13 Rhagfyr 2023
Dull wedi’i dargedu yw’r ffordd ymlaen, yn ôl grŵp llywio newydd Cyswllt Ffermio.
Cyfarfu’r grŵp, a sefydlwyd i roi’r cyfle i ffermwyr gyfrannu at wasanaethau sy’n amrywio o’r math o brosiectau sy’n cael eu rhedeg gan Cyswllt Ffermio i’r ffordd orau o gyfathrebu â ffermwyr, am y tro cyntaf ym mis Hydref.
Dewiswyd yr aelodau o blith enwebeion i ddarparu cynrychiolaeth deg o sectorau, rhanbarthau, oedrannau a rhyw.
Mae Elain Gwilym, sy’n ffermio gwartheg bîff gyda’i phartner, Guto, yng Nghefn Lleuar, Llanllyfni, yn un o’r aelodau.
Roedd hi eisiau cymryd rhan am sawl rheswm. “Dw i’n meddwl ei fod yn gyfle gwych i ni fel ffermwyr allu cydweithio â Cyswllt Ffermio i deilwra gwasanaeth y mae’n rhaid i ni, fel busnesau amaethyddol, ei esblygu a’i ddatblygu’n gynaliadwy tra hefyd yn sicrhau ei fod yn rhoi gwerth am arian cyhoeddus.”
Mae gan Elain ddealltwriaeth dda o Cyswllt Ffermio oherwydd ei bod wedi defnyddio llawer o’i wasanaethau, gan gynnwys y Gwasanaeth Cynghori, hyfforddiant tynnu trelars ac, yn fwy diweddar, samplu pridd.
Roedd y cyfarfod cyntaf, dan gadeiryddiaeth cadeirydd Bwrdd Rhaglen Cyswllt Ffermio, Euryn Jones, yn gynhyrchiol iawn a chafwyd llawer o drafodaeth grŵp, gan roi cyfle i aelodau rannu syniadau.
Bu llawer o drafod rhwng yr aelodau a oedd yn hyrwyddo’r cydweithio cadarnhaol gyda sefydliadau megis grwpiau glaswelltir, cymdeithasau bridiau a phroseswyr. Gyda chysylltiadau cryf eisoes wedi eu sefydlu gan Cyswllt Ffermio, dywedodd Euryn fod Cyswllt Ffermio yn awyddus i glywed gan fwy o sefydliadau hefyd.
Croesawyd hefyd grwpiau trafod a gwaith cyngor grŵp, sef gwasanaethau y mae gan Cyswllt Ffermio enw da am eu darparu i safon uchel ac sy’n cael eu defnyddio’n helaeth gan ffermwyr ac eraill.
Roedd y grŵp o’r farn bod budd mawr i’w gael o ffermwyr yn ehangu a rhannu eu gwybodaeth, ynghyd â dysgu rhwng cymheiriaid – sef ffordd wych o drosglwyddo gwybodaeth – a mentora trwy Wasanaeth Mentora Cyswllt Ffermio.
Roedd y grŵp hefyd yn cefnogi ffocws Cyswllt Ffermio ar ddiogelu eu ffermydd at y dyfodol; mae hyn yn hanfodol mewn cyfnod o newid i’r diwydiant, gyda ffocws penodol ar feysydd fel carbon, rheoli dognau a rheoli pobl. Cydnabuwyd hefyd barhad y gwaith rhagorol y mae Cyswllt Ffermio wedi’i wneud i annog mwy o fenywod i amaethyddiaeth; dylid trefnu mwy o’r digwyddiadau hyn i adeiladu ar y sylfaen gref sydd eisoes wedi’i sefydlu.
Roedd cyflwyno cymorth milfeddygol i’r Gwasanaeth Cynghori yn ddatblygiad i’w groesawu’n fawr, gan ddarparu gwasanaeth sy’n galluogi ffermwyr i gael cyngor penodol ar fater sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid a/neu gynllun iechyd generig.
Mae Aled Vaughan-Jones, un o aelodau’r grŵp sy'n cynhyrchu llaeth o ddwy fuches sy’n lloia mewn bloc yn Llwyn, Llanbedr Pont Steffan, yn gweld achos dros ddigwyddiadau’n canolbwyntio'n fwy ar themâu penodol.
Mae Aled yn credu y dylai pob busnes achub ar y cyfle i ail-ddilysu eu manylion gyda Cyswllt Ffermio i sicrhau eich bod yn derbyn cyfathrebiad wedi’i dargedu am wasanaethau Cyswllt Ffermio.
“Mae pob ffermwr yn brysur iawn a phan ddaw llawer o e-byst a gohebiaeth arall drwyddo, mae’n hawdd eu hanwybyddu.”
“Rwy’n gwerthfawrogi bod cynifer o wahanol sectorau a systemau yng Nghymru y mae Cyswllt Ffermio yn darparu ar eu cyfer; gyda’r broses ail-ddilysu newydd, rwy’n gobeithio y bydd yr hysbysiadau a gefais yn cael eu targedu’n fwy penodol, a fydd yn caniatáu i mi ganolbwyntio fy sylw ar y gwasanaethau sydd ar gael i gryfhau ein busnes ymhellach.”
Gyda hyn mewn golwg, dywedodd Euryn y byddai ffermwyr yn cael cais cyn bo hir i gwblhau proses ail-ddilysu Cyswllt Ffermio i sicrhau bod eu manylion yn gyfredol i alluogi paru gwasanaethau penodol i gynorthwyo eu busnesau.
Bydd cylch gorchwyl y grŵp yn cael ei ehangu, gydag aelodau’n mynychu cyfarfodydd Bwrdd Rhaglen Cyswllt Ffermio.
“Mae’r grŵp llywio yn gyfle gwych i ffermwyr rannu eu cyfoeth o wybodaeth a phrofiad, herio meddylfryd, annog syniadau newydd ac yn y pen draw wella ymhellach y ffordd y mae Cyswllt Ffermio yn gweithredu i gefnogi teuluoedd ffermio Cymru,” meddai Euryn.