footbath 1
Symudedd y fuwch yw un o’r ffactorau pwysicaf o ran iechyd y fuches, a chloffni yw’r broblem lles mwyaf arwyddocaol sy’n effeithio ar fuchesi llaeth. Gall achosion o gloffni fod yn gostus, a gallant hefyd effeithio ar gynhyrchiant llaeth a ffrwythlondeb, felly gall gweithdrefnau iechyd y traed helpu i gynyddu cynhyrchiant a phroffidioldeb.

Yn ystod digwyddiad Cyswllt Ffermio ym Mrynbuga, bu’r  milfeddyg Sara Pedersen, sy’n arbenigo mewn iechyd gwartheg, yn amlinellu’r prif faterion sy’n effeithio ar symudedd mewn buchesi llaeth, ac yn trafod yr arfer gorau wrth ymdrin â’r achosion cloffni.

“Mae’n rhaid i ni asesu beth yw lefelau cloffni yn y fuches, beth sy’n eu hachosi a thargedu unrhyw ffactorau risg,” meddai.

Mae clwyfau ar wadn y droed, clefyd y llinell wen a dermatitis digidol yn gyfrifol am 90% o broblemau ar ffermydd llaeth ac yn gyfrifol am amrediad o gostau uniongyrchol a chostau cudd:

 

Cost gyfartalog fesul achos

Lleihad mewn cynhyrchiant (litr)

Cyfnod estynedig rhwng lloea (dyddiau)

Cynnydd yn y perygl o ddifa

Clwyfau ar wadn y droed

£520

574

40

56%

Clefyd y llinell wen

£300

369

30

11%

 

Mae achos o dermatitis digidol yn costio £75 ar gyfartaledd ac yn ymestyn cyfnod rhwng lloea o 20 diwrnod, os bydd heffrod yn dal y cyflwr ar fwy nag un achlysur cyn lloea am y tro cyntaf gall fod yna effaith sylweddol.

 “Mae’r gyfradd cenhedlu ar ôl cael eu troi at y tarw’r tro cyntaf yn lleihau 13.3%, ac mae’n cymryd 24 diwrnod yn hirach i feichiogi, sy’n costio £5 yn fwy bob dydd i gadw heffer ar y fferm. Byddant hefyd yn cynhyrchu 335 litr yn llai yn ystod eu llaethiad cyntaf, ac maent deirgwaith yn fwy tebygol o gael dermatitis digidol eto, felly mae’r effaith ar gostau’n enfawr.”

Bydd cynnal lefel isel o berygl heintiad ar fferm trwy hylendid da, rheolaeth slyri a golchi traed gwartheg yn helpu i gadw bacteria sy’n gallu achosi dermatitis digidol a throed aflan (foul) oddi wrth y traed.

Bydd siâp ac ansawdd y carn yn cynyddu’r gallu i ddal pwysau’r fuwch ac yn lleihau’r perygl o gael clwyfau ar wadn y droed a chlefyd y llinell wen. Mae clwyfau ar wadn y droed yn fwy tebygol o ddatblygu os bydd diffyg cyfforddusrwydd i’r fuwch a phan fo llif gwartheg yn broblem ar fferm, gall clefyd y llinell wen fod yn fwy cyffredin, gan fod yn ‘llinell wen’ - sy’n uno gwadn y droed gydag ochrau’r carn - yn dueddol o fod dan straen.

“Gyda chlefyd y llinell wen, rydw i bob amser yn chwilio am straen ar y traed, felly sut ydym ni’n dod â’r gwartheg i mewn? A yw beiciau pedair olwyn neu gŵn yn rhoi straen ar y gwartheg i gerdded ynghynt? A yw’r gwartheg yn troi’n sydyn o gwmpas y parlwr, a oes ardaloedd llithrig lle maent yn ymgasglu?” meddai Sara. “Os bydd giât yn cael ei ddefnyddio’n rhy lym, bydd y gwartheg yn ymgasglu’n dynn at ei gilydd, a byddwn yn gweld mwy o broblemau llinell wen ar y traed blaen gan eu bod yn cynnal eu pwysau eu hunain. Mae’r arwyneb fwydo hefyd yn ffactor risg gan fod gwartheg yn dueddol o wthio’i gilydd.”

Gall clwyfau ar wadn y traed fod yn broblem benodol yn ystod y cyfnod lloea, pan fo cynhyrchiant y carn yn arafu a’r gewynnau’n llacio rhywfaint, gan leihau sefydlogrwydd a chefnogaeth i esgyrn y droed. Mae rheolaeth traed da yn ystod y cyfnod sych felly yn hanfodol er mwyn atal problemau symudedd yn ystod y cyfnod lloea.

“Mae trimio traed wrth i’r gwartheg sychu yn bwysig iawn, yn ogystal â sicrhau bod gwartheg yn gyfforddus ac yn cadw oddi ar eu traed cymaint â phosib trwy orwedd, gan na fyddech eisiau rhoi gormod o bwysau pan nad yw’r droed yn sefydlog,” meddai Sara. “Y nod yn ystod y cyfnod sychu yw sefydlogi’r traed ac i gynnal y pwysau mewn modd cytbwys, gan symud pwysau i’r mannau cryfach ar ochr y carn er mwyn lleihau’r potensial ar gyfer problemau.”

Pwysleisiodd Sara hefyd ar bwysigrwydd sgorio symudedd a bod yn ymwybodol o fân newidiadau mewn symudiad.

“Pan fyddwch yn sgorio symudedd, mae’n well sgorio’r galetach gan fod y canlyniadau’n well pan fyddwch yn fwy llym. Hefyd, ceisiwch edrych ar bopeth fel petai mai dyna’r tro cyntaf i chi weld yr anifail gan fod newidiadau’n gallu bod yn fach iawn o ddydd i ddydd.   Y cynharaf oll y gallwn drin y gwartheg, y cynharaf oll y byddant yn gwella.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y