26 Mehefin 2018

 

Mae’r newid llwyr yn y tywydd yn ystod gwanwyn 2018 a’i effaith ar reolaeth glaswelltir ar ffermydd da byw yng Nghymru’n dangos gwir ddiffiniad o effaith tywydd eithafol yn fwy nag erioed. Nid oedd glawiad parhaus a thywydd oer ym mis Mawrth ac Ebrill yn caniatau ffermwyr i droi anifeiliaid allan yn gynnar na gwneud y defnydd gorau o’r glaswellt, ac roedd yn rhaid i nifer o ffermwyr brynu porthiant ychwanegol i fwydo anifeiliaid dan do. Mae’r cyfnod sych braf o ganol Mai wedi parhau ymhell i fis Mehefin, cymaint nes bod twf ar dir ysgafnach sydd wedi’i dorri ar gyfer silwair wedi arafu, yn ogystal â rhai o’r priddoedd trymach sydd wedi cadw llawer o leithder y gwanwyn. Lle bu ffermwyr yn gobeithio y byddai’r glaw yn peidio, maen nhw bellach yn gwneud i’r gwrthwyneb, gan amlygu’r trafferthion posibl a’r angen i roi arferion rheolaeth ar waith a fydd yn helpu i sichrau bod y glaswellt yn tyfu ac yn cael ei ddefnyddio mewn modd effeithlon dan amodau mor wrthgyferbyniol. Mae tabl 1 yn dangos gwahaniaeth mawr yn y tywydd rhwng Mawrth a Mai gyda mwy na dwywaith a hanner yn fwy o heulwen a mwy na 58% yn llai o law.

 

Tabl 1. Data tywydd cyfartalog y Met Office ar gyfer Mawrth, Ebrill a Mai 2018

 

Uchafswm tymheredd oC

Isafswm tymheredd oC

Heulwen

Cyfanswm oriau

Glawiad

mm

Dyddiau o law

>1mm

Dyddiau barrug yn yr aer

Mawrth

7.2

1

86.4

151

17.5

10.7

Ebrill

12.1

5.1

126

120

15

2

Mai

16.9

6.8

237.2

64

9.1

0.6

(Ffynhonnell: Met Office)

Mae tymheredd y pridd yn un prif ffactor sy’n arwain twf glaswellt cynnar ac mae tabl 2 isod yn egluro unwaith eto sut oedd y twf araf ym mis Mawrth 2018 yn cymharu gyda 2017, gyda thymheredd y pridd oddeutu 3.5-4oC yn is na’r un cyfnod y llynedd. Felly mae’r amodau amgylcheddol yn gallu amrywio o fewn blwyddyn yn ogystal ag amrywiadau dramatig o un flwyddyn i’r llall. Mae angen i ffermwyr tir glas da felly fod yn hyblyg o ran rheoli stoc wrth ystyried yr elfennau tywydd amrywiol sy’n arwain twf y glaswellt.

 

Tabl 2. Tymheredd y pridd ar dri o safleoedd map tymheredd y pridd Cyswllt Ffermio

Dyddiad tymheredd y pridd 2017/2018

Pant Gwyn

2018

Pant Gwyn

2017

Castell Newydd Emlyn

2018

Castell Newydd Emlyn

2017

Criccieth

2018

Criccieth

2017

1 Mawrth

0.7 oC

4 oC

2.6 oC

6.5 oC

1.7 oC

6.5 oC

1 Ebrill

4.2 oC

8.7 oC

6.5 oC

9.5 oC

7.1 oC

10.5 oC

1 Mai

7.6 oC

8.6 oC

8.5 oC

9.1 oC

10.1 oC

11.3 oC

1 Mehefin

15.6 oC

15.6 oC

14.5 oC

13.3 oC

18.2 oC

16.9 oC

(Ffynhonnell: Prosiect tymheredd y pridd, Cyswllt Ffermio)

Yn aml, bydd yr hyblygrwydd yma’n ymddangos fel cyfaddawd, gyda lloia neu ŵyna’n digwydd o fewn cyfnod penodol a’r angen i gyfateb galw’r anifeiliaid gyda digon o egni a phrotein, beth bynnag fo’r ffactorau allanol. Mae’n hanfodol bod ffermwyr yn ystyried yr amodau penodol ar eu ffermydd ac yn casglu cymaint o wybodaeth â phosibl i’w cynorthwyo i benderfynu ar ddyddiad dechrau lloia neu ŵyna a’r dyddiad cyfartalog i sicrhau bod modd darparu digon o faeth i anifeiliaid sy’n llaetha, a hynny’n ddelfrydol ar ffurf porfa, er mwyn sicrhau’r proffidioldeb gorau posibl. Mae tabl 3 yn dangos cyfraddau twf gwanwyn 2018 ar gyfer tair fferm sy’n lloia yn y gwanwyn o ddechrau Chwefror. Mae deall effaith tebygol y tywydd ar dwf glaswellt yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwartheg sy’n cyrraedd brig eu cynhyrchiant chwe wythnos ar ôl lloia yn derbyn porfa o ansawdd digonol, neu o leiaf yn derbyn ychwanegion yn ystod cyfnodau pan wyddwn fod y twf yn araf.

 

Tabl 3. Cyfradd twf yn ystod Mawrth, Ebrill a Mai 2018 ar 3 fferm laeth sy’n cymryd rhan ym Mhrosiect Porfa Cymru

Twf dyddiol

Pwllheli

Llandeilo

Bala

Mawrth

9.5 KgDM/Ha

8.2 KgDM/Ha

4.8 KgDM/Ha

Ebrill

40.2 KgDM/Ha

39.95 KgDM/Ha

38.8 KgDM/Ha

Mai

71 KgDM/Ha

66.95 KgDM/Ha

63.45 KgDM/Ha

Gorchudd cyfartalog y fferm ar gyfer cyfnod Mawrth - Mai kg/DM/Ha

2086

2596

2170

(Ffynhonnell: Prosiect Porfa Cymru)

Nid yw rhagweld twf glaswellt byth yn rhwydd ac rydym ni wedi gweld nad oes yr un flwyddyn yr un fath â’i gilydd, ond bydd sicrhau dealltwriaeth dda o dwf posibl ar eich fferm ynghyd ag effaith tebygol amrywiaeth mewn tywydd yn eich cynorthwyo i gynllunio ar gyfer elfennau megis lefelau stoc, cyfraddau gwasgaru Nitrogen, dechrau’r tymor bridio, pori ar ddechrau’r gwanwyn, sicrhau bod silwair dros ben a mabwysiadu cynlluniau eraill wrth gefn os bydd amodau’r gwanwyn hwn yn digwydd eto.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn