Mae Cyswllt Ffermio a Hybu Cig Cymru wedi dod ynghyd i drefnu cyfres o ddigwyddiadau i wella systemau gorffen ŵyn trwy ganolbwyntio ar leihau’r dyddiau cyn lladd, sy’n ffactor allweddol o ran proffidioldeb fferm. 

Mae nifer o ffactorau’n effeithio ar orffen ŵyn gan gynnwys gofynion y farchnad, rheolaeth ar bori ac iechyd anifeiliaid. Mae monitro cyfraddau twf trwy bwyso’n rheolaidd yn darparu gwybodaeth werthfawr a ellir ei ddefnyddio fel dangosydd cynnar o broblemau yn ymwneud ag iechyd neu faeth anifeiliaid. Mae defnyddio’r dechnoleg EID diweddaraf yn ffordd ddefnyddiol ac effeithlon o gasglu’r wybodaeth hon i’n cynorthwyo i gynyddu proffidioldeb.

Yn ôl Eirwen Williams, Cyswllt Ffermio “mae sawl ffactor yn effeithio ar effeithlonrwydd systemau gorffen ŵyn gan gynnwys rheoli llyngyr yn effeithiol. Mae astudiaethau’n dangos bod ymwrthedd i ddos yn peri problem fawr ac mae hynny’n amrywio o fferm i fferm.”

Dywedodd James Ruggeri, Swyddog Gweithredol Datblygu Diwydiant HCC: “Deall gofynion y farchnad a gosod marchnad darged ddylai ddod yn gyntaf i unrhyw gynhyrchwr defaid. Dylid dilyn hynny wedyn gyda pharu’r eneteg gywir gyda’r system orffen er mwyn cwrdd â’r farchnad darged.”

Yn 2014 a 2015 dangosodd prosiect Cymru yn Erbyn Datblygiad Ymwrthedd Gwrthlyngyrol (WAARD) HCC bod gan 34% o’r ffermydd a gymerodd ran ymwrthedd i ddau o’r pedwar grŵp o driniaeth llyngyr a brofwyd, roedd gan 28% ohonynt ymwrthedd triphlyg a 15% ohonynt yn dangos ymwrthedd i bob un.

Gall rheolaeth dda ar borfeydd, mapio halogiad a mabwysiadu gweithdrefnau rheoli parasitiaid mewn modd cynaliadwy gynorthwyo i leihau dibyniaeth ar anthelminitigau a gwella perfformiad y ddiadell.

Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau gyda’r nos ac ar fferm, a byddant yn cynnwys cyfraniadau gan Swyddogion Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio ynghyd â Swyddogion Gweithredol Datblygu Diwydiant HCC a darparwyr prosiect ymwrthiant triniaeth llyngyr.


Dyddiad:


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o