Ydych chi’n hoff o bopeth yn ymwneud â thechnoleg? Ydych chi’n mwynhau derbyn gwybodaeth am y dyfeisiadau a’r datblygiadau diweddaraf yn ymwneud â thechnoleg ffermio? Neu a ydych chi’n gweithio gyda thechnolegau newydd? Os felly, mae Labordy Amaeth Cyswllt Ffermio yn awyddus i glywed gennych chi.
 
Mae Menter a Busnes wedi datblygu’r fenter newydd hon ar gyfer Cyswllt Ffermio a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ei dasg gyntaf yw dod ag unigolion blaengar o’r un anian ynghyd mewn fforwm sy’n anelu at adnabod ac ystyried technoleg ac arloesedd newydd a all fod o fantais i ffermwyr a choedwigwyr Cymru.

Mae’r Fforwm Labordy Amaeth ar hyn o bryd yn chwilio am aelodau sydd â phrofiad neu ddiddordeb mewn technoleg newydd sy’n gallu adnabod ac adolygu technoleg ac arferion arloesol. Bydd yn cael ei arwain gan Geraint Hughes, Arweinydd Agrisgôp Cyswllt Ffermio, a ddywedodd:

“Rydym ni eisiau clywed gan bobl sydd â diddordeb brwd mewn ffermio a choedwigaeth yng Nghymru ac sy’n gallu adnabod cyfleoedd i fanteisio ar dechnoleg newydd a fydd o fantais uniongyrchol i fusnesau ffermio a choedwigaeth.” “Ein diddordeb pennaf yw arloesedd newydd sy’n agos ar ddod yn hyfyw’n fasnachol a fyddai’n gallu cynnig mantais sylweddol i ffermwyr a choedwigwyr wrth redeg eu busnesau. Rwy’n disgwyl i’r Labordy Amaeth gynnig cyfle gwych i aelodau ddysgu gan ei gilydd ynglŷn â thechnoleg flaengar.”

Bydd aelodau’r Labordy Amaeth yn cwrdd o leiaf dwywaith y flwyddyn ac yn ymgymryd â gweithgareddau i adnabod cyfleoedd arloesedd a thechnoleg allweddol. Bydd Cyswllt Ffermio yn cefnogi gwaith y Labordy Amaeth trwy rannu gwybodaeth am eu canfyddiadau gyda’r diwydiant ac arddangos arloesedd mewn sefyllfaoedd ymarferol trwy rwydwaith safleoedd arddangos newydd Cyswllt Ffermio.

Ychwanegodd Mr Hughes: “Bydd ardal amlwg yn cael ei neilltuo yn Sioe Frenhinol Cymru eleni ar gyfer y Labordy Amaeth i arddangos detholiad o arloesedd i’r cyhoedd ffermio a choedwigaeth ehangach. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld pa fath o dechnoleg newydd y bydd aelodau’n awyddus i’w arddangos ac i ddarganfod sut all y diwydiant ddisgwyl elwa.”  

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn aelod o’r Labordy Amaeth, cysylltwch â Geraint Hughes trwy e-bostio geraint.hughes@agrisgop.cymru. Bydd angen i aelodau’r fforwm gofrestru gyda Cyswllt Ffermio. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer