06 Chwefror 2024

Mae pori betys porthiant fel cnwd dros y gaeaf ar gyfer gwartheg bîff a llaeth yn lleihau costau gaeafu ar fferm yn Sir Benfro.

Mae’r teulu James ar hyn o bryd yn tyfu 10 hectar (ha) ar gyfer gaeafu gwartheg bîff stôr a gynhyrchir gan y fuches laeth ar fferm Stackpole Home Farm, ond maent yn cynyddu i 45ha er mwyn darparu porthiant ar gyfer gwartheg sy’n llaetha a gwartheg sych.

Mae’r gwartheg ar hyn o bryd yn cael eu cadw ar borfeydd gohiriedig neu gnwd cêl a byrnau silwair dros y gaeaf, ond bydd newid i fetys porthiant yn darparu bwyd rhatach o ansawdd uwch.

Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn ddiweddar, dywedodd George James, sy’n ffermio gyda’i rieni, Chris a Debbie, bod tyfu cêl yn mynd yn anoddach o ganlyniad i gyfnodau hir o sychder ar ôl trin y tir ar ddiwedd mis Mai neu ddechrau mis Mehefin. 

“Mae’r dyddiadau trin y tir cynharach ar gyfer betys porthiant yn rhoi mantais i’r cnwd, a gallwn lwyddo i gael 20 tunnell o ddeunydd sych (tDM/ha) ohono’n rhwydd, felly dyma’r cnwd pori mwyaf cynhyrchiol o bell ffordd ar gyfer y gaeaf,” meddai.

Mae’n costio tua 7 ceiniog fesul cilogram o ddeunydd sych, sydd oddeutu hanner cost silwair, felly bydd y system newydd yn lleihau costau bwydo dros y gaeaf, yn cau bylchau ar ddiwedd ac ar ddechrau cyfnodau llaetha, ac yn gwneud y defnydd gorau o briddoedd tywodlyd y fferm sy’n draenio’n rhwydd.

Ond bydd y cyfnod pontio wrth i’r fuches symud tuag at fwyta’r cnwd a sicrhau ei fod yn cael ei ddyrannu’n effeithiol yn allweddol er mwyn sicrhau iechyd a pherfformiad yr anifeiliaid.

Yn ystod y diwrnod agored, bu’r arbenigwr ar fetys porthiant, Dr Jim Gibbs, sydd hefyd yn filfeddyg ac yn wyddonydd ymchwil ym maes maeth anifeiliaid cnoi cil ym Mhrifysgol Lincoln, Seland Newydd, a Marc Jones, ymgynghorydd glaswellt a phorthiant annibynnol, yn rhannu cyngor pwysig ynglŷn â sut i wneud hynny’n iawn - a sut i osgoi rhai o’r camgymeriadau cyffredin.

Mae betys porthiant yn cynnwys llawer o siwgr a dŵr, ac felly mae’n rhaid caniatáu digon o amser i addasu cymeriant y porthiant.

Rhybuddiodd Dr Gibbs mai gwartheg llaeth yw’r dosbarth da byw sydd fwyaf agored i effaith asidosis yn ystod y cyfnod pontio o ganlyniad i orfwyta, sy’n digwydd os caiff gormod o fetys porthiant eu rhoi’n rhy gynnar yn ystod y broses bontio.

Er mwyn atal hyn, cynghorodd y dylid bwydo symiau bach o fetys porthiant yn y lle cyntaf, gan adeiladu cymeriant yn araf, ynghyd â darparu bwyd ychwanegol i sicrhau bod rwmen y fuwch yn llawn.

Cynghorir y dylid bwydo glaswellt neu silwair fel bwyd ategol yn y lle cyntaf, gan na fyddai gwartheg yn bwyta’r swm angenrheidiol ar gyfer cynnal cyflwr a pherfformiad pe byddai bwyd llai bwytadwy, megis gwellt, yn cael ei gynnig.

Un o’r dangosyddion ar gyfer nodi a yw’r gwartheg wedi trawsnewid yn llwyddiannus yw os oes betys porthiant yn cael eu gadael ar ôl – roedd Dr Gibbs yn awgrymu y dylai hyn fod oddeutu 5-10% y dydd.

“Nid oes unrhyw risg o asidosis ar ôl i’r gwartheg drawsnewid, gan gymryd bod cymeriant yn ddigonol,” meddai.

Mae buwch sy’n llaetha angen cyfanswm o 15-18kg o ddeunydd sych (DM), felly dylid anelu at darged o 5-6kg/DM o fetys porthiant ynghyd â glaswellt a silwair ar gyfer bwydo yn ystod y cyfnod llaetha, gan na ddylai’r cnwd gynrychioli mwy na thraean o’u porthiant.

“Dechreuwch drwy gynnig 1kg DM/dydd, ac unwaith mae pob un o’r anifeiliaid yn bwyta’r  bỳlb, ewch i fyny fesul 1kg DM/dydd bob deuddydd,’’ meddai Dr Gibbs.

Roedd yn argymell  y dylid parhau gyda’r broses drawsnewid nes cyrraedd y targed ar gyfer cymeriant.

Ar gyfer gwartheg sych sy’n pwyso 500kg, a heffrod cyflo, mae’r gofyniad dyddiol yn 14kg DM – gan fod betys porthiant yn gallu cynrychioli 80% o’u diet, gellir dyrannu 11-12kg DM o fetys porthiant a 2kg DM o fwyd bras unwaith y byddant wedi trawsnewid.

Dylid adeiladu ar hyn fesul cam, 1-2kg DM ar y diwrnod cyntaf gan gynnyddu 1kg DM bob deuddydd, gyda 7-8kg o fwyd ategol hyd at y seithfed diwrnod, a lleihau’r bwyd ategol i 2kg erbyn diwrnod 14 pan fyddant wedi trawsnewid yn llawn.

Os ydych yn bwydo 2kg o fwyd ategol, dylid ystyried yn ofalus sut y bydd y bwyd ategol yn cael ei fwydo er mwyn galluogi pob anifail i gael mynediad ato; os ydych chi’n bwydo byrnau mewn porthwyr crwn, dylid cynyddu i 3-4kg oherwydd y lle cyfyngedig sydd ar gael i fwydo.

Ar gyfer stoc ifanc o chwe mis oed, roedd Dr Gibbs yn argymell y dylid dechrau gyda chymeriant dyddiol o 0.5kg DM y pen o fetys porthiant, gan gynyddu’r cyfanswm 0.5kg bob deuddydd, ynghyd â 3-5kg o laswellt neu silwair. Erbyn diwrnod 14, dylai’r gymysgedd gynnwys 5-6kg o fetys porthiant a 1-2kg o laswellt neu silwair.

Bu Marc Jones yn rhannu sut mae’n gweithredu ei system o dyfu a bwydo betys porthiant ar ei fferm, Trefnant Hall, Berriw, a dywedodd ei bod hi’n bwysig cyfateb mathau o fetys porthiant gyda’r math o stoc.

Dywedodd bod Lactimo Geronimo yn amrywiaethau gwych ar gyfer pori gan eu bod yn cynnwys cyfran uchel o ddail a bod mwy o’r bylbiau’n eistedd ar ben y ddaear, sy’n golygu bod mwy ar gael i’w fwyta.

Mae amrywiaeth gyda llai o ddeunydd sych megis Brigadier yn fwy bwytadwy, gan olygu y bydd mwy ohono’n cael ei fwyta gan loi sy’n pwyso oddeutu 200kg, ychwanegodd.

Dywedodd Delana Davies, Rheolwr Traws Sector Cyswllt Ffermio, a fu’n hwyluso’r digwyddiad, bod tyfu betys porthiant yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i leihau costau bwydo dros y gaeaf ar gyfer pob math o stoc. 

“Yn ogystal, gellir gwneud arbedion o ran gofynion siediau a gwellt, ynghyd â chynhyrchu llai o slyri a thail gan arwain at lai o broblemau gwasgaru, gan olygu bod tyfu’r cnwd yn ystyriaeth gwerth chweil i nifer o ffermwyr llaeth, bîff a defaid,” meddai.
 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint