25 Medi 2018
Mae’r system EID gwartheg newydd bellach wedi ei osod yn Rhug, safle ffocws Cyswllt Ffermio yng Nghorwen. Gan ei fod wedi’i osod o fewn y system trin gwartheg bresennol, mae’r system newydd yn galluogi i weithwyr y fferm gasglu data yn rheolaidd, a gallent wneud hynny yn hawdd ac ymarferol. Caiff gwartheg eu pwyso yn aml, gyda’r holl ddata yn cael ei gofnodi er mwyn darganfod mannau i wella, yn benodol o fewn maeth, sy’n effeithio twf a datblygiad y gwartheg.
Yn dilyn Haf sych iawn yn y stad, bydd Gareth Jones, Rheolwr y Fferm yn Rhug, nawr yn edrych ar safon a’r nifer o silwair sydd ganddynt. Bydd rhan nesaf y prosiect yma yn ffocysu ar faeth dros gyfnod y gaeaf. Y cam cyntaf fydd i brofi’r silwair glaswellt a’r silwair âr a gaiff ei gynhyrchu yno. Ar ôl i safon y silwair gael ei ddarganfod, byddwn yno’n gweithio i fformiwleiddio diet addas i’r fenter bîff, gan gydweithio ag arbenigwr maeth. Mae’n bwysig i gadw mewn côf fod Rhug yn system organig, ac felly mae canfod ffynhonnell gynaliadwy a cost-effeithiol o brotein ar gyfer dietau gwartheg yn gallu bod yn anodd.
Cadwch olwg allan am y diweddariad prosiect nesaf yn ystod mis Tachwedd 2018.
Gwawr Hughes, Swyddog Technegol Cig Coch Gogledd Cymru
gwawr.hughes@menterabusnes.co.uk / 07932 610 697