14 Mai 2020

 

Gallai haidd gwanwyn cartref helpu menter sugno i dorri eu costau pesgi teirw bîff.

Aeth y teulu Griffith ati i blannu 27 erw o'r cnwd mewn dau gae ar fferm Bodwi, un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio ym Mynytho ger Pwllheli, ym mis Ebrill.

"Dyma'r tro cyntaf i ni dyfu hwn mewn 20 mlynedd," meddai Edward Griffith, sy'n rhedeg buches o 140 o wartheg sugno Stabiliser gyda'i wraig Jackie a'i fab Ellis, a'i rieni, William a Helen.

Dyma un o'r prosiectau y mae Bodwi'n eu rhedeg fel safle arddangos, er mwyn darganfod a allan nhw leihau cost y system bresennol o fagu bîff teirw ar ddwysfwyd a gwellt ad-lib o'i gymharu â’u hanfon allan i gael eu pesgi.

Ar hyn o bryd, mae'r teulu'n pesgi hanner eu hanifeiliaid teirw bîff mewn uned yn Selby, ond os gall tyfu a bwydo eu grawnfwydydd eu hunain leihau cost cynhyrchu'r anifeiliaid gartref fe allai'r polisi hwnnw gael ei adolygu.

"Dydi’n system bresennol ni o fwydo â dwysfwyd a gwellt ddim yn gynaliadwy o gofio’r pris rydyn ni’n ei gael am y gwartheg. Roedd ein costau'n mynd dros ben llestri am ein bod ni'n prynu pob dim,” meddai Mr Griffith.

Y targed ar gyfer pesgi yw 12-14 mis gyda gwartheg yn cael eu gwerthu’n uniongyrchol i’r lladd-dy. Mae rhai o’r anifeiliaid gwryw’n cael eu gwerthu fel teirw magu yn 12-14 mis oed.

Un o'r rhesymau y rhoddodd y busnes y gorau i dyfu haidd oedd bod yr haidd yn cael ei rolio a bod y llwch oedd yn cael ei greu yn beryglus i iechyd.

Bydd y cnwd newydd yn cael ei grimpio; mae hyn yn golygu y gall grawn llaith iawn gael ei gynaeafu ryw dair wythnos yn gynt na'r cynhaeaf confensiynol a'i brosesu gan gontractwr lleol.

Cafodd yr haidd ei hau o dan amodau "delfrydol" yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill, meddai Mr Griffith. 

Laureate yw enw’r rhywogaeth, sef hedyn sydd wedi perfformio'n gyson dda ar Restr Argymhellion gan AHDB ers iddi gael ei rhestru gyntaf yn 2016. 

Lôm canolog ffrwythlon yw pridd Bodwi. Yn union ar ôl aredig cafodd y caeau eu rholio'n wastad i gadw cymaint o leithder â phosibl am fod y tywydd yn sych, ac er mwyn sicrhau gwely mân a chadarn i’r hadau.  

Cafodd gwrtaith 15-15-15 ei wasgaru ar gyfradd o 150kg yr erw ac yn dilyn hynny bydd cynnyrch wedi’i seilio ar nitrogen yn cael ei wasgaru yn nes ymlaen yn y tymor. 

Gan fod dadansoddiad y pridd yn dangos pH sy’n is na’r hyn sy’n ddymunol, cafodd calch wedi’i brilio ei wasgaru cyn drilio’r hadau, a hynny yn ôl 200kg yr erw.

Cyn sefydlu unrhyw gnwd, mae'n hanfodol bod yr holl ffactorau cyfyngol yn cael eu harchwilio, gan ddechrau drwy ddadansoddi maetholion y pridd, medd yr agronomegydd Gareth Mitchell, sy'n darparu cyngor agronomeg i'r prosiect ar fferm Bodwi.

Mae pH y pridd yn dyngedfennol i’r cnwd. "Gallwch ddewis y rhywogaeth orau sydd ar gael ond fydd hi ddim yn perfformio os yw’r maetholion yn wael,” meddai Mr Mitchell.

"Mae'r un peth yn wir os oes gennych chi fynegrif P a K perffaith ond pH gwael achos fydd y P a’r K ddim ar gael i’r planhigyn eu cymryd.’’

Cafodd yr hadau eu drilio â dril cyfun o dan amodau da ar 9 Ebrill a hynny yn ôl cyfradd o 75kg yr erw. 

Mae Mr Mitchell yn dweud bod yr egino a’r ymsefydlu wedi bod yn “hynod o dda” er gwaethaf tywydd sych yn ystod mis Ebrill.

“Y tro diwethaf i mi ymweld, roedd yr haidd yn edrych yn dda, ond am fod y tywydd sych yn cyfyngu ar faint y maetholion y gall y planhigion eu codi, roedd y dail newydd yn welw a dan straen," meddai.

“Gan ein bod ni wedi cael glaw bellach, rwy'n disgwyl i'r haidd gymryd camau bras ymlaen yn yr wythnosau nesaf.’’

Rheoli chwyn fydd yr her nesaf. “Hyd yn hyn dan ni ddim wedi gweld fawr ddim chwyn yn egino ond mae'n hanfodol tynnu'r chwyn cyn gynted ag y bôn nhw wedi egino er mwyn lleihau'r gystadleuaeth a straen i'r cnwd,” meddai Mr Mitchell.

Bydd y ffwngleiddiad cyntaf yn cael ei wasgaru ar gnwd Bodwi (T1) tua diwedd y cyfnod cadeirio, sef pan fydd y planhigion yn dechrau ymledu. 

“Dyma'r prif gyfnod ar gyfer rheoli rhyncosporiwm, er bod y gawod goch, blotyn a llwydni hefyd yn dargedau,’’ esboniodd Mr Mitchell.

“Mae rhyw 40% o ymateb y cnwd i’r ffyngleiddiaid yn deillio o’r cyfnod hwn. Asolau, strobilwrinau, ac SDHIs sy’n cael eu defnyddio yn y cyfnod hwn.’’

Bydd y cyfraddau gwasgaru yn amrywio, gan ddibynnu ar y pwysau mae’r clefyd yn ei greu.

“Does dim ffyngleiddiaid iacháu da ar gael ar hyn o bryd, felly mae'n gwbl hanfodol bod y dull atal yn cael y flaenoriaeth, yn hytrach na mynd ati i geisio ymladd tanau,’’ meddai Mr Mitchell.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn