Gall cymryd camau syml i wneud godro’n fwy effeithlon arbed arian ac amser i chi. Mae prosiect Safle Ffocws Cyswllt Ffermio ar fferm Ffosyficer, Abercych, sy’n canolbwyntio ar faterion megis graddnodi offer godro’n rheolaidd, wedi amlygu arbedion posibl o £30,000 y flwyddyn.

Ymunwch â Cyswllt Ffermio i ddarganfod mwy am gyflymu amser godro, gwella cyfraddau llif llaeth a lleihau gor-odro. Bydd Ian Ohnstad, arbenigwr technoleg llaeth o ‘The Dairy Group’ yn trafod pwysigrwydd arferion y parlwr godro yn ymwneud ag iechyd y fuches a’r gadair/pwrs a’r potensial i gynyddu gwerth a faint o laeth sy’n cael ei werthu. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar leihau’r cyfrif celloedd somatig a  bactoscans, ac yn edrych ar a yw cadachau y mae modd eu golchi’n glanhau tethi’n well na thywelion papur, ac a yw’n werth y gwaith ychwanegol.

 

Arferion Godro Effeithlon

Dyddiad: Dydd Mercher 12fed Ebrill

Amser: 11:00 – 14:45

Lleoliad: Fferm Ffosyficer, Abercych, Castell Newydd Emlyn SA37 0EU

 

Croeso cynnes i bawb, a darperir lluniaeth. Er mwyn cefnogi ein safonau bioddiogelwch ac i gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru, sicrhewch fod pob cerbyd yn lân a’ch bod yn gwisgo dillad ac esgidiau y mae modd eu golchi a’u diheintio. Ni fydd unrhyw un nad yw’n gwisgo dillad ac esgidiau y mae modd eu golchi a’u diheintio yn cael mynediad i’r fferm.

Mae’r digwyddiad hwn yn gymwys ar gyfer pwyntiau DairyPro. Am fwy o fanylion, neu i archebu lle, cysylltwch â Jamie McCoy ar 07985 379819 jamie.mccoy@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites