nick and wendy holtham

26 Ionawr 2018

 

Bydd rhai busnesau yn cychwyn â breuddwyd, eraill â chynllun. Yn achos y gwneuthurwyr caws, Nick a Wendy Holtham, roedd yn gyfuniad o’r ddau.

Roedd y pâr wedi bod yn cynhyrchu caws llaeth defaid ers blynyddoedd at eu defnydd eu hunain, ac roeddent yn ymwybodol o alw masnachol am y cynnyrch llaeth arbenigol hwn.

Ond ni wnaeth Wendy hau hadau’r syniad o ddyfodol fel gwneuthurwr caws nes iddi hi ymweld â busnes cynhyrchu caws fel rhan o ymweliad a drefnwyd gan Cyswllt Ffermio. Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, yn dilyn ymddeoliad Nick o’i swydd yn gweithio mewn swyddfa cwmni cludiant, roedd hi’n ymddangos yn adeg briodol i fentro i faes cynhyrchu masnachol. 

“Ymddeol a cholli’r sicrwydd a ddaw gyda chyflog misol oedd y sbardun i fentro. Fe wnaethom ni feddwl, pa well ffordd o wario gweddill ein pensiwn na chychwyn busnes!” meddai Nick, gan chwerthin.

“Heb wasanaeth Cyswllt Ffermio, ni fyddem ni wedi cychwyn y busnes; ymweliad â Chaws Cenarth a drefnwyd gan Cyswllt Ffermio oedd y sbardun.”

Digwyddodd hynny yn 2013. Roedd Caws Cenarth yn awyddus i gynhyrchu caws llaeth defaid, felly fe wnaethant gytuno i brynu’r llaeth. Sefydlodd Nick a Wendy eu diadell ar 23 erw o dir yr oeddent wedi’i brynu yng Nghrymych, ac fe wnaethant fuddsoddi £12,500 mewn parlwr chwe phwynt.

Bellach, maent yn godro 120 o ddefaid o frid Friesland yn bennaf, ac yn ogystal â’r tir sy’n eiddo iddynt yn Nolwerdd, maent yn rhentu 30 erw ychwanegol.

Am bedair blynedd bron iawn, roeddent yn gynhyrchwyr llaeth yn unig, ond newidiodd hynny wedi iddynt fynychu cymhorthfa marchnata Cyswllt Ffermio yn Aberaeron ym mis Ionawr.

Yn ystod y digwyddiad hwnnw, cawsant gyfarfod unigol awr o hyd gyda’r ymgynghorydd busnes, Jeremy Bowen Rees, o Landsker Business Solutions.  “Roeddem ni wedi ystyried rhoi cynnig ar gynhyrchu ein caws ein hunain i’w werthu, felly roeddem yn ddiolchgar iawn am ei gyngor doeth ynghylch marchnata a’i frwdfrydedd hefyd.  Fe wnaeth ein tywys i’r cyfeiriad iawn,” yn ôl Wendy.

“Roedd yr arweiniad a gawsom yn allweddol o ran ein cynorthwyo i fynd â’n busnes gam ymhellach, ac fe wnaeth sicrhau mai ni sy’n dal i reoli’r cynhyrchu a chyfeiriad y busnes i’r dyfodol”.

Yn ôl Jeremy, roedd hi’n amlwg bod Nick a Wendy yn frwdfrydig ynghylch gwireddu eu menter newydd.

“Trwy gyfrwng ymchwil trylwyr a symud ymlaen trwy brofi a methu, roedd ganddynt syniad eithaf da beth oedd eu bwriad ac roeddent yn canolbwyntio ar eu nod”.

Cofrestrodd y ddau i fynychu cyrsiau cynhyrchu caws a hylendid bwyd yng Nghanolfan Bwyd Cymru, Horeb, ac yno, aethant ati i ddatblygu ryseitiau ar gyfer eu dewis eu hunain o gawsiau Defaid Dolwerdd, yn cynnwys Aur Preseli, sy’n gaws caled, a Halloumi o’r enw Halwmi.

Erbyn hyn, maent yn prosesu 20% o’u llaeth eu hunain, ac yn cynhyrchu’r cawsiau ddwywaith y mis yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Gwerthir y cawsiau mewn nifer o siopau ffermydd a marchnadoedd ffermwyr, yn cynnwys Llandudoch ac Aberystwyth. Gyda chymorth Cywain, fe wnaeth cynhyrchion Nick a Wendy hefyd ddenu diddordeb sylweddol gan brynwyr yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, ac fe wnaethant fynychu Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri'r mis diwethaf hefyd.

Mae Caws Cenarth yn parhau i ddefnyddio eu llaeth i gynhyrchu cawsiau meddal, yn cynnwys y caws glas hufennog hynod lwyddiannus, Dol-Las.

Bydd pob dafad yn cynhyrchu litr o laeth bob dydd ar gyfartaledd; bydd angen pum litr o’r llaeth hwn i gynhyrchu 1kg o gaws, sef hanner y cyfanswm sydd ei angen i gynhyrchu 1kg o gaws llaeth gwartheg. Y rheswm dros hynny yw’r canrannau uchel o fraster menyn a phrotein sydd yn eu llaeth – mae diadell Nick a Wendy yn cynhyrchu llaeth sydd â 5.31% o brotein a 6% o fraster menyn ar gyfartaledd. 

Bydd y ddiadell yn ŵyna deirgwaith y flwyddyn, yn Ionawr, Ebrill a Mehefin, i sicrhau cyflenwad di-dor o laeth, ond mae’r ddiadell yn sych yn Rhagfyr ac Ionawr.

Caiff y defaid Friesland eu croesi â hwrdd Romney i gynhyrchu ŵyn sydd â chydffurfiad da i’w gwerthu fel ŵyn stôr ym mart Crymych, ac i gynhyrchu cnuoedd ar gyfer gwlân wedi’i nyddu â llaw a chynhyrchion gwlân, yn cynnwys sanau, menig a hetiau, sy’n cael eu cynhyrchu gan Wendy. Y llynedd, fe enillodd wobr am y cnu gorau yn Sioe Sir Benfro.

Cynhyrchu caws yw man cychwyn taith Nick a Wendy â llaeth eu defaid. Maent yn bwriadu cynhyrchu cyffug ac iogwrt, a sebon hyd yn oed.

Mae eu hymgais i gynhyrchu iogwrt eisoes wedi’i’ gymeradwyo. “Roeddwn i’n segur y prynhawn Sul cyn i ni fynd i Sioe Frenhinol Cymru eleni, felly fe wnes i gynhyrchu rhywfaint o iogwrt naturiol,” meddai Nick.

“Fe wnaethom ni roi cynnig arno mewn cystadleuaeth yn y sioe, mewn pot plaen heb unrhyw enw arno. Roeddem ni’n cystadlu yn erbyn rhai o’r prif gynhyrchwyr, ac roeddem ni wrth ein bodd ar ôl ennill gwobr efydd”.

 

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnal dau Seminar Arallgyfeirio yn mis Chwefror.

21/02/2018 – Fforest Inn, Llanfihangel-Nant-Melan

22/02/2018 – The Hand Hotel, Llangollen


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites