14 Ionawr 2021

 

Gall pori betys porthiant ddarparu porthiant gaeaf i stoc llaeth o bob dosbarth am gyn lleied â 5c/kg o ddeunydd sych (DM).

Ar hanner cost silwair glaswellt, mae’n gnwd a allai fod yn ateb addas i lawer o ffermwyr llaeth yng Nghymru, awgryma’r arbenigwr betys porthiant Dr Jim Gibbs, sy’n filfeddyg ac yn wyddonydd ymchwil mewn maeth anifeiliaid cnoi cil ym Mhrifysgol Lincoln, Seland Newydd.

Ond, gan fod betys porthiant yn gnwd mor uchel mewn egni, mae’n holl bwysig symud gwartheg llaeth i’r cnwd yn raddol er mwyn atal asidosis y rwmen.

Dywedodd Dr Gibbs wrth y ffermwyr a oedd yn gwrando ar y weminar Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd ar y cyd â Field Options, KWS a Momont, y gall betys porthiant fod i gyfrif am hyd at 80-90% o ddiet buchod sych a heffrod – gall gweddill y diet ddod o borthiant atodol ar ffurf porfa, silwair neu wair.

Cynghorodd y dylid symud buchod sych neu heffrod i’r cnwd yn raddol dros gyfnod o ddwy wythnos.

Yn groes i’r hyn mae llawer yn ei gredu, nid yw gwartheg yn hoff o fetys porthiant ar unwaith – mae’n cymryd tua wythnos iddynt fagu blas ato. Nid yw’n anghyffredin felly gweld bod 25-30% o grŵp yn araf yn ei fwyta yn y cyfnod trawsnewid, hyd yn oed gwartheg sydd wedi cael eu gaeafu arno dros nifer o dymhorau.

Mae buchod llaeth mewn mwy o berygl o asidosis nag unrhyw ddosbarth arall o stoc oherwydd eu bod wedi cael eu dysgu i fwyta llawer iawn o borthiant.

Caiff asidosis ei achosi pan fo buchod yn bwyta 2kg o DM o fetys porthiant yn fwy nag y gwnaethant y diwrnod cynt, felly dylech ond rhoi 1kg o fetys yn ychwanegol bob yn eilddydd nes eu bod yn dechrau gadael bwyd ar ôl; mae hyn yn dangos eu bod wedi cyrraedd eu lefelau bwyta uchaf.

Caniatewch 1m o hyd ffens i bob anifail a gadael digon o dir glas – chwe metr i bob anifail.

Er mwyn ei ddyrannu’n gywir, mae’n bwysig gwybod beth sydd yn y cnwd, felly mae’n hanfodol asesu’n gywir yr union lefelau DM sydd yn y dail a’r bylb.

Ar y diwrnod cyntaf, rhoddwch 1-2kg o DM o fetys a’i gynyddu fesul 1kg bob yn eilddydd.

Rhowch 7-8kg o borthiant atodol yn ystod wythnos gyntaf y trawsnewid, 4kg yn yr ail wythnos a 2kg yn y drydedd ac am weddill y tymor pori.

“Er mwyn bodloni’r buchod, rhaid iddynt gael gweddill y diet ar ffurf hawdd ei fwyta, wnân nhw ddim bwyta 7kg o wellt,” rhybuddiodd Dr Gibbs.

Mae’n bosibl y bydd rhaid ichi roi ffosfforws fel atchwanegiad gan mai lefelau cymharol isel sydd i’w cael yn y bylbiau. Hefyd, os yw’r arwyneb dail yn wael, fe allai’r lefelau ffosfforws, y calsiwm a’r protein fod yn isel.

Ond nid yw’n wir fod buchod ar fetys porthiant angen atchwanegiad protein uchel - ar 12-13% protein, mae betys porthiant yn fwy na digonol i ddarparu protein i fuchod llaeth.

“Mae atchwanegiadau protein uchel yn ddiangen,” meddai Dr Gibbs.

Gall betys porthiant hefyd fod yn borthiant gaeaf defnyddiol ar gyfer buchod sy’n llaetha mewn systemau porfa.

Gan fod angen cynnal y cynhyrchiant yn ystod y cyfnod llaetha, ni fyddant mor llwglyd â buchod sych pan gânt eu cyflwyno i’r cnwd felly byddant yn cymryd mwy o amser i drawsnewid – defnyddiwch eu cylch archwaeth dyddiol i’ch mantais, meddai Dr Gibbs.

Dechreuwch gyda 1kgDM o fetys – a chadwch nhw ar y cnwd ar ôl iddynt ei fwyta, am 1-2 awr o’r diwrnod cyntaf.

Yn hytrach na’i bori, gellir ei godi yn y cam hwn a’i daenu ar y borfa, a’i falu gyda’r tractor i’w wneud yn haws ei fwyta.

“Peidiwch â gadael i’r buchod fynd ar y tir fesul tipyn, rhaid iddynt i gyd gael eu troi iddo gyda’i gilydd,” meddai Dr Gibbs.

Gwyliwch am fastitis oherwydd fe allai’r buchod orfod cerdded drwy adwyon mwdlyd i gyrraedd y cnwd. 

Dywedodd Dr Gibbs nad yw buchod sych na buchod sy’n llaetha o anghenraid angen eu brechu rhag clefydau clostridiol cyn cael eu troi i’r cnwd ond fel y dywedodd Dr Gibbs: “Byddai colli hyd yn oed un fuwch yn talu cost y brechlyn, felly fe allai fod yn werth ei wneud.”

Ar gyfer heffrod ar eu tyfiant, mae’n hanfodol brechu rhag clefydau clostridiol.

Roedd yr ymgynghorydd ffermio Marc Jones, sy’n pori heffrod llaeth ar fetys porthiant ym Mhowys, hefyd yn siaradwr yn y weminar.

Dywedodd ei bod yn bosibl pori lloi benyw sy’n pwyso 200kg ar fetys porthiant am bum mis o fis Tachwedd i fis Mawrth.

Gall heffrod bori ar fetys porthiant o chwe mis oed ymlaen, meddai Mr Jones.

Ar gyfer heffrod R1, darparwch ddigon o fetys porthiant fel eu bod yn gadael 25% o’r cnwd ar ôl y diwrnod canlynol; fel hyn, byddant yn bwyta’r lefelau mwyaf posibl oherwydd byddant yn mynd yn ôl i’w fwyta’n lân. Gellir pori heffrod R2 yn dynnach.

Mae R1 ac R2 yn derm a ddefnyddir yn fwy cyffredin yn Seland Newydd i gyfeirio at oedran heffrod, ond mae wedi dechrau cael ei ddefnyddio yma yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar. Mae gwartheg R1 fel arfer rhwng 3-10 mis oed a byddai gwartheg R2 rhwng 10-22 mis oed.

Mae’r cyfnod trawsnewid i wartheg iau yn arafach – taenwch fetys ar y borfa am wythnos a’u symud yn raddol i’r cnwd am ddwy wythnos ar ôl hynny, gan roi 0.5kg y dydd yn ychwanegol iddynt unwaith bydd yr holl stoc yn bwyta’r bylbiau. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn