15 Ebrill 2024

 

Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o rywogaethau o facteria, ffyngau, protosoa a nematodau llesol i briddoedd ei fferm er mwyn ceisio creu’r ecosystem iach sydd ei hangen arno i gefnogi cynhyrchiant glaswellt heb fewnbynnau.

Nod Sam Carey yw datblygu system ffermio llaeth cynaliadwy a phroffidiol heb unrhyw fewnbwn ar fferm Mathafarn, Llanwrin.

Yn ddiweddar, bu iddo drawsnewid y fferm bîff a defaid i gefnogi cynhyrchiant llaeth sy’n lloia yn y gwanwyn  gyda mewnbwn isel/dim mewnbwn gyda phwyslais ar iechyd y pridd a dilyn dull adfywiol.

Mae Sam yn gweld ei briddoedd fel ei ased mwyaf ac mae’n cyflwyno dull arloesol a allai wella bioleg y pridd ymhellach.

Gyda chymorth gan gronfa Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio, mae'n treialu effeithiolrwydd cynnyrch sy'n cynnwys bacteria, ffyngau, protosoa a nematodau llesol sydd wedi'u tyfu gan ddefnyddio compost fel uned hybu.

Pe bai'n llwyddiannus byddai'n cyflymu targedau adfywio, busnes a chynhyrchu Sam.

“Rwy’n ddiolchgar iawn am y Cyllid Arbrofi, mae’n ein galluogi i wthio yn erbyn y cyfyngiadau, rhoi cynnig ar ddulliau amgen a phrofi pethau nad ydynt yn hysbys,” meddai.

Mae chwe chae wedi'u rhannu'n ddau ar fferm Mathafarn gyda'r cynnyrch wedi'i roi ar un hanner a heb ymyrraeth yn yr hanner arall.

Defnyddir cyfraddau gwahanol ar draws y lleiniau prawf i bennu pa un sydd â'r dylanwad mwyaf.

Bydd twf glaswellt yn cael ei fonitro trwy dymor tyfu 2024 a bydd statws mwynol y glaswelltir yn cael ei ddadansoddi. Mae newidiadau yn ymdreiddiad pridd yn cael eu harchwilio hefyd a bydd profion yn cael eu cynnal ar y pridd i asesu newidiadau i fioleg y pridd.

Mae Sam, sy’n fentor Cyswllt Ffermio, wedi ymddiddori ers tro mewn pridd ac iechyd y pridd, ond cwrs iechyd y pridd ar-lein a gynhaliwyd gan Dr Elaine Ingram, arbenigwraig ar ficrobioleg y pridd a gydnabyddir yn rhyngwladol oedd ei gatalydd i gyflwyno cais am Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio.

Mae'r fenter hon yn ariannu unigolion a grwpiau o ffermwyr a thyfwyr i arbrofi gyda syniadau a’u gwireddu.

Nid yn unig y mae Sam yn gobeithio dileu mewnbynnau cemegol yn gyfan gwbl a’u bygythiad i gyrsiau dŵr ond hefyd mae’n gobeithio cynyddu faint o laswellt y mae’n ei dyfu, a’i ansawdd hefyd.

Os gall wella cyfraddau ymdreiddiad pridd bydd y tir yn cyflwyno llai o risg o ddŵr ffo ac yn llai tebygol o ddioddef llifogydd.

Daw’r prosiect i ben ym mis Chwefror 2025 pan fydd y canlyniadau’n cael eu rhannu â ffermwyr eraill.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites