8 Ebrill 2021

 

Yn fuan iawn, gallai dronau helpu ffermwyr yng Nghymru i gasglu eu diadelloedd ynghyd yn ogystal â rheoli tir a chnydau.

Mewn gweminar diweddar a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio ac a ddarparwyd gan Lantra, cafwyd diweddariad ynglŷn â’r cynnydd sy’n cael ei wneud ym maes technoleg dronau a’r posibiliadau y mae hynny’n ei gynnig ar gyfer busnesau fferm.

Dywedodd Sam Cook, o gwmni ffotograffiaeth awyr Tremio ym Mhowys, nad oes caniatâd ar hyn o bryd yn y DU i ddefnyddio’r dronau a ddefnyddir mewn gwledydd eraill er mwyn chwistrellu cnydau - ond gallai hynny newid.

Byddai hyn yn galluogi ffermwyr i reoli tir sy’n anodd ei gyrraedd yng Nghymru, er mwyn rheoli brwyn er enghraifft.

Ar dir cynhyrchiol, byddai’n lleihau’r risg o gywasgiad mewn amodau gwlypach ac yn galluogi ffermwyr i chwistrellu ardaloedd bychain yn unig.

“Mae’r systemau hyn wedi cael eu treialu yn Norfolk ac mae sefydliadau’n annog newid mewn deddfwriaeth i ganiatáu defnyddio’r dronau hyn yn y DU,” meddai Mr Cook.

Model arall sydd yng nghamau cyntaf ei ddatblygiad ar hyn o bryd yw’r un a ddefnyddir ar gyfer plannu hadau, sy’n saethu hadau’n uniongyrchol i mewn i’r tir.

Mae dronau sydd eisoes yn cael eu defnyddio’n cynnwys y rhai a ddefnyddir gan ffermwyr i gasglu gwartheg a defaid ynghyd.

“Ni fyddant byth yn cymryd lle ci, ond gellir eu defnyddio ar y cyd â chi,” meddai Mr Cook.

Nid yw’n syndod fod rhagolygon y tywydd yn chwarae rôl o ran defnyddio drôn.

“Mae hyrddiadau gwynt yn broblem fawr i ddronau, gallant arwain at golli rheolaeth a difrodi’r offer,” meddai Mr Cook.

Mae’n cynghori na ddylid hedfan drôn mewn niwl. “Cadwch y drôn o fewn golwg bob amser.’’

I ffermwyr sy’n edrych ar bosibilrwydd defnyddio dronau ar y fferm, mae’r ffin yn denau iawn rhwng defnydd personol a masnachol, a gall materion godi’n ymwneud â hedfan a rheolau preifatrwydd.

Cafodd y rheolau eu hadolygu ym mis Ionawr 2021, ac ychydig iawn o wahaniaeth sydd erbyn hyn rhwng y rheoliadau ar gyfer defnyddwyr masnachol a defnyddwyr hamdden.

“Mae torri’r rheolau’n drosedd,” meddai Mr Cook.

Yn y DU, rhoddir caniatâd cyfreithlon i hedfan drôn ar uchder heb fod yn uwch na 120 metr, neu 400 troedfedd.

“Os byddant yn hedfan yn uwch na hynny, maent yn ymylu ar fod mewn gofod awyrennau,’’ meddai Mr Cook.

Ni ddylid hedfan drôn o fewn pum cilometr o faes awyr.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu