19 Medi 2019

Mae rhoi sylw i ddiffyg cobalt wedi rhoi hwb i gyfraddau pesgi dyddiol ymhlith ŵyn ar fferm ddefaid yn Sir Gaerfyrddin.

Yn Aberbranddu, Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio ger Pumsaint, roedd profion elfennau hybrin ar ŵyn a anwyd yn ystod y gwanwyn eleni wedi cadarnhau diffyg cobalt.

Gan weithio gyda Cyswllt Ffermio, bu'r ffermwr, Irwel Jones, yn treialu dau ddull o ychwanegu cobalt – bolws cobalt a chynnyrch cobalt chwistrelladwy.

Roedd y ddwy driniaeth wedi rhoi'r un canlyniadau, gan gynyddu cyfraddau tyfiant ŵyn, ond ni welwyd gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y ddau ddull trin.

Dywedodd Mr Jones, a gynhaliodd ei ddiwrnod agored olaf fel Ffermwr Arddangos yn ddiweddar, y bu cynnal profion elfennau hybrin yn ymarfer defnyddiol, a gyda'r wybodaeth a sicrhaodd o hynny, y bydd pob oen yn cael atchwanegiad pan fyddant yn wyth wythnos oed yn y dyfodol.

“Mae profion wedi dangos diffyg cobalt yma ar y fferm, felly bydd ychwanegu cobalt yn rhan o'n protocolau o hyn ymlaen,” dywedodd Mr Jones, sy'n cadw diadell o 940 o famogiaid Cymreig o fath Tregaron.

Mae cobalt yn hanfodol er mwyn cynhyrchu'r fitamin B12 sy'n ofynnol ar gyfer micro-organebau rwmen er mwyn ysgogi datblygiad ac effeithlonrwydd trosi porthiant.

Os bydd ffermwyr yn amau bod ganddynt broblem, dylid rhoi blaenoriaeth i gynnal profion ar sampl o ŵyn, argymhellodd Kate Hovers, milfeddyg sy'n gweithio yn Aberhonddu.

Dywedodd Mrs Hovers, a fu'n siarad yn ystod y diwrnod agored, y byddai atchwanegu wastad yn fwy effeithiol pan fyddai'n cael ei wneud fel mesur ataliol yn hytrach na thriniaeth pan welir bod ŵyn yn perfformio'n wael yn barod.

Mae profi yn bwysig oherwydd y gallai ddangos nad oes angen atchwanegu, ychwanegodd.  “Gallai ffermwyr fod yn gwastraffu arian yn ychwanegu elfennau hybrin os bydd lefelau digonol o elfennau hybrin mewn diadellau.”

Roedd y prosiect yn un o nifer yr oedd Mr Jones wedi cychwyn arnynt yn ystod pedair blynedd Aberbranddu fel Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio.

Dywedodd bod y rhain wedi rhoi'r hyder iddo i wneud newidiadau y gallent wella ei fusnes yn y dyfodol.

Roedd Mr Jones wedi nodi gwendidau yn ei fusnes yn flaenorol, ond nid oedd yn siŵr pa ddulliau gweithredu i'w dilyn er mwyn datrys y rhain, gan gynnwys angen i wella'r defnydd a wneir o laswellt, ei dyfiant a'i ansawdd.

Llwyddodd i gyflawni hyn trwy newid o stocio penodedig i bori mewn cylchdro, dan arweiniad James Daniels, ymgynghorydd pori mewn cylchdro, trwy raglen Cyswllt Ffermio.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn tyfu mwy o laswellt trwy gydol y tymor nawr, a'i fod yn llai dibynnol ar brynu bwyd anifeiliaid, gan gynyddu'r raddfa stocio ar ei fferm fynydd 263 hectar.

Yn ogystal, roedd wedi ymchwilio i'r defnydd y mae ei ddiadell yn ei wneud o ddŵr.  Gall cyflenwad dŵr cyfyngedig i rai caeau fod yn rhwystr wrth geisio pori mewn cylchdro – mae ffigurau AHDB yn argymell cyflenwad dŵr dyddiol o 3.3-7.5 litr fesul mamog.

Ond roedd gwaith ymchwil yn Aberbranddu, a fu'n mesur defnydd dŵr dros gyfnod o amser, wedi cofnodi cymeriant llawer is, gan adlewyrchu amrywiadau rhanbarthol o bosibl oherwydd gwahanol amodau tywydd.

Dywedodd Sarah Hughes, Swyddog Technegol Cig Cyswllt Ffermio (De Orllewin Cymru) y gallai'r canlyniadau hyn, y byddent yn destun gwaith ymchwil pellach cyn y byddai modd ffurfio unrhyw gasgliadau cadarn, arwain at oblygiadau o ran y ffordd y caiff tir ei bori.

Dywedodd Mrs Hughes bod gwaith Cyswllt Ffermio yn Aberbranddu dros y bedair blynedd ddiwethaf wedi dangos bod enillion cronnol i'w sicrhau trwy roi sylw i'r manylion mewn meysydd lluosog.

“Mae Irwel wedi cychwyn ar amrywiaeth o brosiectau, gan ganolbwyntio ar faterion penodol iawn yn ei fenter ddefaid ac mae cyfuniad yr enillion a sicrhawyd yn y meysydd hyn wedi arwain at fantais sylweddol i'r busnes yn gyffredinol,” dywedodd.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu