31 Hydref 2019

 

Nod Cyswllt Ffermio yw darparu gwasanaeth, arweiniad a throsglwyddiad gwybodaeth addysgiadol, berthnasol ac arloesol i ffermwyr a choedwigwyr ar draws Cymru.

Mae meysydd blaenoriaeth Cyswllt Ffermio yn cynnwys Newid Hinsawdd, Bioamrywiaeth, Coedwigaeth, Cig Coch, Llaeth, Glaswelltir, Tir Âr, Garddwriaeth, Cynhyrchu Organig, Moch a Dofednod.

Nawr – mae Cyswllt Ffermio yn galw arnoch chi, ffermwyr, coedwigwyr a thrigolion gwledig Cymru – i ddweud eich dweud!

Er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth gorau posib yn cael ei ddarparu, rydych yn cael eich gwahodd i rannu eich barn a’ch syniadau ynglŷn â’r rhaglen Cyswllt Ffermio. Ymunwch mewn un o dri lleoliad ar draws Cymru i gyfarfod gydag Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Materion Gwledig, mewn sgwrs un i un ar ffurf apwyntiadau 20 munud mewn tri marchnad da byw ar draws Cymru. Dyma gyfle gwych i chi gael eich clywed ac i rannu eich adborth.

Dywed Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Materion Gwledig Menter a Busnes:

“Rydym yn awyddus i glywed eich barn am y rhaglen hon, rydym eisiau gwybod beth sy’n cael ei gyflawni’n dda yn eich barn chi, a beth allwn wella. Hoffem wybod beth, yn ychwanegol, ydych chi’n dymuno gweld fel rhan o’r rhaglen hon? Mae cael adborth gan ffermwyr a choedwigwyr Cymru yn holl bwysig, gan mai chi a datblygu eich busnesau chi yw blaenoriaeth Cyswllt Ffermio.

“Trwy ddod i’n digwyddiadau adborth, gallech fod yn rhan o gyfrannu tuag at ddatblygu Cyswllt Ffermio a chyfrannu at ddyfodol amaeth yng Nghymru drwy rannu eich syniadau am sut i wella Cyswllt Ffermio.

“Rydym yn chwilio am adborth adeiladol, felly dewch yn llu i ddweud eich dweud!”

Felly, os oes gennych chi farn am Cyswllt Ffermio, ac eisiau rhannu eich syniadau newydd ynglŷn â’r hyn allwn gynnig fel rhan o’r rhaglen, neu rhoi gwybod am elfen sydd ddim yn gweithio cystal, neu elfen sy’n haeddu canmoliaeth yn eich barn chi, ac eisiau mwy o rywbeth penodol fel rhan o Cyswllt Ffermio, dewch yn llu – rydym eisiau clywed gennych ac ac yn edrych ymlaen i’ch gweld.

Am ragor o wybodaeth, neu i archebu eich lle mewn apwyntiad 20 munud rhwng 09:00 – 15:00, cysylltwch â Caryl George, 01970 600 161 – mae archebu eich lle yn hanfodol.

Mae dyddiadau a lleoliadau’r digwyddiadau fel a ganlyn:

Dyddiad

Amser

Lleoliad

04/11/2019

09:00 – 15:00

Marchnad Da Byw Y Trallwng, Buttington Cross, Y Trallwng, Powys, SY21 8SR

14/11/2019

09:00 – 15:00

Marchnad Castell Newydd Emlyn, Castell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin SA38 9AJ

21/11/2019

09:00 – 15:00

Ocsiwn Ffermwyr Rhuthun, Canolfan Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych

 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o