20 Rhagfyr 2022

 

Arweiniodd astudiaeth Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) Cymru tair blynedd ar ffermydd llaeth yng Ngheredigion at sefyllfa lle y llwyddodd y tair fferm i reoli eu heffrod blwydd R2 sy'n cael porfa, heb yr angen i'w trin am lyngyr main perfedd;  canfu un fferm nad oedd angen iddi drin ei hanifeiliaid R1 am lyngyr perfedd ar ôl iddynt gael eu brechu am lyngyr yr ysgyfaint.

Roedd y ddwy arall, y mae gan eu ffermydd nhw faich llyngyr uwch, wedi rhoi moddion llyngyr i'w hanifeiliaid R1 yn llai aml.  Yn ogystal, newidiont i ddefnyddio drenshis gwyn (1BZ) a drenshis melyn (2LV) ar ôl i brofion effeithlonrwydd ddangos bod y moddion llyngyr clir (3ML) yn llai effeithlon.

Roedd y data a gasglwyd yn ystod yr astudiaeth EIP yn dangos bod patrymau tyfiant tebyg i'r blynyddoedd blaenorol pan ddefnyddiwyd moddion llyngyr clir a phan ddosiwyd heffrod yn rheolaidd, felly nid oedd y newidiadau mewn triniaethau moddion llyngyr wedi cael unrhyw effeithiau negyddol amlwg ar berfformiad.

Dywedodd un o'r arbenigwyr a fu'n ymwneud â'r astudiaeth, Athro Diana Williams, o Grŵp Ymchwil Parasitoleg Milfeddygol Prifysgol Lerpwl, bod yr astudiaeth yn dangos bod angen newid y cyngor ynghylch rhoi moddion llyngyr.

“Yn draddodiadol, y cyngor a roddwyd i ffermwyr oedd y dylid dosio lloi pori tymor cyntaf yn gynnar yn ystod y tymor er mwyn atal clefyd hanner ffordd trwy'r tymor, ond oherwydd nifer o ffactorau megis newid hinsawdd ac ymwrthedd i foddion llyngyr, mae angen newid y cyngor hwnnw.

“Mae'r prosiect hwn wedi dangos y gallwn ddefnyddio FEC mewn ffordd ddibynadwy, law yn llaw â data ynghylch y gyfradd tyfiant a chyflwr y llo, fel ffordd o fonitro haint yn ystod y tymor pori, gan drin anifeiliaid pan fydd angen eu trin yn hytrach na dosio trwy ddilyn y dyddiad ar y calendr.”

Cooperia oncophora oedd y rhywogaeth llyngyr trechaf yn y FECs ac roedd Ostertagia ostertagi yn bresennol ym mhob sampl hefyd.

Nid yw heintiau C. oncophora yn unig yn cael eu cysylltu â chlefyd clinigol yn y DU fel arfer, er y gallant waethygu clefyd a achosir gan Ostertagia ostertagi, sy'n fwy pathogenig.

Mae newid hinsawdd, a'r ffaith y gwelir tymheredd cynhesach yn gynharach ac yn hwyrach yn y tymor, a newidiadau i batrymau glawiad, yn gwneud epidemioleg a chylch bywyd parasitiaid yn llawer llai rhagweladwy.

“Nid yw tymheredd o 20°C yng nghanol mis Tachwedd fel yr ydym wedi gweld eleni yn normal,” dywedodd Athro Williams, sy'n eistedd ar grŵp llywio Rheoli Llyngyr mewn ffordd Gynaliadwy (COWS) https://www.cattleparasites.org.uk.

Er y gellir defnyddio moddion llyngyr gwyn a melyn yn ystod y tymor pori, mae lle i ddefnyddio moddion llyngyr clir, yn enwedig pan gedwir anifeiliaid i mewn yn ystod yr hydref a'r gaeaf.

Mae llyngyr perfedd, sy'n cael eu dal yn ystod yr hydref, yn enwedig ar ôl cyfnod o dywydd oer, yn mynd i gyfnod datblygu ataliedig, gan eistedd yn wal perfedd anifail trwy gydol y gaeaf, gan achosi clefyd difrifol yn y gwanwyn pan fyddant yn dihuno ac yn dechrau datblygu eto.

Nid yw moddion llyngyr melyn mor effeithiol wrth ddinistrio parasitiaid yn ystod y cyfnod ataliedig hwnnw, nododd Athro Williams.  “Os ydych yn mynd i ddefnyddio moddion llyngyr clir, hwn yw'r amser i'w ddefnyddio, a thrwy ei ddefnyddio pan fydd ei angen yn unig, mae'r risg o godi lefelau ymwrthedd yn llawer is.”

Dangosodd yr astudiaeth EIP wahaniaethau mawr rhwng lefelau EPG ar bob fferm yn y treial, er gwaethaf y ffaith bod y tair yn lloia yn y gwanwyn, a bod ganddynt systemau pori tebyg.

Dywedodd yr ymchwilwyr bod hyn yn amlygu'r ffaith pam na ellir gweithredu glasbrint safonol er mwyn rheoli llyngyr main.

Un o'r problemau a nodwyd gan yr astudiaeth yw bygythiad llyngyr yr ysgyfaint pan gaiff y moddion llyngyr a ddefnyddir i reoli llyngyr perfedd ei leihau.

Roedd delio gyda risg llyngyr yr ysgyfaint, ac ostertagiosis Math II weithiau, yn ffactor a oedd wedi drysu penderfyniadau ynghylch triniaeth ar y ffermydd yn y treial.

“Os ydych chi'n dechrau ystyried FEC er mwyn rheoli llyngyr gastroberfeddol, ni allwch anghofio am lyngyr yr ysgyfaint,” rhybuddiodd Athro Williams.  “Dylech geisio cyngor milfeddygol os bydd y cyfraddau tyfiant yn lleihau neu os bydd anifeiliaid yn peswch.”

Bydd triniaeth cwarantin ar gyfer yr holl stoc sy'n dod i mewn yn lleihau'r risg o ddwyn llyngyr yr ysgyfaint i'r fferm a bydd modd brechu heffrod R1 cyn eu troi allan er mwyn diogelu rhag llyngyr yr ysgyfaint.

 

Ymwrthedd i foddion llyngyr

Canfu'r prosiect ddiffyg arwyddocaol o ran effeithlonrwydd grŵp 3ML o feddyginiaethau gwrthlyngyr ar ddwy o'r ffermydd lle y cynhaliwyd sawl Prawf Lleihau Cyfrif nifer yr Wyau mewn Carthion (FECRTs) gan ddefnyddio system FECPAKG2 Techion UK.

Canfuwyd hyn mewn moddion llyngyr lle y gwelwyd mai ivermectin, a moxidectin sy'n gweithredu dros gyfnod hwy, oedd y cynhwysyn actif.

Ar un o'r ffermydd, roedd triniaeth gan ddefnyddio moddion llyngyr clir i'w arllwys ar yr anifail yn dangos mai 8% yn unig oedd ei gyfradd effeithlonrwydd ar un achlysur, ac nid oedd fyth yn uwch nag 81%.

Mewn cyferbyniad, roedd benzimidazole a levamisole – moddion llyngyr gwyn a melyn – yn hollol effeithiol, gan gynnig gostyngiad o 100%.

Mae FECRT yn brawf maes defnyddiol er mwyn canfod a yw moddion llyngyr yn colli ei effeithlonrwydd.  

Mae'r canlyniadau gan FECRT yn cynnig darlun o ymwrthedd posibl, dywedodd Eurion Thomas o Techion UK.

Mae'n argymell FECRT bob dwy i dair blynedd er mwyn sicrhau bod y moddion llyngyr a ddefnyddir yn gweithio. 

O ganlyniad i'r gweithgarwch profi hwn, mae'r ffermydd astudio wedi lleihau eu defnydd o foddion llyngyr clir yn sylweddol.

Dywedodd Mr Thomas bod yr ymchwil yn amlygu pam na ddylai ffermydd ddibynnu ar un dosbarth o foddion llyngyr a bod ffermwyr yn deall pa gynhwysion actif sydd yn y cynnyrch  y maent yn ei ddefnyddio.

 

Astudiaeth achos

Roedd cyfuno samplu FEC a brechu ar gyfer llyngyr yr ysgyfaint a gwneud newidiadau i drefniadau rheoli pori wedi galluogi un o'r ffermydd prosiect i beidio rhoi unrhyw driniaethau llyngyr i stoc ifanc a oedd yn pori yn 2022.

Yn flaenorol, roedd teulu Mossman, sy'n rhedeg 100 o heffrod R1 a 100 o heffrod R2, wedi dilyn yr arfer safonol o roi moddion llyngyr i heffrod dair wythnos ar ôl eu troi allan a bob pum wythnos ar ôl hynny yn ystod y tymor pori.

Ond wrth i'r gweithgarwch profi ddangos niferoedd isel o wyau yn gyson, roedd gan deulu Mossman yr hyder i beidio trin eu heffrod R1 ac R2 o gwbl.

“Cawsom ein synnu oherwydd nid oeddem yn meddwl y byddai hyn yn bosibl,” dywedodd 
Chris Mossman, sy'n ffermio gyda'i wraig, Debbie, a'u merch, Bella, yn Nantybach, Llangrannog.

Fodd bynnag, roedd peidio defnyddio moddion llyngyr wedi creu her o ran llyngyr yr ysgyfaint.

Bellach, mae'r holl heffrod R1 wedi cael eu brechu am lyngyr yr ysgyfaint, a chaiff y stoc ifanc eidion eu brechu flwyddyn nesaf hefyd.

“Mae brechu yn costio £12 yr anifail i ni, nad yw'n rhywbeth rhad, ond i unrhyw ffermwr sy'n awyddus i ddefnyddio llai o foddion llyngyr, credaf ei fod yn rhywbeth y mae'n rhaid ei ystyried,” dywedodd Mr Mossman.

Mae'r busnes wedi gwneud arbedion ariannol trwy ddefnyddio llai o foddion llyngyr, hyd yn oed pan ystyrir hyn yn erbyn y gost o frechu, ond dywedodd Mr Mossman nad lleihau costau oedd y bwriad wrth leihau triniaethau.

“I ni, nid oedd hyn fyth am y gost, mae moddion llyngyr yn gymharol rhad, a dyna un o'r rhesymau pam bod ein cenhedlaeth ni o ffermwyr wedi bod yn estyn amdanynt heb feddwl am y canlyniadau eraill.”

Iechyd y pridd a'r effeithiau hirdymor y mae moddion llyngyr yn eu cael ar boblogaethau chwilod y dom oedd y prif ystyriaethau i'r Mossmans. 

Mae gorddefnyddio moddion llyngyr ar gyfer da byw wedi lleihau poblogaethau chwilod y dom ar draws y DU ac mae tystiolaeth yn dangos pan na fydd chwilod yno i ymddatod dom, nid yw'r dom yn pydru er mwyn cyfoethogi'r pridd gyda deunydd organig.  Ceir effaith arwyddocaol ar ffawna pridd arall hefyd.

Mae Mr Mossman o'r farn bod lefelau wyau llyngyr isel cyson y fferm yn rhannol o ganlyniad i'w lefel stocio isel.

Mae Nantybach wedi colli nifer sylweddol o anifeiliaid oherwydd TB buchol, felly mai ei lefel stocio wedi lleihau o dair uned da byw (lu) yr hectar i ddwy.

“Mae wedi cynnig llawer mwy o gyfle i ni newid ein gweithgarwch rheoli pori,” dywedodd 
Mr Mossman.

Mae system arweinydd-dilynwr yn ei lle, gyda lloi yn pori padogau dynodedig bum i chwech diwrnod cyn y fuches o 315 o fuchod croesfrid, a symudiadau dyddiol.

Gweithredwyd hwn yn y lle cyntaf er mwyn goresgyn haint coccidiosis.

“Ar ôl cyflwyno trefniant pori arweinydd-dilynwr, aethom ati i gymryd samplau dom bob 12 diwrnod a daethom i'r pwynt lle nad oeddem yn canfod unrhyw haint,” dywedodd Mr Mossman.

Mae wedi lleihau poblogaethau parasitiaid eraill hefyd ac mae'n rheswm pam bod y FECs yn yr astudiaeth EIP wedi dangos niferoedd isel o wyau yn gyson, ychwanegodd.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn