12 Hydref 2023

 

Mae dwy fferm laswelltir ym Mhowys yn ymchwilio i weld a all llwch craig o chwarel leol ddarparu digon o faetholion i dyfu glaswellt. Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan ‘Gyllid Arbrofi’ Cyswllt Ffermio.

Mae craig basalt wedi’i falu’n fân a gynhyrchwyd mewn chwarel yn Llanfair-ym-Muallt wedi’i wasgaru ar hanner dau gae sy’n gorchuddio 2.4 hectar yn Upper House, Hawau, lle mae Gareth Davies yn ffermio gyda’i fab, William, ac yn Fferm Treforgan, Dolau, sy’n cael ei ffermio gan dad a mab, David a Will Lewis.

Bydd twf yn cael ei gymharu â thir lle mae basalt a gwrtaith yn unig wedi'i wasgaru ac ag ardal reoli nad yw wedi cael unrhyw driniaeth.

Aseswyd cyfansoddiad glastir y ddau gae ar ddechrau'r prosiect a bydd twf nawr yn cael ei fonitro dros y misoedd nesaf.

Bydd yr ymarfer hwn yn cael ei ailadrodd yn y gwanwyn, ar gaeau a glustnodwyd ar gyfer silwair neu wair, a bydd yr ymateb hefyd yn cael ei fonitro.

Bydd samplau pridd cyn ac ar ôl gwasgaru hefyd yn cael eu hasesu i ganfod unrhyw wahaniaethau.

Dywed Gareth Davies, sy'n ffermio bîff a defaid, os yw canlyniadau'r prosiect yn ffafriol, y byddai'n lleihau ei ddibyniaeth ar wrtaith sy'n seiliedig ar olew.

Mae’n cyfaddef: “Nid oeddwn wedi clywed am lwch craig basalt tan chwe mis yn ôl”.

Mae'n costio tua £40 y dunnell i'w gael a'i daenu.

Yn ogystal ag enillion ariannol i'w fusnes, mae Mr Davies yn dweud y gallai fod budd i'r amgylchedd hefyd gan y credir y byddai ychwanegu llwch craig at dir fferm yn tynnu carbon deuocsid o'r atmosffer ac yn ei gloi.
 
Ni fyddai’r ymchwil wedi bod yn bosibl heb gyllid a chymorth technegol gan Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio, meddai.

Dywedodd Non Williams, sy’n goruchwylio’r prosiect llwch craig basalt, fod Cyswllt Ffermio wedi datblygu’r cyllid i helpu i wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb busnesau amaethyddol wrth warchod yr amgylchedd.

Dywedodd y bydd canlyniadau’r prosiect hwn yn cael eu rhannu â chynhyrchwyr eraill yng Nghymru ar ôl i’r prosiect ddod i ben ddiwedd 2024.

Mae prosiectau eraill y dyfarnwyd cyllid iddynt yn cynnwys tyfu maglys i wella gwytnwch systemau pesgi ŵyn yn ystod sychder yr haf a darganfod y cnydau mwyaf addas ar gyfer hau bresych. 

Mae’r cyllid Arbrofi yn darparu cyllid ar gyfer ceisiadau prosiect llwyddiannus i
fusnesau unigol neu grwpiau o hyd at bedwar busnes fferm a thyfwyr gan eu galluogi i arbrofi eu syniadau a’u gwireddu.

Agorwyd ffenestr ymgeisio newydd ar gyfer Cyllid Arbrofi ar 9 Hydref 2023 a bydd yn rhedeg tan 20 Hydref. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyd at £5,000 i helpu ariannu treialon ar y fferm sy'n arbrofi gyda syniadau newydd.

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a gallu cwblhau eu prosiectau erbyn mis Ionawr 2025. 

“Gellir defnyddio cyllid ar gyfer cymorth technegol, samplo, profi a threuliau rhesymol eraill megis y rhai sy'n ymwneud â llogi offer neu gyfleusterau arbenigol yn y tymor byr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect,” eglurodd Ms Williams.

Mae’r ffurflen gais ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio, neu i gael y ddolen a gwybodaeth bellach cysylltwch â fctryout@menterabusnes.co.uk
 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites