08 Chwefror 2024

 

Mae fferm laeth yng Nghonwy yn harneisio pŵer genomeg mewn ymgais i gyflymu cynnydd genetig yn ei buches sy’n lloia mewn dau floc.

Mae Fferm Rhydeden, daliad 100-hectar, yn cynhyrchu llaeth o 175 o wartheg sy'n lloia yn y gwanwyn a 125 sy'n lloia yn yr hydref.

Ar hyn o bryd, mae’r fuches yn cynhyrchu cyfartaledd cynnyrch llaeth o 6,500 litr y fuwch gyda 4.5% o fraster menyn a 3.6% o brotein.

Ers i Eurof Edwards ymuno â’r busnes ffermio teuluol ychydig flynyddoedd yn ôl, mae wedi arwain at ehangu’r fuches, gwaith i wneud y gorau o’r ardal bori, a buddsoddiad mewn isadeiledd newydd.

Mae Eurof bellach yn troi ei sylw at gyflymu potensial genetig y fuches ac mae wedi ymuno â Cyswllt Ffermio i gynnal prosiect profi genomig.

Ar hyn o bryd, mae'r holl heffrod cyfnewid yn Rhydeden yn epil o'r fuches sy'n lloia yn y gwanwyn sy'n caniatáu rheolaeth haws ar gyfer magu stoc ifanc - mae 75% o'r bloc hwn yn lloia o fewn chwe wythnos.

Mae heffrod cyfnewid yn cael eu bridio trwy ddefnyddio semen y mae ei ryw wedi’i bennu ar yr holl heffrod gwasod ac ar fuchod yn ystod pum wythnos gyntaf y cylch bridio. Mae gweddill y fuches a bloc yr hydref yn cael eu ffrwythloni â semen tarw bîff.

Mae Eurof yn rhagweld y gallai genomeg helpu i wella proffidioldeb busnes heb fod angen buddsoddiad sylweddol oherwydd ei fod yn galluogi i anifeiliaid cyfnewid gael eu dewis ar sail ffigurau genomig.

Dyma dri o’r nodweddion y bydd y busnes yn canolbwyntio arnynt ynghyd â’r Mynegai Lloia Gwanwyn (SCI) a’r Gwerthoedd Bridio (BW).

  • Ffrwythlondeb
  • Cilogramau o brotein llaeth 
  • Cilogramau o fraster menyn llaeth

Dangoswyd bod profion genomig yn cynyddu dibynadwyedd potensial yr anifail yn sylweddol yn hytrach na'i ragfynegi o berfformiad y tad a'r fam. 
Y nod yw creu buches fwy unffurf.

Dywed Osian Hughes, swyddog llaeth Cyswllt Ffermio ar gyfer Gogledd Cymru, a fydd yn goruchwylio’r prosiect ‘Ein Ffermydd’, fod y nodweddion hyn yn bwysig iawn i’r busnes ffermio gan fod gan wella cilogramau o gyfansoddion llaeth y potensial i gynyddu pris llaeth wrth giât y fferm heb fuddsoddiad sylweddol.

Bydd gwella canran ffrwythlondeb trwy ddethol genomig yn lleihau mynegai lloia'r fuches ac, o ganlyniad, yr allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir gan y fuches.

“Bydd profion genomig yn cynhyrchu ffigurau SCI ac ACI ar gyfer pob anifail a brofir,” eglura Osian.

“Bydd y busnes yn gallu gwneud penderfyniadau amserol yn ystod wythnosau cyntaf bywyd heffer, ynghylch a ddylid ei chadw fel heffer gyfnewid ai peidio, yn hytrach na mynd i’r gost o fagu heffrod ac yna dadansoddi’r data cynhyrchiant a phroffidioldeb yn y cyfnod llaetha cyntaf.''

Yr uchelgais yw magu anifeiliaid cyfnewid o wartheg a heffrod sy'n perfformio orau o ran ffrwythlondeb a chilogramau o brotein a braster menyn.

Trwy ysgogi gwelliannau pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr Fferm Rhydeden a chyfrannu at iechyd a lles uchel y fuches.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint