21 Tachwedd 2018

 

Mae dyddiad cau Meincnodi Cig Coch yn agosáu ac rydym yn eich annog i gwblhau'r holiadur ar-lein cyn gynted â phosib neu gallech golli allan ar £1000 yw’r neges gan Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio. 

Lansiwyd yr ymgyrch - Meincnodi Cig Coch gan Hybu Cig Cymru ar yr 8fed o Hydref ac mae gan fusnesau sy’n gymwys hyd at y 10fed o Ragfyr i gwblhau’r holiadur ar-lein.

Ond, cyn gwneud dim mae angen i chi gyrraedd meini prawf, un ohonynt yw bod eich busnes wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru er mwyn cael mynediad i’r system a dechrau ar y gwaith o gofnodi eich data.

Mae’n bwysig cofio, nid yw Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar agor ar benwythnosau felly mae angen i chi ddechrau’r broses ar unwaith i osgoi rhwystrau posib fel trafferthion mewngofnodi. Rydym yn eich annog i osgoi gadel y dasg yma tan funud olaf.

Os nad ydych wedi cofrestru neu angen cymorth mewngofnodi i’r holiadur cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 neu drwy e-bostio cyswlltffermio@menterabusnes.co.uk Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg / We welcome calls in Welsh.

Meincnodi Cig Coch yw eich cyfle chi i ddeall yn well sut mae’ch fferm yn perfformio a helpu i greu sector cig coch cryf a hyderus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Mae’n agored i 2,000 o fusnesau â defaid a gwartheg magu, ond byddwch cystal â gwneud yn siŵr faint o anifeiliaid sydd eu hangen i gymryd rhan. Cofiwch, hefyd, taw’r cyntaf i’r felin gaiff falu. Bydd rhaid i chi lenwi holiadur ar-lein er mwyn cyflwyno manylion ariannol a ffisegol am eich fferm.

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites