9 Rhagfyr 2021

 

Mae hau glaswellt dan india-corn wedi atal erydu pridd a cholli maetholion ar fferm dda byw yn Sir Benfro, ac mae iddo’r fantais ychwanegol o gynnig porfa aeaf i ddefaid sy’n gaeafu.

Mae Mathew Van Dijk wedi gwesteio cynllun treialu gan Cyswllt Ffermio, gan hau pedwar math gwahanol o gymysgedd o hadau o dan bum hectar o india-corn: rhygwellt Eidalaidd, rhygwellt parhaol tetraploid syml, rhygwellt Eidalaidd gyda ffacbys gaeaf a rhygwellt Eidalaidd gyda meillion berseem.

Ond, fe wnaeth y syniadau tu ôl i’r system hon gymaint o argraff ar Mr Van Dijk fel na wnaeth gyfyngu’r hau i’r plotiau treialu yn unig – heuodd dan ei gnwd 28ha i gyd ar Fferm Arnold’s Hill, ger Hwlffordd.

Cred ei bod yn bwysig i ffermwyr fod un cam ar y blaen, i weithredu cyn i reoliadau ar ddiogelu cyrsiau dŵr rhag ffosffadau eu gorfodi i’r cyfeiriad hwnnw.

“Fel ffermwyr, mae angen i ni ddeall rhagor am ein priddoedd; os nad yw’r pridd yn iawn, ni fydd y cnwd yn tyfu,” meddai Mr Van Dijk, sy’n ffermio 121ha, lle mae’n cadw buches o 60 o wartheg magu ac yn tyfu india-corn i’w werthu i ffermwyr eraill.

Pan fydd caeau’n cael eu gadael yn foel, nid oes strwythur gwreiddiau i ddal y pridd, ond gall hau cnwd neu orchudd ar ôl y cynhaeaf fod yn broblem, oherwydd cyflwr y pridd yn yr hydref a’r hau hwyr. Mae hau dan y cnwd yn cynnig ateb posibl.

Gan fod llawer o gaeau Mr Van Dijk ar lechwedd, mae risg y bydd colli pridd a dŵr yn rhedeg oddi arnynt pan fyddant yn foel.

Dywedodd yr agronomegydd Gareth Williams o Procam, y cynghorydd ar y prosiect Cyswllt Ffermio, fod y llechwedd ar y cae treialu yn dda i brofi gwerth hau dan y cnwd.

Driliwyd y cnwd gorchudd glaswellt ar ddechrau Gorffennaf gan y contractwr o Sir Benfro, James George, sydd wedi buddsoddi mewn dril addas ar gyfer y dechneg hon.

Y cyfnod targed ar gyfer hau cnwd gorchudd dan india corn yw o un wythnos ar ôl i’r plaleiddiad olaf gael ei roi, gyda’r planhigion india corn ar y cyfnod chwech neu saith deilen i’w hatal rhag cael eu tagu gan y glaswellt.

Sefydlodd y gwndwn yn dda, ac nid oedd unrhyw effaith negyddol ar y cynnyrch india corn - cynaeafwyd y cnwd o india corn Augustus ar ddiwedd Medi a chynhyrchodd tua 43t/ha (17t/erw), yn debyg i flynyddoedd blaenorol.

Y plotiau sydd wedi cynnig y gorchudd mwyaf yw’r rhygwellt Eidalaidd a’r gymysgedd rhygwellt Eidalaidd a ffacbys, ond dywedodd Mr Williams fod cynnwys ffacbys wedi rhoi manteision ychwanegol, gan ei fod yn sefydlogi nitrogen ac yn uchel mewn protein. 

Fel y rhagwelwyd, effeithiodd chwyn laddwr yr india corn yn negyddol ar y plot oedd yn cynnwys meillion berseem.

Roedd Mr Williams yn cyfrifo bod hau dan y cnwd yn costio tua £35 yr erw am yr hadau glaswellt a’r gwaith trin – ond yn ogystal â chreu elw o’r pori, mae hefyd yn helpu i gadw nitrogen yn y pridd.

“Bydd yn cadw 40 kg N/ha, sy’n dda i’r pridd – ond mae hefyd yn bwysig yn ariannol, gan fod gwrtaith ar hyn o bryd yn gwerthu am tua £650 y dunnell,” dywedodd.

Mae hau dan y cnwd yn helpu wrth gynaeafu hefyd, gan ei fod yn cynnig arwyneb mwy sefydlog i beiriannau trwm.

Bydd Mr Van Dijk yn cadw 500 o ddefaid gaeafu ar y glaswellt a heuwyd dan y cnwd y gaeaf hwn, a gall ddisgwyl cynhyrchu 2.5-3t/ha o borthiant o’r gwndwn - sy’n cyfateb i 1500 o ddyddiau pori'r hectar i famogiaid.

Yn y blynyddoedd a fu, byddai wedi hau glaswellt ar ôl cynaeafu’r india corn, ond ni fyddai wedi bod yn addas i’w bori hyd ddechrau Mawrth; trwy hau dan y cnwd, gall y pori ddechrau mor gynnar â Rhagfyr.

Mae Mr Williams yn rhagweld, yn y dyfodol, na fydd tyfu india corn yn cael ei ganiatáu mewn rhai rhanbarthau os na fydd y tyfwr yn gallu gwarantu y bydd cnwd yn cael ei hau yn syth ar ôl cynaeafu, neu os bydd cnwd yn cael ei hau oddi tano.

“Os yw ffermwyr am barhau i dyfu india corn a diogelu eu priddoedd a’u cyrsiau dŵr, mae’n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i ffordd o reoli hynny,” dywedodd.

Mae prynwyr llaeth hefyd yn annog eu cyflenwyr i fabwysiadu strategaethau sy’n cadw carbon.

Dangosodd y cynllun treialu gan Cyswllt Ffermio fod hau dan y cnwd yn ddewis dichonol, dywedodd Mr Williams.

“Yn yr ychydig wythnosau diwethaf, mae rhannau o Sir Benfro wedi cael pedair i bum modfedd o law; petai’r cae wedi cael ei adael yn foel, fe fyddai dŵr wedi rhedeg,” dywedodd.

Dywedodd Dr Delana Davies, Swyddog Gweithredol Cyfnewid Gwybodaeth yn Cyswllt Ffermio, sy’n goruchwylio’r cynllun treialu, bod hau cnwd dan india corn yn cael ei arfer yn gynyddol ar ororau Cymru.

“Oherwydd bod James George wedi buddsoddi mewn dril i’r diben, gall ffermwyr gorllewin Cymru gael y cyfle i wella agweddau amgylcheddol tyfu’r cnwd,” dywedodd.

Ar gyfer ffermwyr sy’n ystyried hau dan y cnwd, mae cael cyngor gan agronomegydd yn gam cyntaf pwysig. Dywedodd Mr Williams bod yn rhaid gofalu nad oes gormod o chwyn ar y cae; dylai’r cae gael ei drin â glyphosad cyn ei drin i greu gwely hadau heb chwyn, ac mae’n bwysig dewis y rhywogaeth laswellt gywir ar gyfer y gwaith.

Yn Sir Benfro, mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda Field Options a’r contractwr James George, ac yn rhoi cymhorthdal ar gyfer hau cnwd dan india corn yn ei ddalgylchoedd dŵr yfed ar draws Sir Benfro.   

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i hariannir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Ewrop dros Ddatblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o