27 Ebrill 2021

 

Gall newidiadau syml i ddulliau rheoli moch arwain at welliannau sylweddol mewn ffrwythlondeb ar unedau sy'n cael trafferth gydag atgenhedlu.

Mae'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ffrwythlondeb moch yn niferus ac amrywiol a gall fod iddynt achosion heintus neu rai nad ydynt yn heintus, yn ôl y milfeddyg moch Dr Alex Thomsett, o’r George Vetinary Group.

Yn aml, mae gan gynhyrchwyr fwy o ddylanwad dros yr achosion nad ydynt yn heintus, ac mewn llawer o achosion maent fel arfer yn golygu newidiadau syml iawn, dywedodd Dr Thomsett wrth ffermwyr a gymerodd ran mewn gweminar ddiweddar gan Cyswllt Ffermio. 

“Gall ychydig o newidiadau bach i ddulliau rheoli neu’r dull o atgenhedlu ar y fferm newid sefyllfa eithaf anodd yn un llawer gwell yn rhwydd a heb orfod mynd i’r drafferth o samplu gwaed,” meddai.

Ymhlith y rhain mae straen tymheredd; er bod hyn yn fwy cyffredin yn gysylltiedig â gwres, gall oerfel fod yn ffactor hefyd.

Gall hychod ei chael hi'n anodd addasu i newidiadau yn y tymheredd a gall hynny arwain at gyfraddau uwch o fethiannau ffrwythloni, cylchu gwael a niferoedd uwch o erthyliadau.

Mewn cenfeiniau awyr agored, sicrhewch fod gan foch ymdrochfeydd mwd i oeri ynddynt ac, er mwyn amddiffyn rhag golau haul uniongyrchol, crëwch ardaloedd dan gysgod.

“Gellir gwneud hyn yn syml iawn, gydag ychydig o bolion a darn o ddefnydd atal gwynt cryf neu ddeunydd tebyg,” cynghorodd Dr Thomsett.

Gall newidiadau yn hyd y dydd achosi anffrwythlondeb tymhorol yn yr hydref.

Gan fod hyn yn effeithio ar hesbinychod yn benodol, mae Dr Thomsett yn argymell dewis hesbinychod sy'n mynd trwy'r glasoed yn gynnar yn hytrach na'r rhai sy'n gwneud hynny’n hwyrach.

Mae angen o leiaf 16 awr o olau dydd ar foch felly gwnewch yn siŵr bod y golau yn y siediau yn dda – gall glanhau waliau gwyngalchog neu fylbiau golau wneud gwahaniaeth hyd yn oed trwy adlewyrchu golau’n well ar lefel yr hwch yng nghefn y llygad. 

Mae'n anoddach rheoli golau mewn cenfeiniau awyr agored oherwydd mae'r system hon yn ddibynnol ar yr adeg o'r flwyddyn ac, am y rheswm hwn, pwysleisiodd Dr Thomsett ei bod yn hanfodol sicrhau bod yr holl ystyriaethau eraill sy'n ymwneud â ffrwythlondeb yn gweithio'n dda, gan gynnwys maeth.

Mae angen y cydbwysedd maeth cywir ar hesbinychod i'w paratoi ar gyfer ffrwythloni am y tro cyntaf ac i'w cefnogi trwy'r broses ffrwythloni gyntaf.

“Mae hesbinychod a benywod ifanc yn dal i dyfu drwy gydol eu beichiogrwydd cyntaf ac yn aml mae’n hawdd anghofio pan fydd mochyn yn llaetha bod y corff yn paratoi ar gyfer y cylch nesaf,” meddai Dr Thomsett.

Felly mae'n bwysig sicrhau nad yw cyflwr y corff yn gwaethygu’n sylweddol oherwydd gall hyn effeithio ar berfformiad yr ofarïau.

Ond ceisiwch osgoi gorfwydo yn ystod beichiogrwydd oherwydd gall gwneud hyn achosi i hwch golli ei hawydd i fwyta pan fydd yn llaetha.

Mewn cenfeiniau sydd â chyfnodau llaetha hirach, mae Dr Thomsett yn awgrymu rhoi porthiant atodol i berchyll er mwyn cefnogi’r hwch.

“Sicrhewch gynllun maeth da a bod pwysau’r hwch yn pendilio cyn lleied â phosib drwy ei hoes,” meddai.

Sicrhewch gyn lleied â phosib o straen gan mai hwn yw un o brif achosion problemau ffrwythlondeb, yn enwedig yn ystod y mis cyntaf ar ôl i'r mochyn gael ei ffrwythloni. 

“Ceisiwch gadw grwpiau sefydlog o hychod ac osgowch gyflwyno hychod newydd ar yr adeg hon,” meddai Dr Thomsett.

Gall dulliau rheoli mewn perthynas â’r broses ffrwythloni ei hun gael effaith enfawr ar ffrwythlondeb hefyd.

Os ydych chi'n defnyddio Ffrwythloni Artiffisial, dylid storio semen rhwng 16-18C° a'i droi ddwywaith neu dair y dydd i sicrhau ei fod yn cael ei ddal yn iawn yn y cyfrwng maethol.

Mewn systemau sy'n defnyddio ffrwythloni naturiol, rhowch MOT i’r baedd cyn ffrwythloni, sicrhewch fod iechyd y traed yn dda a bod yr holl frechiadau'n gyfredol.

Mae mycotocsicosis yn ystyriaeth arall, ac mae’n gallu ymyrryd yn sylweddol â ffrwythlondeb cenfaint, ond dywedodd Dr Thomsett fod hyn yn achos annhebygol os oes gan y fferm ffynonellau grawn a gwellt o ansawdd da.

Ychwanegu cyfryngau glynu at y porthiant yw'r amddiffyniad gorau oherwydd bod y rhain yn amsugno mycotocsinau niweidiol.

Mae brechiadau yn arfer pwysig ar gyfer rhwystro achosion heintus anffrwythlondeb.

Dylid rhoi’r rhain ar yr amser cywir – er enghraifft, ar gyfer Parfofeirws ddim llai na thair wythnos cyn dyddiad y ffrwythloni.

“Defnyddiwch frechiadau cyn ffrwythloni i sicrhau’r effaith fuddiol fwyaf posibl,” meddai Dr Thomsett.

Sicrhewch fod cofnod brechu unrhyw stoc a brynwyd i mewn yn gyfredol a rhowch yr anifeiliaid hyn mewn cwarantin, er mwyn sicrhau eu bod yn ffit ac yn iach cyn iddynt fynd i mewn i’r genfaint.

Mae’n fuddiol iawn gwneud gwiriad iechyd o’r genfaint i ddarganfod ei statws iechyd ac felly pa frechiadau sydd eu hangen, meddai Dr Thomsett.

Gall feirysau gael eu cario mewn semen hefyd, felly gwnewch yn siŵr ei fod yn dod o ffynhonnell ddibynadwy.

Mae oedran anifail yn chwarae rhan yn ffrwythlondeb y genfaint hefyd – er bod hychod hŷn yn aml yn cynhyrchu torllwythi mwy, ar y cyfan mae cyfradd marwolaethau cyn-diddyfnu y torllwythi hyn yn uwch.

Ac mae pwysau diddyfnu yn uwch mewn moch ifanc – gall hychod chwech oed a hŷn gynhyrchu moch ysgafnach.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn