaeth Cyswllt Ffermio gyda’r nos rhwng 19:30 a 21:30 ar 24 Chwefror yn M-Sparc, Gaerwen, Ynys Môn; 25 Chwefror yng Ngwesty’r Castle Hotel, Llanymddyfri a 26 Chwefror yng Ngwesty’r Elephant and Castle, Y Drenewydd.   

“Mae ymchwil wedi dangos bod mwy na 4.8 miliwn o ymwelwyr o’r DU wedi treulio o leiaf un noson yng Nghymru yn ystod chwe mis cyntaf 2018, gan greu gwariant o £880 miliwn (ystadegau Llywodraeth Cymru).  

"Hyd yn oed os byddwch chi’n dechrau ar raddfa fechan iawn, bydd cymryd ychydig o oriau i fynychu un o’r seminarau twristiaeth gyda’r nos a gweld pa gefnogaeth sydd ar gael i chi yn eich cynorthwyo i ganfod ffyrdd i wneud y gorau o’r cyfleoedd sydd ar gael ac i sicrhau bod eich busnes yn cael ei gynnwys ar y llwybr twristiaeth,” meddai Llion.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw. Gallwch archebu ar-lein drwy fynd i’r dudalen ddigwyddiadau yma. Fel arall, gallwch gysylltu â Delyth Evans ar 01970 600176 neu anfonwch e-bost at: delyth.evans@menterabusnes.co.uk

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu