16 Ebrill 2024

 

Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio cyflymu ei symudiad oddi wrth ddibyniaeth ar wrtaith nitrogen ar gyfer tyfu glaswellt trwy dyfu cymysgedd o wndwn llysieuol.

Fe wnaeth derbyn y denantiaeth hirdymor o 48ha ar Fferm Maes Dulas, Machynlleth, annog Sophia Morgan-Swinhoe a Sam Wren-Lewis i edrych o’r newydd ar sut yr oeddent yn cynhyrchu porthiant ar gyfer eu buches Jersey a’u gyr o eifr.

Yn hanesyddol, sefydlwyd glaswellt ar y fferm gyda mathau o rygwellt parhaol, ond, gydag uchelgais i leihau dibyniaeth ar wrtaith nitrogen, lleihau eu cost cynhyrchu ac er budd hirdymor y pridd a'r amgylchedd, mae'r pâr yn treialu gwahanol gymysgeddau.

Mae’r treial hwnnw’n cael ei ariannu gan gronfa ‘Cyllid Arbrofi’ Cyswllt Ffermio, menter sy’n darparu cyllid i unigolion a grwpiau o ffermwyr a thyfwyr i arbrofi gyda syniadau a’u gwireddu.

Er bod buddion gwndwn llysieuol ar gyfer sefydlogi nitrogen a gwella iechyd y pridd yn dra hysbys, yr hyn sy’n llai dealladwy yw eu sefydliad mewn gwndwn rhygwellt parhaol presennol ar dir uchel trwy hau yn uniongyrchol - a’r amrywiaethau sydd fwyaf addas ar gyfer y dull hwnnw i sicrhau bod y gwndwn yn parhau yn gynhyrchiol.

Mae’r Cyllid Arbrofi wedi rhoi’r cyfle i Sophia a Sam archwilio hynny, er eu budd eu hunain ac er budd ffermwyr eraill sy’n ystyried y dull hwn.

Mae tair llain un hectar o wahanol gymysgeddau hadau yn cael eu sefydlu ar Fferm Maes Dulas y gwanwyn hwn a bydd llain o rygwellt parhaol yn gweithredu fel rheolaeth.

Mae un cymysgedd yn laswelltir aml-rywogaeth sy'n canolbwyntio ar hybu sefydlogiad nitrogen, i gynnal cynhyrchiant cynnyrch heb wrtaith nitrogen synthetig, mae un arall yn rhoi pwyslais ar fathau â gwreiddiau dwfn i wella iechyd y pridd a dal a storio carbon, yn ogystal â buddion eraill megis gallu’r pridd i gadw dŵr ac i wrthsefyll sychder.

Mae'r trydydd yn gyfuniad o'r ddau.

Bydd perfformiad pob llain yn cael ei fesur ar ddiwedd tymor pori 2024.

Mae'r pâr wedi bod eisiau arbrofi gyda phlannu gwndwn llysieuol ar raddfa fwy erioed ac maent yn ddiolchgar i Cyswllt Ffermio a'r Cyllid Arbrofi am alluogi iddynt wneud hynny.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y gall ystod o wahanol rywogaethau helpu i adfywio porfeydd a oedd yn arfer bod yn ddibynnol ar nitrogen,” meddai Sam
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites