7 Hydref 2020
Mae ffermwr o'r ucheldir sy'n cynhyrchu math o siarcol sy'n cloi carbon mewn pridd yn dweud y gallai amaethyddiaeth yng Nghymru wneud mwy i drawsnewid deunyddiau gwastraff fferm a choedwigaeth yn fio-olosg.
Mae Tony Davies yn cael gwared ar laswellt Molinia o dir y mae'n ei ffermio ar Fynyddoedd Cambria ac yn ei brosesu i gynhyrchu bio-olosg, siarcol a ddefnyddir i wella ffrwythlondeb a gallu’r pridd i gadw dŵr.
Mae cael gwared ar y glaswellt hwn yn gwella bioamrywiaeth, yn lleihau'r risg o dân ac yn gwella cynefinoedd ar gyfer y cwtiad aur tra bo'r bio-olosg yn cael ei werthu ar raddfa fach i arddwyr a garddwriaethwyr.
Pan ychwanegir bio-olosg at bridd, mae'n cloi carbon.
"Mae academyddion ar draws y byd wedi profi bod bio-olosg yn ddull defnyddiol o ddal a storio carbon gan ei fod yn gwrthsefyll dirywio ac yn gallu cloi carbon mewn pridd am filoedd o flynyddoedd,'' meddai Tony, sy’n bumed genhedlaeth i fod yn denant ar Fferm Henfron sy’n 680 hectar yng Nghwm Elan.
Roedd yn awyddus i ddeall mwy am gyfleoedd i gynhyrchu bio-olosg yng Nghymru a'i ddefnydd yn y diwydiant amaeth a gwnaeth gais am fwrsariaeth Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i ehangu ei wybodaeth.
Ymhlith y gwledydd y bu’n ymweld â nhw oedd y Ffindir, Sweden ac Iwerddon lle cyfarfu ag arbenigwyr, mynychu gweithdai ac ymweld â safleoedd cynhyrchu bio-olosg.
Gyda'r polisïau a’r cymhellion ariannol cywir, creda Tony fod defnyddio bio-olosg yn debygol o ddod yn fwy cyffredin yn y diwydiant amaeth, yn bennaf fel dull o gynyddu dal a storio carbon.
A gallai hynny arwain at gyfleoedd i ffermwyr yng Nghymru, meddai.
"Mae gan y diwydiant amaeth yng Nghymru amrywiaeth o gynhyrchion gwastraff y gellid eu defnyddio i'w prosesu'n fio-olosg,'' dywed.
"Yn ogystal â gwneud bio-olosg i’w ddefnyddio ar y fferm, mae ffermwyr mewn sefyllfa berffaith i gynhyrchu bio-olosg i'w ddefnyddio mewn ardaloedd trefol.''
Drwy’r ymchwil, dysgodd Tony, er bod bio-olosg yn cynnig manteision a brofwyd wrth gynyddu pwysau cnydau a chynnyrch garddwriaethol, efallai na fydd yn gost effeithiol ei ddefnyddio ar laswelltir er mwyn cynyddu'r pwysau.
"Fel arfer, mae deunydd organig y pridd yn uwch ar dir pori nag ar dir cnydau o ganlyniad i effaith yr anifeiliaid sy'n pori’r tir ac yn ei wrteithio,” meddai.
Ond gellid prosesu gwastraff o ffermydd pori yn fio-olosg a'i werthu i ffermydd garddwriaethol ac o bosibl ei gymysgu â thail anifeiliaid wedi'i gompostio, ychwanega Tony.
"Mae hyn eisoes yn digwydd mewn rhannau o Ewrop,'' meddai.
Defnyddir bio-olosg hefyd ar gyfer deunydd gorwedd i anifeiliaid a gellid hefyd ei gynnwys yn niet anifeiliaid fferm.
Mae astudiaethau ar draws Ewrop wedi profi effeithiau buddiol o ran tyfiant anifeiliaid gan ei fod yn gwella eu treuliad o bosibl.
"Byddai bio-olosg sy'n cael ei fwydo i anifeiliaid yn cael ei drosglwyddo i'r tail ac i'r tir yn y pen draw, gan greu effaith rhaeadru carbon,'' meddai Tony.
O ganlyniad i'w brofiad o deithio gyda’r Gyfnewidfa Reolaeth, dywedodd ei fod wedi dysgu sut y gall ffermwyr wneud mwy i ddefnyddio deunyddiau biomas gwastraff.
"Gallai ffermydd yng Nghymru fod yn fwy hunangynhaliol o ran deunydd gorwedd a thanwydd drwy fanteisio ar yr adnoddau o ansawdd is sy'n tyfu ar eu tir,'' mae'n credu.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.