13 Rhagfyr 2019

 

Dywed yr arbenigwr defaid annibynnol, Dr John Vipond, y gall porthi soia wedi ei amddiffyn ar 50g/dydd i bob oen sy’n cael ei gario a soia plaen ar 100g yr oen at arbediad, ar y prisiau presennol, o fwy na £3 y famog.

“Gall silwair o safon uchel pan ychwanegir soia ato eich galluogi i ddefnyddio 75% yn llai o ddwysfwyd,’’ dywedodd Dr Vipond wrth ffermwyr yn ystod digwyddiadau Cyswllt Ffermio ar hyd ac ar led Cymru.

“Soia yw’r ffynhonnell rataf a gorau o brotein treuliadwy heb ddiraddio (DUP) yn y Deyrnas Unedig.”

Roedd Dr Vipond yn annog y ffermwyr i ail-feddwl am eu dull o borthi mamogiaid cyfeb.

“Rydym wedi bod yn porthi defaid yn yr un ffordd ag yr ydym yn porthi gwartheg, gan fodloni eu gofynion o ran egni ac ychwanegu protein ar ben hynny, ond mae anghenion maeth defaid modern yn wahanol iawn i’r anifail y seiliwyd y cyngor porthi yma arno i gychwyn,” dywedodd.

Mae pwysau ŵyn wrth eu geni wedi cynyddu ac mae gan ddefaid fwy o anghenion o ran maeth.

“Roeddem yn arfer cael tocsemia beichiogrwydd mewn defaid mynydd oherwydd eu bod yn brin o glwcos; rydym yn awr yn gweld hyn mewn diadelloedd ar y tir isel oherwydd ein bod yn gor-borthi egni ac yn tan-borthi protein,” dywedodd Dr Vipond.

Rydym yn colli gormod o famogiaid ac ŵyn yn uniongyrchol o ganlyniad i roi’r maeth anghywir iddynt.’’

Mae soia, fel porthiant i anifeiliaid, yn codi pryderon amgylcheddol, ond os caiff ei borthi ar y ffurf wedi ei ddiogelu, gall y cyfanswm gael ei haneru.

“Mae ffurfiau wedi eu diogelu yn ddrytach, ond gan fod dwywaith cymaint o’r protein wedi ei ddiogelu yn cael ei ddefnyddio mae’n gweithio allan yn well,” dywedodd Dr Vipond.

Ond mae’r dull hwn o borthi yn dibynnu ar silwair o ansawdd da.

Mae Dr Vipond yn argymell rhoi silwair i’r mamogiaid ei fwyta’n ddirwystr a 50g/dydd/oen sy’n cael ei gario o soia wedi ei ddiogelu yn ystod tair wythnos olaf y beichiogrwydd - 1.6% o bwysau byw ddylai fod yn uchafswm y cynnwys sych o silwair yn hwyr mewn beichiogrwydd.

Gall hyn arwain at gyfanswm costau porthiant o £1.70-£2 yn hytrach na phorthi 25kg o ddwysfwyd ar fwy na £5.

 “Mae ffermwyr yn pryderu nad oes gan ddefaid le i dreulio silwair, ond mae gan famog gyfradd glirio rwmen o 8% yr awr yn hwyr yn ei beichiogrwydd yn lle’r 5% arferol,” dywedodd Dr Vipond.

Dim ond i famogiaid sy’n cario mwy nag un oen y mae angen rhoi soia; mae’r maeth mewn silwair yn ddigon i’r rhai sy’n cario un oen.

Gan fod y protein mewn soia wedi ei ddiogelu heb ddiraddio, nid oes raid ei borthi bob dydd; gellir ei roi bob yn ail ddiwrnod ar ddwbl y dyraniad dyddiol, dywedodd Dr Vipond.

Rhybuddiodd bod byrnau modern yn rhy ddwys i’w porthi mewn porthwyr crwn. “Os ydym ni’n disgwyl i famogiaid fwyta mwy o borthiant, mae’n rhaid i ni ei wneud yn hawdd iddyn nhw,” dywedodd. “Dylai byrnau gael eu hysgwyd neu eu rhoi trwy dorrwr os yn bosibl.”

Gadewch o leiaf chwe modfedd o le i borthi i bob mamog.

Bydd un o’r byrnau mawr yn porthi 4-5 o famogiaid. “Cyfrifwch faint fydd arnoch eu hangen nawr a’u rhoi o’r neilltu i’w porthi yn y mis olaf,” dywedodd Dr Vipond.

Dywedodd Llifon Davies, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio yn Ne Orllewin Cymru, ei bod yn bwysig rhoi sgôr cyflwr corff i famogiaid yn ystod y cyfnod hwn hefyd.

“Mae rhoi’r maethiad iawn, nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth mawr i sut mae’r mamogiaid yn ŵyna, ond i ansawdd eu colostrwm hefyd. Bydd hefyd yn lleihau’r risg o afiechyd y geg ddyfrllyd a chlwy’r eira.”

Awgrymiadau da John Vipond i ddiwallu anghenion mamogiaid cyfeb o ran maeth: 

  • Gwiriwch gyflwr y mamogiaid nawr
  • Dynodwch ansawdd y porthiant a faint sydd ar gael
  • Gwnewch y mwyaf o’r porthiant rhad sydd ar gael
  • Dynodwch ddiffygion o ran maeth yn y diet
  • Chwiliwch am yr atebion gorau o ran diet
  • Porthwch heb achosi problemau nac amhariad metabolig
  • Cyfnewidiwch ddwysfwyd ac arbed arian ar borthiant a gwaith

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint