aa hot weather image
11 Gorffennaf 2018

 

Er gwaethaf y cyfnod poeth a sych diweddar a’r cyn lleied o dwf glaswellt, un cysur yw’r ffaith bod chwant bwyd gwartheg yn tueddu i gael ei fodloni hyd yn oed ar orchudd fferm is. Mae samplau glaswellt diweddar a gymerwyd fel rhan o Brosiect Porfa Cymru wedi dangos samplu glaswellt Fresh gyda Deunydd Sych (DM) o 28%, sy’n gynnydd o 18% ers 6 wythnos ynghynt.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

aaaagraph h weather

Un enghraifft yw y byddai angen i fuwch 600Kg sydd angen 18Kg o DM y dydd yn cynnwys 3kg/DM o ddwysfwyd a 15kgDM o laswellt fwyta 83.3kg o laswellt Pwysau Ffres (FW) y diwrnod gyda 18% o Ddeunydd Sych. Ond, pe byddai’n bwyta’r glaswellt wedi samplu uchod, byddai ond angen iddi fwyta 53.2 KgFW. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod gan y sampl uchod dal lefelau da o brotein ac ynni y gellir ei Fetaboleiddio (ME), tra bod y lefelau Ffeibr Glanedol Niwtral yn ddigon uchel i ganiatáu ychwanegiadau pellach gyda dwysfwyd. Gall samplu glaswellt yn ystod cyfnodau a sefyllfaoedd allweddol trwy gydol y flwyddyn sicrhau eich bod yn dyrannu tir pori ac ychwanegiadau yn gywir er mwyn osgoi tanfwydo neu wastraff o ddyrannu gormod o dir pori.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn