4 Mehefin 2020
Mae amodau tywydd sych parhaus yn ystod y misoedd diwethaf wedi arwain at safleoedd arddangos cig coch Cyswllt Ffermio i addasu arferion rheolaeth i gwrdd â’r sialensiau maent yn ei wynebu. Mae’n amlwg fod diffyg cyfraddau tyfiant glaswellt a chyflenwadau dŵr sy’n lleihau yw’r prif heriau sy’n wynebu ffermwyr bîff a defaid Cymru yn ystod y cyfnod hwn.
Gydag amodau yn debyg i sychder ar fin parhau am y dyfodol cyfagos, mae’r effeithiau o ddiffyg glaswellt ar gyfraddau twf ŵyn a systemau pesgi bîff yn seiliedig ar laswellt eto i’w darganfod. With drought-like conditions set to continue for the foreseeable, the impacts of reduced grass growth on lamb growth rates, and grass-based beef finishing systems are yet to be determined. Bydd yr amodau hyn hefyd yn cael effaith andwyol ar y nifer a’r safon o borthiant a gaiff ei gynhyrchu ar gyfer misoedd y gaeaf.
Dyma rhai enghreifftiau o sut mae’r sychder cynnar hwn yn effeithio ar rai o’n safleoedd arddangos cig coch ledled Cymru, a pha strategaethau maent yn ei weithredu er mwyn ymdopi gyda’r sialens hwn.
Hendre Ifan Goch, Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Russell a Rhys Edwards yn ffermio yn Hendre Ifan Goch, Pen-y-bont ar Ogwr. Maent yn cefnogi 400 o fiŵls Aberfield, 200 o fiŵls Cymreig a 130 o ŵyn benyw ar y fferm, sy’n codi o 600 i 1,300 troedfedd.
Ar hyn o bryd, caiff mamogiaid ac ŵyn eu symud ar y system pori cylchdro yn ddyddiol, o ganlyniad i leihad mewn tyfiant glaswellt yn ystod y cyfnod hwn. Maent yn dod allan o gaeau ar dyfiant o 1,450kg DM/ha, ac yn symud i mewn i gaeau ar dyfiant o 1,750kg DM/ha yn unig. Ar hyn o bryd, dim ond 22kg/diwrnod mae’r caeau pori yn tyfu. Mae lefelau lleithder yn y pridd ar 120kpa ar hyn o bryd.
Caiff deugain erw o silwair pit wedi ei dorri’n fân ei gynaeafu ym mis Mehefin. Fodd bynnag, mae Rhys yn bryderus fydd cynhyrchiant a safon cnwd silwair eleni wedi ei gyfaddawdu. Ar hyn o bryd, mae caeau silwair yn tyfu ar gyfradd o 80kg/diwrnod.
Mae cyflenwad dŵr hefyd yn broblem yn Hendre Ifan Goch. Caiff 1,300 litr o ddŵr ei gludo i ddefaid yn ddyddiol gan fod ffynonellau dŵr naturiol wedi sychu.
Cofnod o lawiad yn Hendre Ifan Goch yn ystod mis Mai 2019 o’i gymharu â Mai 2020.
Moelogan Fawr, Llanrwst
Mae Llion a Sian Jones yn ffermio 304 hectar o dir ucheldir yn Moelogan Fawr, Llanrwst. Mae Moelogan Fawr yn codi o 1,000 i 1,500 troedfedd ac yn cynnal 100 o fuchod sugno, 36 heffer a diadell o 1,200 o famogiaid.
Gan fod y pridd yn fawnog, nid oes effaith sylweddol ar gyfraddau twf glaswellt o’i gymharu â mathau eraill o briddoedd. Fodd bynnag, mae cyflenwad dŵr yn broblem yn Moelogan mewn cyfnodau sych fel hyn. Mae dŵr fel arfer ar gael mewn nentydd naturiol, ond mae cyflenwadau wedi sychu i fyny. O ganlyniad, mae’r fferm wedi prynu pwmp solar a pheipiau ychwanegol ar gost o £3,380, a gaiff ei ddefnyddio i bwmpio dŵr i uchder uwch ar y fferm. Er ei fod yn swnio yn ddrud, mae Llion a Sian yn hyderus fydd y system hon yn talu am ei hun ar ôl dau dymor sych gan ei fod yn gyfrifol am gyflenwi dŵr i arwynebedd helaeth.
Caiff y rhan uchaf o’r fferm ei bori ar system gylchdro fel arfer, ond gan nad oes ffynonellau dŵr, mae giatiau wedi eu hagor er mwyn sicrhau mynediad i’r cyflenwad dŵr. O ganlyniad, mae wedi ei stocio’n barhaol, gan arwain at gyfraddau twf glaswellt is gan nad yw’n cael cyfnod o orffwys. Bydd y pwmp dŵr solar a chafnau dŵr yn galluogi iddynt barhau gyda’i chylchdro pori a bydd y glaswellt yn adfer ymhen amser.
Ffynhonellau dŵr wedi sychu yn Moelogan Fawr
Cefngwilgy Fawr, Llanidloes
Mae safle arddangos Cefngwilgy Fawr yn uned ucheldir 200 hectar sydd yn cael ei ffermio gan Edward a Kate Jones, yn ogystal â thad Edward, Gareth. Mae buches o 50 o fuchod sugno a diadell o 1,000 o famogiaid yn pori’r fferm, sydd yn codi o 700 i 1,100 troedfedd ar y pwynt uchaf.
Fel rhan o brosiect Cyswllt Ffermio yn Cefngwilgy Fawr, cafodd dau gae ei ail-hadu gyda meillion gwyn a coch ar y 6ed o Fai 2020. Maent yn ymddangos fel eu bod yn egino, fodd bynnag, maent angen lleithder er mwyn ffynnu. Dylai'r cnwd gael ei bori am y tro cyntaf yng nghanol mis Mehefin gan ŵyn, fodd bynnag, gall hyn gael ei oedi o ganlyniad i gyfraddau twf is.
Ail-hadu yn Cefngwilgy Fawr. Wedi ei hadu 6ed o Fai 2020.
Cyflwr y ddaear yn Cefngwilgy Fawr
Glanmynys, Llanymddyfri
Mae safle arddangos Glanmynys yn uned bîff a defaid 202-hectar sydd yn cael ei ffermio gan ei berchennog Carine Kidd, a'i phartner ffermio ar y cyd, Peredur Owen. Mae’r fferm yn cynnal diadell o 700 o famogiaid Cymreig a Aberfield x Cymreig, gyda’r mwyafrif yn wyna tu allan rhwng Ebrill 1af a Mai 1af. Mae buches o 25 o fuchod sugno, y mwyafrif ohonynt yn groes-Simmental, yn lloi yn y gwanwyn ac yn yr hydref ond bydd niferoedd yn cael eu gostwng haf eleni er mwyn tyfu’r fenter ddefaid, a'r fenter gwartheg tyfu.
Mae’r sychder yn effeithio’r fferm mewn modd tebyg i ffermydd bîff a defaid eraill yng Nghymru. Y prif fater yma yw’r lleihad mewn tyfiant glaswellt, gyda chae wedi ei ail-hadu yng nghanol mis Ebrill angen glaw er mwyn hybu tyfiant.
“Ar hyn o bryd, rydym yn mesur glaswellt yn fisol, fodd bynnag, rydym yn bwriadu mesur yn amlach er mwyn ennyn gwell dealltwriaeth o batrymau tyfiant glaswellt ac er mwyn ennill gwell reolaeth ar ddefnydd glaswellt.” - Peredur Owen, Glanmynys, 27ain o Fai 2020.
Nid yw diffyg dŵr yn broblem yn Glanmynys, gyda phrif gyflenwad dibynadwy a digonedd o ddŵr ffynnon naturiol.
Un o strategaethau Carine a Peredur er mwyn ymdopi â’r sialens hwn yw gweithredu cynllun sychder, drwy weithio ar y cyd â Precision Grazing er mwyn cyflawni hyn.
Isod: Mamogiaid ac ŵyn yn pori yn Glanmynys
Uchod: Gwartheg ar system pori cylchdro yn Glanmynys
Opsiynau posibl i’w hystyried er mwyn lleihau pwysau ar borfeydd ac adnoddau yn ystod y cyfnod hwn:
- Diddyfnu ŵyn yn gynt na’r arfer
- Gwerthu mamogiaid a buchod lladd cyn gynted â phosibl
- Cyflenwi dwysfwyd i ŵyn a lloi er mwyn atal trochfeydd mewn twf
- Gwerthu ŵyn fel ‘stors’ yn lle eu pesgi.