Mae grŵp o gynhyrchwyr llaeth o Gymru, sy’n paratoi’r llwybr i greu Sefydliadau Cynhyrchwyr Llaeth (DPO’s) yng Nghymru, yn gobeithio ennyn diddordeb ffermwyr eraill o’r un anian yn ystod Sioe Laeth Cymru yng Nghaerfyrddin heddiw (Hydref 24ain).

Ffurfiwyd DPO Cymru mewn ymateb i’r prisiau llaeth cyfnewidiol a welwyd yn ddiweddar, ac mae’r aelodau’n ffermwyr llaeth o bob cwr o Gymru.

Mae sefydliadau Cynhyrchwyr llaeth yn trafod cytundebau a phrisiau llaeth ar y cyd gyda’r proseswyr ac yn cael eu hystyried fel modd o ddiogelu telerau ac amodau cytundebol ar gyfer y dyfodol.

Nid oes Sefydliad Cynhyrchwyr Llaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae’r grŵp yn gobeithio newid hynny, a gallai Sioe Laeth Cymru fod yn sbardun i’w lansio.

Bydd gan DPO Cymru, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan raglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio, stondin yn ystod y Sioe, lle mae’n gobeithio ymgysylltu gyda chyd-gynhyrchwyr, a phroseswyr hefyd.

dpo cymru launch at the welsh dairy event. lansiad dpo cymru yn y sioe laeth

 

O'r chwith i'r dde: Tom Jones, Aled Jones ac Evan Roberts yn ystod lansiad DPO Cymru yn Sioe Laeth Cymru.

 

 

 

 

 

Dywedodd un aelod, sef Aled Jones, Hendy, Caernarfon, bod aelodau wedi cael trosolwg eang o’r modd y mae sefydliadau DPO yn gweithredu diolch i gefnogaeth a dderbyniwyd gan Agrisgôp.

“Nid dechrau sefydliad DPO ar ran neb yw’r bwriad, byddai hynny’n dibynnu ar fenter y cynhyrchydd ei hun, ond rydym mewn sefyllfa i gynghori a chefnogi cynhyrchwyr a fyddai â diddordeb posibl i weithio ar y cyd o fewn y strwythur hwn,” meddai Mr Jones.

Mewn sefyllfa’n dilyn y cwota, mae’r cyfrifoldeb ar ysgwyddau’r cynhyrchwyr a’r proseswyr i ddylunio systemau sy’n gweithio’n dda i bawb sy’n rhan ohonynt, mynnodd Mr Jones.

“Mae angen meddylfryd newydd a ffres o fewn y gadwyn gyflenwi gyfan, anewid ymddygiad yn llwyr.

“Mae prisiau llaeth wedi gwella, ond gallwn ragweld dirywiadau pellach, protestiadau tu allan i safleoedd prosesu ac archfarchnadoedd, Ai dyna sydd arnom ei angen? A oes gwell ffyrdd o weithredu?

“Os byddwn yn parhau gyda’r hen feddylfryd, byddwn yn parhau â’r hen broblemau.”

Mae’r grŵp eisoes wedi dechrau ennyn diddordeb trwy gynnal Cynhadledd DPO Cymru yn Aberystwyth ym mis Tachwedd 2016, dan arweiniad Cyswllt Ffermio.

Roedd nifer o ffermwyr a phroseswyr yn bresennol yn y digwyddiad, yn awyddus i ddysgu mwy ynglŷn â strwythurau sefydliadau cynhyrchwyr llaeth. 

Dywedodd Tom Jones, Maes Mawr, Ynys Môn, un o aelodau DPO Cymru, ei bod bellach yn bryd symud ymlaen i’r lefel nesaf. “Gobeithiwn gychwyn trafodaeth ynglŷn â ffyrdd i wella dyfodol hirdymor y diwydiant.

“Bydd ffermwyr yn holi’r cwestiwn – a fydd bod yn aelod o sefydliad cynhyrchwyr llaeth yn talu ceiniog ychwanegol am bob litr o laeth i mi? Fy ateb yw bod angen i ni greu amgylchedd lle bydd y ‘pris gorau posibl’ yn cael ei dalu, gan ymdrechu am fwy o werth yn y gadwyn gyflenwi, gan rannu’r risg yn gymesur.”

Mae Cyswllt Ffermio yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn darparu cyngor i bob sector amaethyddol. Ariennir Cyswllt Ffermio drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu