19 Rhagfyr 2023

 

Gallai ffermwyr Cymru gael y dewis cyn bo hir i fridio defaid ag ôl troed carbon isel naturiol, diolch i brosiect Cyswllt Ffermio newydd sydd â’r uchelgais o greu gwerthoedd bridio tybiedig (EBV) ar gyfer cynnyrch methan.

Mae allyriadau o ŵyn mewn diadelloedd sy’n rhan o Brosiect Geneteg Defaid Cymru Cyswllt Ffermio yn cael eu mesur gyda siambrau cronni cludadwy.

Dim ond un elfen yw hon o sawl un sy’n gysylltiedig â geneteg y bydd y rhaglen yn ymchwilio iddynt dros y ddwy flynedd nesaf i helpu ffermwyr i gryfhau perfformiad y ddiadell, gwella cynhyrchiant a chynyddu proffidioldeb, ond mae’n un bwysig, meddai Heledd Dancer, Swyddog Geneteg Defaid Cyswllt Ffermio ar gyfer Canolbarth Cymru, gan y bydd yn rhoi cyfle i ffermwyr ddewis anifeiliaid sy'n cynhyrchu llai o fethan yn eneteg.

Bydd hyn yn helpu ffermwyr i asesu a newid eu rhaglen a’u system fridio i ddewis defaid ag allyriadau methan is, gan eu galluogi i leihau ôl troed carbon eu diadell a’u fferm yn ogystal â chyfrannu fel diwydiant at leihau effaith amgylcheddol gyffredinol allyriadau methan. 

“Rydym yn rhoi’r cyfle unigryw i ffermwyr ddatblygu’r EBV hwn gyda ni,’’ meddai Heledd.

“Rydym ni’n gwybod bod defaid yn cynhyrchu methan ac rydym ni’n gwybod bod yna berthynas rhwng ffactorau megis maint y perfedd, felly’r bwriad yw darganfod pa anifeiliaid yn eu diadell a all gyfrannu at leihau allyriadau methan.”

Mae’r siambrau’n caniatáu mesuriadau o hyd at 12 dafad ar y tro – bydd hyn yn cael ei wneud gan Innovis o Aberystwyth, sy’n gweithio ar y cyd â Cyswllt Ffermio ar y prosiect hwn; er mwyn sicrhau cysondeb, cedwir y defaid hynny ar yr un drefn bori am y tair wythnos flaenorol.

Gan fod cynnyrch methan yn nodwedd etifeddadwy, bydd mesuriadau'n cael eu cymryd o ŵyn sydd wedi'u cynhyrchu gan amrywiaeth o hyrddod.

Nod y prosiect yw cymryd mesuriadau o dros 1000 o ŵyn dros gyfnod o ddwy flynedd.
Dywedodd Gwawr Williams, Pennaeth Geneteg Defaid gyda Cyswllt Ffermio, fod y nifer hwn yn ddigon i ddatblygu EBV defnyddiadwy ar gyfer cynnyrch methan. 

“Byddai hefyd yn ddigon i roi amcangyfrif da i ni o etifeddolrwydd yn y boblogaeth, yr ydym fel arfer yn ystyried 900-1000 o anifeiliaid fel y lleiafswm,” meddai.
Mae tystiolaeth dda bod gan ddefaid sy'n cynhyrchu llai o fethan gyfaint reticwlwm is, felly bydd y prosiect hefyd yn defnyddio sganio CT i gael mesuriadau cywir o ddimensiynau reticwlwm yn yr anifail byw. 
“Mae’n hanfodol ein bod yn deall newidiadau yng nghyfaint reticwlwm a all fod yn gysylltiedig â magu defaid â chynhyrchiant methan is fel y gallwn sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol o ran gallu’r defaid i ddefnyddio porthiant o ansawdd isel,” meddai Gwawr.

Erbyn hyn, mae dros gant o ddiadelloedd yn rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru o fewn dwy haen, sydd hefyd yn cynnwys diadelloedd a symudodd o Gynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru.

Mae Haen 1 yn ymwneud yn benodol â bridiau mynydd ac ucheldir tra bod Haen 2 ar gyfer bridiau mamol gan gynnwys Wyneblas Caerlŷr, Lleyn, Charmoise Hill a Romney.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites