17 Ebrill 2019

 

Cafodd y dechnoleg hon ei threialu yn ystod y tymor bridio presennol yng Ngholeg Llysfasi, un o Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio ger Rhuthun.

Amcan y treial oedd casglu data ynghylch yr hyn sydd yn dylanwadu ar effeithiolrwydd beichiogi mamogiaid â semen wedi rhewi.

Nid yw Semenu Artiffisial (AI) Serfigol â semen ffres yn anghyffredin, ond prin yw’r enghreifftiau o ddefnyddio semen wedi rhewi yn y DU.  Er ei fod yn rhoi cyfle i ffermwyr gael hyd i well geneteg ac er bod cyflwyno clefydau yn llai tebygol,  mae’r cyfraddau beichiogi yn wael.

Yn Llysfasi, cydamserwyd y bridio mewn  50 o famogiaid Miwl Cymreig o blith y ddiadell o 1200.

Cafodd y grŵp ei semenu ganol mis Hydref â semen o hwrdd Texel a hwrdd Gwyn Norwyaidd â chofnodion perfformiad.  Costiodd hyn £37 y pen am y cydamseru a’r semen.

Erbyn hyn mae’r grŵp wedi dechrau wyna ac mae’r canlyniadau'n dangos y cafodd 10% eu beichiogi gan AI; cafodd y mamogiaid beichiog eraill eu beichiogi gan hwrdd ymorol a gyflwynwyd 14 diwrnod ar ôl AI.

Ŵyn sengl oedd yr holl ŵyn AI.

Er gwaethaf y canlyniadau siomedig yn ystod yr ymgais gyntaf, mae'r tîm yn ffyddiog y bydd modd gwella’r ffigurau beichiogi AI.

Dywedodd Gethin Prys Davies, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio yng Ngogledd Cymru, a gydlynodd y treial, fod y data yn awgrymu y gallai amseriad y semenu a'r teneuwr a ddefnyddir fod yn allweddol o ran cael gwell cyfraddau beichiogi.

“Y cynllun cychwynnol oedd dechrau semenu 55 awr ar ôl tynnu’r CIDRau (dyfeisiau i gynyddu crynodiadau progesteron yn y gwaed), ond canfuom fod y mamogiaid yn gofyn hwrdd yn gyflymach na'r disgwyl;  cafodd 37 o famogiaid eu nodi gan baent yr hwrdd ysgogol ar ôl 50 awr,’’ meddai.

“Oherwydd hyn, fe ddechreuom semenu dair awr yn gynharach, sef 52 awr ar ôl rhoi pigiad i'r mamogiaid.

“Mae'r canlyniadau'n awgrymu bod yr amser newydd yn dal i fod yn rhy hwyr, a dylem fod wedi semenu’n gynharach oherwydd cafodd pedair o'r pum mamog a feichiogwyd drwy AI eu semenu ar ôl rhwng 52 a 53 awr. 

Dywed Mr Davies y bydd Cyswllt Ffermio yn ail-gynnal y treial yn y tymor bridio nesaf, pan fydd newidiadau’n cael eu gwneud i adlewyrchu'r data a gasglwyd eleni.

“Mae wastad perygl o fethiant gyda phrosiectau arloesol.” meddai.

“Y nod yn y pen draw yw datblygu'r dechneg hon i fan lle mae'n fasnachol hyfyw i'r ffermwr.

“Dydyn ni ddim wedi cyrraedd yno eto, ond mae hyn wedi rhoi gwir ymdeimlad o obaith a chyffro i ni ynghylch datblygu bridio defaid yn y dyfodol.’’

Dywed Dewi Jones, rheolwr fferm Llysfasi, fod y fferm yn falch o fod wedi cymryd rhan yn y treial.

“Os gallwn lwyddo gydag AI Serfigol a semen wedi'i rewi, gallai fod yn ffordd o gyflymu cynnydd genetig mewn diadelloedd o famogiaid - fel sydd wedi digwydd yn y sectorau cig eidion a llaeth," meddai.

Gwnaed y semenu yn Llysfasi gan Alwyn Phillips sydd wedi defnyddio semenu serfigol â semen ffres oddi ar 1983 ar gyfer ei ddiadell o ddefaid Texel a Dorset Moelion sydd â chofnodion perfformiad.

Roedd Mr Phillips, o Fferm Penygelli, ger Caernarfon, wedi ymweld â Denmarc a Sweden, dwy wlad sydd â chyfraddau beichiogi uchel o ddefnyddio semen wedi rhewi, trwy raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio.

Yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o famogiaid mewn rhaglenni bridio AI yn cael semeniad laparosgopig, ond mae hyn yn gostus ac yn golygu risg.

Yn y sector defaid, mae’r gwledydd Sgandinafaidd yn arwain y byd o ran defnyddio semen wedi rhewi ar gyfer semenu serfigol  - a hynny am fod AI laparosgopig wedi'i wahardd.

Dywed Mr Phillips os gellir gwella cyfraddau beichiogi AI serfigol yn y DG (yng ngwledydd Sgandinafia mae’n 50-70%) gallai fod yn rhatach i ffermwyr brynu semen o hyrddod profedig na phrynu hwrdd.  Mae'n bosibl na fyddai’r hwrdd yn gwella'r ddiadell ac, mewn rhai achosion, gallai fod ag oes waith fer.

Er bod y sectorau cig eidion a llaeth wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwella geneteg buchesi, prin fu'r cynnydd yn y diwydiant defaid.

Dywed Mr Davies y gallai RamCompare, sef prawf epil masnachol cyntaf y DG gyfan ar gyfer hyrddod sydd yn cynhyrchu ŵyn i'w lladd, â chyfuniad o semen wedi rhewi ac AI, fod yn drobwynt.

“Nid yw prynu hwrdd yn y 1% uchaf yn ariannol ymarferol i'r rhan fwyaf o ffermwyr defaid, ond gallai prynu sawl corsen o semen hwrdd profedig fod yn ffordd gost-effeithiol o wella geneteg y ddiadell,’ meddai.

 

Llinell amser y treial yn Llysfasi

 

Diwrnod 1 

Cafodd y mamogiaid a ddewiswyd eu rhoi ar laswellt am 18 diwrnod gyda hwrdd a oedd wedi cael fasectomi.  Roedd gan hwnnw baent nodi ar ei frest er mwyn canfod pa famogiaid oedd yn gofyn hwrdd.

Diwrnod 18

Gosodwyd CIDRau er mwyn cydamseru’r bridio.

Diwrnod 30

Tynnwyd y CIDRau am 8am a rhoddwyd pigiad o’r cynnyrch cydamseru gofyn hwrdd, PMSG, i’r mamogiaid.  Am 6pm, ailgyflwynwyd yr hwrdd ymlid i'r grŵp, a'r tro hwn roedd ganddo baent nodi o liw gwahanol.

Diwrnod 32

Am 12pm, sef 52 awr ar ôl tynnu’r CIDRau, semenwyd y mamogiaid, gan ddechrau gyda’r rhai a nodwyd gyntaf gan yr hwrdd ymlid. Cafodd y mamogiaid eu semenu unwaith â semen o hwrdd Texel â chofnodion perfformiad.

Diwrnod 46  

Cyflwynwyd hwrdd Suffolk epilgar – yn hawdd ei wahaniaethu o hwrdd  Texel – i’r grŵp ar gyfer y defaid na chafodd eu beichiogi gan AI.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o