26 Hydref 2018
Wrth i ni symud i mewn i’r hydref, ac er bod twf glaswellt wedi adfer yn dda yn ystod mis Medi gyda’r cyfnodau o law trwm, mae gorchudd glaswellt cychwynnol mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru wedi bod yn rhy isel i atgyfodi tymor tyfu glaswellt 2018 mewn unrhyw ffordd arwyddocaol. Mae nifer o ffermwyr wedi bod yn brysur yn pori’r ail dyfiant yma er mwyn ceisio rhoi terfyn ar y silwair a’r dwysfwyd sylweddol sydd wedi cael eu porthi drwy gydol mis Gorffennaf ac Awst. Bydd dychwelyd yn sydyn i laswellt toreithiog tebyg i’r gwanwyn hefyd wedi twyllo rhai ffermwyr, gan achosi problemau megis dera’r borfa (grass staggers) a chlwy’r boten hyd yn oed.
Mae’r gorchudd fferm ar gyfartaledd ar nifer o ffermydd, yn enwedig yn y dwyrain, yn llawer is na’r llynedd, ond un peth cadarnhaol ar gyfer 2018 yw’r ffaith fod cyflwr tir llawer sychach na’r arfer ym mis Hydref yn dal i alluogi ffermwyr i gadw stoc allan yn gyfforddus. Mae perygl y bydd gwartheg sydd wedi derbyn porthiant silwair ychwanegol yn y gorffennol, neu’n dal i wneud hynny, yn mynd yn ddiog, ac na fyddant yn pori i adlodd digonol, ac nid yw’r clytiau sydd wedi cael eu gwrthod gan y gwartheg, sef y mannau a fu o dan ddom wedi sychu yn dilyn yr haf poeth a sych, yn helpu yn hynny o beth.
Dylid defnyddio da byw ysgafnach a llai cynhyrchiol i bori’r ardaloedd hyn yn dynnach os yn bosibl ymhell i ganol mis Tachwedd er mwyn lleihau’r baich ar unrhyw lefelau porthiant. Dylai ffermwyr hefyd gymryd y cyfle i gynnal gwaith adfer mewn caeau penodol megis gwasgaru calch ac adfer porfeydd yn dilyn y Gwanwyn gwlyb.
Yn ychwanegol at y penderfyniadau pwysig a welir uchod, mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain bod y gwaith o gynllunio troi anifeiliaid allan ar gyfer 2019 yn dechrau yn ystod cyfnod yr Hydref. Ynghyd â stoc silwair isel, byddai’n ddigon hawdd i chi or-bori eich fferm yn ystod y cyfnodau pori ffafriol hyn cyn y Gaeaf. Felly, mae cynllunio ble a phryd fydd y cyfnod pori nesaf yn dechrau yn diogelu eich porfa ar gyfer y gwanwyn. Gellir cyflawni hynny hefyd drwy sychu, difa neu werthu stoc yn ôl twf glaswellt ar ddiwedd y flwyddyn. Yn olaf, wrth edrych ar gromliniau twf glaswellt misol ar gyfer 2017/2018 yn y graff uchod, gallwn weld darlun clir o’r amodau eithafol ac anghyson sy’n wynebu rheolwyr porfa, sy’n dechrau ymddangos yn arferol erbyn hyn.